ATODLEN 6LL+CRHESYMOLDEB ATAL CYDSYNIAD, ETC.

RHAN 3LL+CAMGYLCHIADAU A ALL FOD YN BERTHNASOL I RESYMOLDEB MEWN CYSYLLTIAD Â THRAFODION PENODOL

Adran 49: cyd-ddeiliad contract arfaethedigLL+C

9(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo deiliad y contract o dan y contract meddiannaeth yn ceisio cydsyniad y landlord i ychwanegu cyd-ddeiliad contract o dan adran 49.

(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r amgylchiadau a ganlyn (yn ogystal â’r rheini sydd yn Rhan 2) gael eu hystyried (i’r graddau y maent yn berthnasol)—

(a)pa un a yw’r cyd-ddeiliad contract arfaethedig yn ddeiliad contract addas;

(b)pa un a yw’n aelod o deulu deiliad y contract (gweler adran 250) ac, os felly, natur y berthynas;

(c)pa un a yw’r cyd-ddeiliad contract arfaethedig yn debygol o ddod yn unig ddeiliad contract mewn perthynas â’r annedd;

(d)pa un a yw’r cyd-ddeiliad yn debygol, pe na bai’n cael ei wneud yn gyd-ddeiliad contract, o olynu i’r contract o dan adran 73.

(3)Gall amgylchiadau sy’n berthnasol i is-baragraff (2)(a) gynnwys pa un a yw cyd-ddeiliad y contract—

(a)yn debygol o gydymffurfio â’r contract, a

(b)wedi cydymffurfio â chontractau meddiannaeth eraill (boed fel deiliad contract o dan y contractau hynny neu fel arall).

(4)Gall amgylchiadau sy’n berthnasol i is-baragraff (2)(c) gynnwys—

(a)pa un a fyddai’r landlord wedi gallu gwrthod cydsynio pe byddai deiliad y contract wedi gofyn am gydsyniad y landlord i drosglwyddo’r contract i’r cyd-ddeiliad contract arfaethedig, a

(b)unrhyw amgylchiadau a fyddai’n berthnasol pe byddai’r landlord yn ystyried pa un ai wneud contract meddiannaeth newydd gyda’r person hwnnw mewn perthynas â’r annedd ai peidio.

(5)Gall amgylchiadau sy’n berthnasol i is-baragraff (2)(d) gynnwys effaith debygol rhoi cydsyniad ar—

(a)y personau a all fod yn gymwys i olynu i’r contract meddiannaeth yn y dyfodol, a

(b)y cyfnod y mae’r contract meddiannaeth yn debygol o barhau i fod mewn grym os oes un neu ragor o’r personau hynny yn olynu iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 6 para. 9 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

10(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo deiliad y contract o dan y contract meddiannaeth yn ceisio cydsyniad y landlord i ychwanegu cyd-ddeiliad contract o dan adran 49.

(2)Os yw’r landlord o’r farn mai effaith debygol rhoi cydsyniad yw ymestyn yn sylweddol y cyfnod y mae’r contract meddiannaeth yn debygol o barhau mewn grym, mae’n rhesymol i’r landlord osod yr amod a grybwyllir yn is-baragraff (3).

(3)Yr amod yw bod cyd-ddeiliad y contract i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel olynydd â blaenoriaeth neu fel olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 6 para. 9 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I3Atod. 6 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4Atod. 6 para. 10 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Adran 114: trosglwyddiad i olynydd posibl mewn perthynas â chontract diogelLL+C

11(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw deiliad contract o dan gontract diogel yn ceisio cydsyniad y landlord i drosglwyddo’r contract i olynydd posibl yn unol ag adran 114.

(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r amgylchiadau a ganlyn (yn ogystal â’r rheini sydd yn Rhan 2) gael eu hystyried (i’r graddau y maent yn berthnasol)—

(a)effaith debygol rhoi cydsyniad o ran y personau a all fod yn gymwys i olynu i’r contract meddiannaeth yn y dyfodol, a

(b)y cyfnod y mae’r contract meddiannaeth yn debygol o barhau i fod mewn grym os oes un neu ragor o’r personau hynny yn olynu iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 6 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I6Atod. 6 para. 11 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

12(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw deiliad contract o dan gontract diogel yn ceisio cydsyniad y landlord i drosglwyddo’r contract i olynydd posibl yn unol ag adran 114.

(2)Os yw’r landlord o’r farn mai effaith debygol rhoi cydsyniad yw ymestyn yn sylweddol y cyfnod y mae’r contract meddiannaeth yn debygol o barhau mewn grym, mae’n rhesymol i’r landlord osod yr amod a grybwyllir yn is-baragraff (3).

(3)Yr amod yw bod yr olynydd posibl i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel olynydd â blaenoriaeth neu fel olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 6 para. 11 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I7Atod. 6 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I8Atod. 6 para. 12 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Adran 118: trosglwyddiad i ddeiliad contract diogel mewn perthynas â chontract diogel gyda landlord cymunedolLL+C

13(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw deiliad contract o dan gontract diogel (“y trosglwyddwr”) yn ceisio trosglwyddo’r contract yn unol ag adran 118 i berson (“y trosglwyddai”) sy’n ddeiliad contract o dan gontract diogel arall.

(2)Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r amgylchiadau a ganlyn (yn ogystal â’r rheini sydd yn Rhan 2) gael eu hystyried (i’r graddau y maent yn berthnasol)—

(a)pa un a yw’r trosglwyddiad i fod yn rhan o gyfres o drafodion ac, os ydyw, yr holl amgylchiadau sy’n ymwneud â’r trafodion eraill y bwriedir iddynt fod yn rhan o’r gyfres (gweler hefyd baragraff 14(2)), a

(b)pa un a yw’r trosglwyddai yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract diogel y mae’n ddeiliad contract oddi tano cyn y trosglwyddiad (gweler hefyd baragraff 14(3)).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 6 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I10Atod. 6 para. 13 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

14(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw deiliad contract o dan gontract diogel (“y trosglwyddwr”) yn ceisio trosglwyddo’r contract yn unol ag adran 118 i berson (“y trosglwyddai”) sy’n ddeiliad contract o dan gontract diogel arall.

(2)Os yw’r trosglwyddiad i fod yn rhan o gyfres o drafodion mae’n rhesymol gosod amod na chaiff y trosglwyddiad ddigwydd oni fydd y trafodion eraill yn digwydd.

(3)Os yw’r trosglwyddai yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract diogel y mae’n ddeiliad contract oddi tano cyn y trosglwyddiad, mae’n rhesymol gosod amod yn ei gwneud yn ofynnol i’r trosglwyddai gael ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel olynydd o’r math hwnnw mewn perthynas â’r contract diogel a drosglwyddir iddo gan y trosglwyddwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 6 para. 13 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I11Atod. 6 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I12Atod. 6 para. 14 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2