9(1)Mae’r sail hon yn codi pan fo’n ddymunol i’r landlord adennill meddiant o’r annedd am ryw reswm rheoli ystad sylweddol arall.
(2)Caiff rheswm rheoli ystad, yn benodol, ymwneud ag—
(a)yr annedd i gyd neu ran ohoni, neu
(b)unrhyw fangre arall sydd gan y landlord y mae’r annedd yn gysylltiedig â hi, boed oherwydd agosrwydd neu oherwydd y dibenion y’i defnyddir ar eu cyfer, neu mewn unrhyw ffordd arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 8 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2Atod. 8 para. 9 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2