ATODLEN 8SEILIAU RHEOLI YSTAD

RHAN 1Y SEILIAU

RHESYMAU RHEOLI YSTAD ERAILL

Sail I (rhesymau rheoli ystad eraill)

9

(1)

Mae’r sail hon yn codi pan fo’n ddymunol i’r landlord adennill meddiant o’r annedd am ryw reswm rheoli ystad sylweddol arall.

(2)

Caiff rheswm rheoli ystad, yn benodol, ymwneud ag—

(a)

yr annedd i gyd neu ran ohoni, neu

(b)

unrhyw fangre arall sydd gan y landlord y mae’r annedd yn gysylltiedig â hi, boed oherwydd agosrwydd neu oherwydd y dibenion y’i defnyddir ar eu cyfer, neu mewn unrhyw ffordd arall.