RHAN 2LL+CCYMERADWYO CYNLLUNIAU AILDDATBLYGU AT DDIBENION SAIL B
Cymeradwyo cynllun a chymeradwyo amrywio cynllunLL+C
11(1)Caiff Gweinidogion Cymru, ar gais gan landlord, gymeradwyo at ddibenion Sail B o’r seiliau rheoli ystad gynllun ar gyfer gwaredu ac ailddatblygu ardal o dir sy’n ffurfio neu’n cynnwys y cyfan neu ran o annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth.
(2)At ddibenion y paragraff hwn—
(a)ystyr “gwaredu” yw gwaredu unrhyw fuddiant yn y tir (gan gynnwys rhoi opsiwn), a
(b)ystyr “ailddatblygu” yw dymchwel neu ailadeiladu adeiladau neu wneud gwaith arall ar adeiladau neu dir,
ac nid oes wahaniaeth a yw’r gwaredu i ragflaenu neu i ddilyn y gwaith ailddatblygu.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru, ar gais y landlord, gymeradwyo amrywio cynllun a gymeradwywyd ganddynt yn flaenorol a chânt, ymysg pethau eraill, gymeradwyo amrywiad sy’n ychwanegu tir at yr ardal sy’n ddarostyngedig i’r cynllun.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 8 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2Atod. 8 para. 11 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
Hysbysiad i ddeiliaid contract a effeithirLL+C
12(1)Os yw landlord yn bwriadu gwneud cais i Weinidogion Cymru gymeradwyo cynllun neu gymeradwyo amrywiad i gynllun a gymeradwywyd, rhaid i’r landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan unrhyw gontract meddiannaeth a effeithir.
(2)Effeithir ar gontract meddiannaeth os yw’r cynnig yn effeithio ar yr annedd sy’n ddarostyngedig iddo.
(3)Rhaid i’r hysbysiad ddatgan—
(a)prif nodweddion y cynllun arfaethedig, neu brif nodweddion yr amrywiadau arfaethedig i’r cynllun a gymeradwywyd,
(b)bod y landlord yn bwriadu gwneud cais i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r cynllun neu’r amrywiad, ac
(c)mai effaith cymeradwyaeth o’r fath, oherwydd adran 160 a Sail B o’r seiliau rheoli ystad, fydd galluogi’r landlord i wneud hawliad meddiant mewn perthynas â’r annedd.
(4)Rhaid i’r hysbysiad hefyd hysbysu deiliad y contract—
(a)y caiff wneud sylwadau i’r landlord ynglŷn â’r cynnig, a
(b)bod rhaid gwneud y sylwadau cyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad iddo (neu unrhyw gyfnod hwy a bennir gan y landlord yn yr hysbysiad).
(5)Ni chaiff y landlord wneud cais i Weinidogion Cymru hyd nes bod y landlord wedi ystyried unrhyw sylwadau a wnaed cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(6)Mae is-baragraff (7) yn gymwys yn achos landlord o dan gontract meddiannaeth y byddai (oni bai am y paragraff hwn) yn ofynnol o dan adran 234 iddo ymgynghori â deiliad y contract ynglŷn â chynllun ailddatblygu (neu amrywio cynllun ailddatblygu).
(7)Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys, bydd y paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag ymgynghoriad y landlord â deiliad y contract yn lle adran 234.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 8 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I4Atod. 8 para. 12 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
Penderfynu ynghylch cymeradwyo neu amrywioLL+C
13(1)Wrth ystyried pa un ai gymeradwyo cynllun neu amrywiad ai peidio, rhaid i Weinidogion Cymru, ymysg pethau eraill, ystyried—
(a)effaith y cynllun ar helaethder a chymeriad llety tai yn y gymdogaeth,
(b)y cyfnod amser a gynigir yn y cynllun fel y cyfnod y bydd y gwarediad a’r ailddatblygiad arfaethedig yn digwydd, ac
(c)y graddau y mae’r cynllun yn cynnwys darpariaeth ar gyfer gwerthu tai a ddarperir o dan y cynllun i bersonau perthnasol, neu i dai gael eu meddiannu gan bersonau o’r fath o dan gontractau meddiannaeth.
(2)Ystyr “personau perthnasol” yw deiliaid contract presennol o dan gontract meddiannaeth gyda’r landlord ac, os yw’r landlord yn landlord cymunedol, personau a enwebir gan y landlord.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd ystyried—
(a)unrhyw sylwadau a wneir iddynt, a
(b)i’r graddau y cânt eu dwyn i sylw Gweinidogion Cymru, unrhyw sylwadau a wneir i’r landlord.
(4)Rhaid i’r landlord roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth ynglŷn â’r sylwadau a wneir i’r landlord, ac ynglŷn â materion perthnasol eraill, y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 8 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I6Atod. 8 para. 13 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
Cynllun yn effeithio ar ran o annedd etc.LL+C
14Ni chaiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo cynllun neu amrywiad fel ei fod yn cynnwys, yn yr ardal sy’n ddarostyngedig i’r cynllun—
(a)rhan yn unig o unrhyw annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth, neu
(b)unrhyw annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth nad yw’r gwaith sy’n rhan o’r ailddatblygu’n effeithio arno ond y bwriedir ei waredu ynghyd â thir arall a effeithir felly,
oni bai eu bod yn fodlon bod modd cyfiawnhau ei chynnwys dan yr amgylchiadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 8 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I8Atod. 8 para. 14 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
Amodau yn ymwneud â chymeradwyoLL+C
15(1)Caniateir cymeradwyo yn ddarostyngedig i amodau a chaniateir mynegi bod y gymeradwyaeth i ddod i ben ar ôl cyfnod penodedig.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru, yn dilyn cais gan y landlord neu fel arall, amrywio cymeradwyaeth er mwyn—
(a)ychwanegu, dileu neu amrywio amodau y mae’r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt, neu
(b)ymestyn neu gyfyngu’r cyfnod y daw’r gymeradwyaeth i ben ar ei ddiwedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 8 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I10Atod. 8 para. 15 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
Darpariaeth arbennig ar gyfer landlordiaid cymunedolLL+C
16At ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon mae landlord cymunedol i’w drin fel landlord mewn perthynas ag annedd os oes ganddo fuddiant o unrhyw ddisgrifiad yn yr annedd honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 8 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I12Atod. 8 para. 16 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2