Diwygiadau Testunol
F1Atod. 8A wedi ei fewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 1
10(1)Contract safonol—LL+C
(a)pan fo’r tir y mae’r annedd yn sefyll arno (gan gynnwys unrhyw dir a feddiennir ynghyd â’r annedd heblaw am dir amaethyddol sy’n fwy na 0.809 hectar) yn dir neu’n rhan o dir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblygu, a
(b)pan fo’r annedd yn cael ei defnyddio gan y landlord fel llety dros dro hyd nes y bydd y tir yn cael ei ddatblygu.
(2)Mae i “datblygu” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).]
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 8A para. 10 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2