ATODLEN 1TROSOLWG O DDARPARIAETHAU SYLFAENOL A YMGORFFORIR FEL TELERAU CONTRACTAU MEDDIANNAETH
I173RHAN 1CONTRACTAU DIOGEL
DARPARIAETH SYLFAENOL | NATUR Y DDARPARIAETH | NODIADAU |
---|---|---|
Adran 31 | Rhaid i landlord (“L”) roi datganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth i ddeiliad contract (“D-C”) | |
Adrannau 39 a 40 | Rhaid i L roi enw a chyfeiriad L i D-C ynghyd â gwybodaeth arall | |
Adran 41 | Rhaid i hysbysiadau a dogfennau fod mewn ysgrifen | |
Adrannau 43 a 45 | Talu blaendaliadau etc. a’r gofyniad bod L yn defnyddio cynllun blaendal awdurdodedig | Rhaid ymgorffori adran 45 heb ei haddasu. |
Adran 49 | Caniateir i D-C, gyda chydsyniad L, ychwanegu cyd D-C | |
Adran 52 | Hawliau cyd D-C pan fo cyd D-C arall yn marw neu’n gadael y contract fel arall | Rhaid ei hymgorffori heb ei haddasu. |
Adran 54 | Rhaid i L beidio ag ymyrryd â hawl D-C i feddiannu’r annedd | |
Adran 55 | Ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall | Rhaid ei hymgorffori heb ei haddasu. |
Adran 57 | Ni chaniateir i D-C ddelio â’r contract meddiannaeth ond mewn ffyrdd cyfyngedig | |
Adran 88 | Caniateir i D-C osod tâl digolledu y mae L yn atebol i’w dalu o dan adran 87 yn erbyn rhent D-C | |
Adrannau 91 i 93 a 95 i 99 | Rhwymedigaethau L i gadw’r annedd mewn cyflwr da etc. | |
Adrannau 103 i 109 | Pryd a sut y caniateir amrywio contract | Rhaid ymgorffori adrannau 103(1)(b) a (2) a 108 heb eu haddasu. Nid yw adran 104 ond yn gymwys i gontractau y mae rhent yn daladwy oddi tanynt, ac nid yw adran 105 ond yn gymwys i gontractau y mae cydnabyddiaeth heblaw am rhent yn daladwy oddi tanynt. |
Adran 111 | Cyd D-C yn tynnu’n ôl | |
Adran 113 | Caniateir i D-C gael lletywyr | |
Adran 114 | Caniateir i D-C drosglwyddo contract i olynwyr posibl | |
Adran 118 | Hawl D-C i drosglwyddo i D-C diogel eraill | Ond yn gymwys pan fo L yn landlord cymunedol. |
Adrannau 148 i 150 | Darpariaeth gyffredinol yn ymwneud â therfynu contract | Rhaid ymgorffori adrannau 148 a 149 heb eu haddasu. |
Adrannau 152 i 155 | Terfynu heb hawliad meddiant | Rhaid ymgorffori adran 155 (marwolaeth D-C) heb ei haddasu. |
Adrannau 157 i 159 | Terfynu gan L ar sail tor contract | |
Adrannau 160 a 161 a Rhan 1 o Atodlen 8 | Terfynu gan L ar sail rheoli ystad | |
Adrannau 163 i 167 | Terfynu drwy hysbysiad a roddir gan D-C | |
Adran 206 | Effaith gorchymyn adennill meddiant | |
Adran 231 | Terfynu contract sydd â chyd D-C |
I16RHAN 2CONTRACTAU SAFONOL CYFNODOL
Atod. 1 Pt. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
Gair yn Atod. 1 Rhn. 2 table 4 wedi ei amnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 22(2)(a)(i)
Geiriau yn Atod. 1 Rhn. 2 table 4 wedi eu hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 22(2)(a)(ii)
Geiriau yn Atod. 1 Rhn. 2 table 4 wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 22(2)(b)(i)
Geiriau yn Atod. 1 Rhn. 2 table 4 wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 22(2)(b)(ii)
DARPARIAETH SYLFAENOL | NATUR Y DDARPARIAETH | NODIADAU |
---|---|---|
Adran 31 | Rhaid i landlord (“L”) roi datganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth i ddeiliad contract (“D-C”) | |
Adrannau 39 a 40 | Rhaid i L roi enw a chyfeiriad L i D-C ynghyd â gwybodaeth arall | |
Adran 41 | Rhaid i hysbysiadau a dogfennau fod mewn ysgrifen | |
Adrannau 43 a 45 | Talu blaendaliadau etc. a’r gofyniad bod L yn defnyddio cynllun blaendal awdurdodedig | Rhaid ymgorffori adran 45 heb ei haddasu. |
Adran 49 | Caniateir i D-C, gyda chydsyniad L, ychwanegu cyd D-C | |
Adran 52 | Hawliau cyd D-C pan fydd cyd D-C arall yn marw neu’n gadael y contract fel arall | Rhaid ei hymgorffori heb ei haddasu. |
Adran 54 | Rhaid i L beidio ag ymyrryd â hawl D-C i feddiannu’r annedd | |
Adran 55 | Ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall | Rhaid ei hymgorffori heb ei haddasu. |
Adran 57 | Ni chaniateir i D-C ddelio â’r contract meddiannaeth ond mewn ffyrdd cyfyngedig | |
Adran 88 | Caniateir i D-C osod tâl digolledu y mae L yn atebol i’w dalu o dan adran 87 yn erbyn rhent D-C | |
Adrannau 91 i 93 a 95 i 99 | Rhwymedigaethau L i gadw’r annedd mewn cyflwr da etc. | |
Adrannau 122 i 128 | Pryd a sut y caniateir amrywio’r contract | Rhaid ymgorffori adrannau F41122(1)(b) a (2) a 127 heb eu haddasu. Nid yw adran 123 ond yn gymwys i gontractau y mae rhent yn daladwy oddi tanynt, ac nid yw adran 124 ond yn gymwys i gontractau y mae cydnabyddiaeth heblaw am rhent yn daladwy oddi tanynt. F36... |
Adran 130 | Cyd D-C yn tynnu’n ôl | |
Adran 145 | Hawl L i wahardd D-C dros dro o lety â chymorth | Ond yn gymwys i gontractau safonol â chymorth (gweler adran 143). |
Adrannau 148 i 150 | Darpariaeth gyffredinol yn ymwneud â therfynu contract | Rhaid ymgorffori adrannau 148 a 149 heb eu haddasu. |
Adran 151 | Darpariaeth bellach ynghylch hysbysiadau sy’n eu gwneud yn ofynnol i ddeiliad-contract ildio meddiant | Ond yn gymwys i gontractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig. |
Adrannau 152 i 155 | Terfynu heb hawliad meddiant | Rhaid ymgorffori adran 155 (marwolaeth D-C) heb ei haddasu. |
Adrannau 157 i 159 | Terfynu gan L ar sail tor contract | Rhaid ymgorffori adran 158 (cymell L i wneud contract drwy ddatganiad ffug) heb ei haddasu. |
Adrannau 160 a 161 a Rhan 1 o Atodlen 8 | Terfynu gan L ar sail rheoli ystad | |
Adrannau 168 i 172 | Terfynu drwy hysbysiad a roddir gan D-C | |
F4Adrannau 173 i 175 a 177 i 180, a Rhan 1 o Atodlen 9A | Terfynu drwy hysbysiad a roddir gan L | F40Os nad yw adran 173 yn cael ei hymgorffori, nid yw adrannau 174 i 177A nac Atodlen 9A yn gymwys; ond os yw’r contract yn ymgorffori adran 173, rhaid ymgorffori Rhan 1 o Atodlen 9A heb addasiadau iddi. Mae adran 174A yn gymwys yn hytrach nag adran 174 i gontract sydd o fewn Atodlen 8A, ac nid yw adran 175 yn gymwys i gontract sydd o fewn Atodlen 9 (hyd yn oed os yw adran 173 wedi ei hymgorffori). |
Adrannau 181 a 182 | Terfynu gan L ar sail ôl-ddyledion rhent difrifol | Yn adran 182, nid yw is-adran (2) yn gymwys i gontractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig, ac nid yw is-adran (3) ond yn gymwys i gontractau o’r fath. |
Adran 183 | Hawliadau meddiant pan fo contract yn bodoli yn sgil diwedd contract safonol cyfnod penodol | Ond yn gymwys i gontract sydd yn bodoli yn sgil diwedd contract safonol cyfnod penodol (gweler adran 184(2)). |
Adran 206 | Effaith gorchymyn adennill meddiant | |
Adran 231 | Terfynu contract sydd â chyd D-C | |
Paragraff 7 o Atodlen 4 | Amrywio contract diogel yr ymdrinnir ag ef mewn datganiad ysgrifenedig o gontract safonol rhagarweiniol | Nid yw ond yn gymwys i gontractau safonol rhagarweiniol pan fo’r datganiad ysgrifenedig yn ymdrin â’r contract diogel a allai godi ar ddiwedd y cyfnod rhagarweiniol, yn unol â pharagraff 6(2) o Atodlen 4. |
I164RHAN 3CONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL
Atod. 1 Pt. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
Geiriau yn Atod. 1 Rhn. 3 table 5 wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 22(3)(a)
Geiriau yn Atod. 1 Rhn. 3 table 5 wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 22(3)(b)(i)
Geiriau yn Atod. 1 Rhn. 3 table 5 wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 22(3)(b)(ii)
DARPARIAETH SYLFAENOL | NATUR Y DDARPARIAETH | NODIADAU |
---|---|---|
Adran 31 | Rhaid i landlord (“L”) roi datganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth i ddeiliad contract (“D-C”) | |
Adrannau 39 a 40 | Rhaid i L roi enw a chyfeiriad L i D-C ynghyd â gwybodaeth arall | |
Adran 41 | Rhaid i hysbysiadau a dogfennau fod mewn ysgrifen | |
Adrannau 43 a 45 | Talu blaendaliadau etc. a’r gofyniad bod L yn defnyddio cynllun blaendal awdurdodedig | Rhaid ymgorffori adran 45 heb ei haddasu. |
Adran 49 | Caniateir i D-C, gyda chydsyniad L, ychwanegu cyd D-C | |
Adran 52 | Hawliau cyd D-C pan fydd cyd D-C arall yn marw neu’n gadael y contract fel arall | Rhaid ei hymgorffori heb ei haddasu. |
Adran 54 | Rhaid i L beidio ag ymyrryd â hawl D-C i feddiannu’r annedd | |
Adran 55 | Ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall | Rhaid ei hymgorffori heb ei haddasu. |
Adran 57 | Ni chaniateir i D-C ddelio â’r contract meddiannaeth ond mewn ffyrdd cyfyngedig | |
Adran 88 | Caniateir i D-C osod tâl digolledu y mae L yn atebol i’w dalu o dan adran 87 yn erbyn rhent D-C | |
Adrannau 91 i 93 a 95 i 99 | Rhwymedigaethau L i gadw annedd mewn cyflwr da etc. | Nid yw’n gymwys i gontractau safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o saith mlynedd neu ragor. |
Adrannau 134 i 136 | Pryd a sut y caniateir amrywio contract | Rhaid ymgorffori adrannau 134(1)(b) a (2) a 135 heb eu haddasu. Nid yw adran 135(2)(k) ond yn gymwys os oes gan gontract gymal terfynu deiliad y contract (gweler adran 189). |
Adran 145 | Hawl L i wahardd D-C dros dro o lety â chymorth | Ond yn gymwys i gontractau safonol â chymorth (gweler adran 143). |
Adrannau 148 i 150 | Darpariaeth gyffredinol yn ymwneud â therfynu contract | Rhaid ymgorffori adrannau 148 a 149 heb eu haddasu. |
Adrannau 152 i 155 | Terfynu heb hawliad meddiant | Rhaid ymgorffori adran 155 (marwolaeth D-C) heb ei haddasu (ond nid i gontractau safonol cyfnod penodol sy’n cynnwys y ddarpariaeth a grybwyllir yn adran 139(1)). |
Adrannau 157 i 159 | Terfynu gan L ar sail tor contract | Rhaid ymgorffori adran 158 (cymell L i wneud contract drwy ddatganiad ffug) heb ei haddasu. |
Adrannau 160 a 161 a Rhan 1 o Atodlen 8 | Terfynu gan L ar sail rheoli ystad | |
Adran 186 | Terfynu drwy hysbysiad a roddir gan L mewn cysylltiad â diwedd cyfnod y contract | F23Nid yw ond yn gymwys os yw’r contract o fewn Atodlen 9B. Os yw’r contract yn ymgorffori adran 186, rhaid ymgorffori Rhan 1 o Atodlen 9A heb addasiadau iddi. |
Adrannau 187 a 188 | Terfynu gan L ar sail ôl-ddyledion rhent difrifol | |
Adrannau 190 i 193 | Terfynu drwy hysbysiad a roddir gan D-C o dan gymal terfynu deiliad y contract | Nid yw ond yn gymwys os yw’r contract yn cynnwys cymal terfynu deiliad y contract. |
F17Adrannau 195, 195A a 196, a 198 i 201, a Rhan 1 o Atodlen 9A | Terfynu drwy hysbysiad a roddir gan L o dan gymal terfynu’r landlord | F12Nid yw ond yn gymwys os yw’r contract yn cynnwys cymal terfynu’r landlord; ond os oes gan y contract gymal terfynu’r landlord, rhaid ymgorffori Rhan 1 o Atodlen 9A heb addasiadau iddi. Mae adran 195A yn gymwys yn lle adran 195 i gontract sydd o fewn Atodlen 8A, ac nid yw adran 196 yn gymwys i gontract sydd o fewn Atodlen 9. |
Adran 206 | Effaith gorchymyn adennill meddiant | |
Adran 231 | Terfynu contract sydd â chyd D-C |
ATODLEN 2EITHRIADAU I ADRAN 7
RHAN 1TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU NAD YDYNT O FEWN ADRAN 7 SY’N GONTRACTAU MEDDIANNAETH OS RHODDIR HYSBYSIAD
I231Y rheol
1
Caniateir i denantiaeth neu drwydded nad yw o fewn adran 7 fod yn gontract meddiannaeth—
a
os yw’n rhoi’r hawl i unigolyn (“y buddiolwr”), heblaw’r person y’i gwneir ag ef, feddiannu’r annedd fel cartref, a
b
os bodlonir yr amod hysbysu.
2
Caniateir i denantiaeth neu drwydded nad yw o fewn adran 7 am nad oes unrhyw rent na chydnabyddiaeth arall yn daladwy oddi tani (ac nad yw is-baragraff (1) yn gymwys iddi) fod yn gontract meddiannaeth os bodlonir yr amod hysbysu.
3
Mae’r amod hysbysu wedi ei fodloni os yw’r landlord, cyn gwneud y denantiaeth neu’r drwydded neu ar adeg ei gwneud, yn rhoi hysbysiad i’r person y’i gwneir ag ef yn datgan y bydd yn gontract meddiannaeth.
I1722Contractau er budd rhywun arall: darpariaeth bellach
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan roddir hysbysiad o dan baragraff 1(3) mewn perthynas â thenantiaeth neu drwydded o fewn paragraff 1(1)(a).
2
Caniateir i’r hysbysiad bennu darpariaethau o’r Ddeddf hon a rheoliadau a wneir oddi tani sydd i gael effaith mewn perthynas â’r contract meddiannaeth fel pe bai cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn gyfeiriadau at y buddiolwr.
3
Os yw’n gwneud hynny, mae’r darpariaethau a bennir yn yr hysbysiad yn cael effaith yn unol â hynny.
4
Mae adran 20(1)(b) a (2)(b) yn gymwys i ddarpariaethau sylfaenol a bennir yn yr hysbysiad fel pe bai cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn gyfeiriadau at y buddiolwr.
RHAN 2TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU O FEWN ADRAN 7 NAD YDYNT YN GONTRACTAU MEDDIANNAETH ONI RODDIR HYSBYSIAD
I833Y rheol
1
Nid yw tenantiaeth neu drwydded sydd o fewn adran 7, ond y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddi, yn gontract meddiannaeth oni bai y bodlonir yr amod hysbysu.
2
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i denantiaeth neu drwydded—
a
sy’n rhoi’r hawl i feddiannu annedd at ddibenion gwyliau,
b
sy’n ymwneud â darparu llety mewn sefydliad gofal (gweler paragraff 4),
c
sy’n drefniant hwylus dros dro (gweler paragraff 5), neu
d
y mae’r eithriad llety a rennir yn gymwys iddi (gweler paragraff 6).
3
Mae’r amod hysbysu wedi ei fodloni os yw’r landlord, cyn neu ar adeg gwneud y denantiaeth neu’r drwydded, yn rhoi hysbysiad i’r person y’i gwneir ag ef yn datgan y bydd yn gontract meddiannaeth.
I314Ystyr “sefydliad gofal”
Ystyr “sefydliad gofal” yw—
a
ysbyty gwasanaeth iechyd, yn yr ystyr sydd i “health service hospital” yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 49) (gweler adran 206(1) o’r Ddeddf honno),
b
ysbyty annibynnol, cartref gofal neu ganolfan breswyl i deuluoedd, yn yr ystyr sydd i “independent hospital”, “care home” a “residential family centre” yn Neddf Safonau Gofal 2000 (p. 14) (gweler adrannau 2 i 4 o’r Ddeddf honno), neu
c
cartref plant y mae person wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno mewn perthynas ag ef.
I755Ystyr “trefniant hwylus dros dro”
1
Mae tenantiaeth neu drwydded yn drefniant hwylus dros dro os caiff ei gwneud fel trefniant hwylus dros dro gyda pherson a aeth i’r annedd y mae’n berthnasol iddi (neu unrhyw annedd arall) fel tresmaswr.
2
At ddibenion y paragraff hwn mae’n amherthnasol a wnaed, cyn dechrau’r denantiaeth neu’r drwydded, denantiaeth neu drwydded arall i feddiannu’r annedd (neu unrhyw annedd arall) â’r person ai peidio.
3
Nid yw tenantiaeth neu drwydded sy’n dod i fodolaeth yn sgil adran 238 yn drefniant hwylus dros dro.
I1576Ystyr “llety a rennir”
1
Mae’r eithriad llety a rennir yn gymwys—
a
os yw telerau’r denantiaeth neu’r drwydded yn darparu i’r tenant neu’r trwyddedai rannu unrhyw lety gyda’r landlord, a
b
os yw’r landlord, yn union cyn gwneud y denantiaeth neu’r drwydded, yn meddiannu annedd sy’n cynnwys y cyfan neu ran o’r llety a rennir fel ei unig gartref neu ei brif gartref.
2
Ond nid yw’r eithriad yn gymwys o dan is-baragraff (1) ond tra bo’r person sy’n landlord o bryd i’w gilydd mewn perthynas â’r denantiaeth neu’r drwydded yn parhau i feddiannu annedd o’r fath fel unig gartref neu fel prif gartref y person hwnnw.
3
Mae’r eithriad llety a rennir hefyd yn gymwys—
a
os yw telerau’r denantiaeth neu’r drwydded yn darparu i’r tenant neu’r trwyddedai rannu unrhyw lety gyda pherson arall (“y buddiolwr”),
b
os yw’r buddiolwr, yn union cyn gwneud y denantiaeth neu’r drwydded, yn meddiannu annedd sy’n cynnwys y cyfan neu ran o’r llety a rennir fel ei unig gartref neu ei brif gartref,
c
os yw’r annedd honno’n ddarostyngedig i ymddiriedolaeth, a
d
os oes gan y buddiolwr o dan yr ymddiriedolaeth—
i
hawl i fuddiant yn yr annedd, a
ii
o ganlyniad i’r hawl honno, hawl i feddiannu’r annedd.
4
Ond nid yw’r eithriad yn gymwys o dan is-baragraff (3) ond tra bo’r buddiolwr yn parhau i feddiannu annedd o’r fath fel ei unig gartref neu ei brif gartref.
5
Mae tenant neu drwyddedai yn rhannu llety gyda’r landlord neu’r buddiolwr os yw’r tenant neu’r trwyddedai â defnydd ohoni yn gyffredin â’r landlord neu’r buddiolwr (boed yn gyffredin ag eraill ai peidio).
6
Nid yw “llety” yn cynnwys ardal a ddefnyddir fel storfa, na grisiau, tramwyfa, coridor na dull arall o fynd iddo.
7
Os yw dau neu ragor o bersonau yn landlord mewn perthynas â thenantiaeth neu drwydded, mae cyfeiriadau at y landlord yn gyfeiriadau at unrhyw un ohonynt.
RHAN 3TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU NAD YDYNT BYTH YN GONTRACTAU MEDDIANNAETH
I171I1397Y rheol
1
Nid yw tenantiaeth neu drwydded yn gontract meddiannaeth ar unrhyw adeg pan fo’r paragraff hwn yn berthnasol iddi.
2
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i denantiaeth neu drwydded os yw pob un o’r personau y’i gwneir â hwy wedi eu heithrio rhag bod yn ddeiliaid contract gan adran 7(6) (unigolion nad ydynt wedi cyrraedd 18 oed).
3
Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys i—
a
tenantiaeth y mae Rhan 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1954 (p. 56) (tenantiaethau busnes) yn gymwys iddi;
b
meddiannaeth warchodedig neu denantiaeth statudol o fewn ystyr Deddf Rhenti (Amaethyddiaeth) 1976 (p. 80);
c
tenantiaeth warchodedig neu denantiaeth statudol o fewn ystyr Deddf Rhenti 1977 (p. 42);
F8d
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
e
tenantiaeth o ddaliad amaethyddol o fewn ystyr Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 (p. 5);
f
tenantiaeth busnes fferm o fewn ystyr Deddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 (p. 8);
g
tenantiaeth hir (gweler paragraff 8);
h
tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â llety’r lluoedd arfog (gweler paragraff 9);
i
tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â llety mynediad uniongyrchol (gweler paragraff 10).
j
tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â llety a ddarperir—
i
gan, neu ar ran, yr Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â gofyniad a osodwyd o dan adran 3(6) (darpariaethau cyffredinol) o Ddeddf Mechnïaeth 1976 (p. 63), neu
ii
o dan Ran 1 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau prawf) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 (p. 21) at y dibenion prawf (o fewn ystyr adran 1 o’r Ddeddf honno);
k
tenantiaeth neu drwydded sy’n ymwneud â—
i
llety a ddarperir o dan adran 4 (llety) neu Ran 6 (cymorth i geiswyr lloches etc.) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (p. 33), neu
ii
cyfleusterau a ddarperir o dan baragraff 9 o Atodlen 10 i Ddeddf Mewnfudo 2016 (c. 19) (mechnïaeth mewnfudo) ar gyfer llety i berson a ddarperir mewn cyfeiriad a bennir mewn amod mechnïaeth mewnfudo.
I1478Ystyr “tenantiaeth hir”
1
Ystyr “tenantiaeth hir” yw—
a
tenantiaeth am gyfnod penodol o fwy na 21 mlynedd (pa un a ellir ei derfynu neu y caniateir ei derfynu cyn diwedd y cyfnod hwnnw drwy hysbysiad a roddir gan y tenant neu drwy ailfynediad neu fforffediad ai peidio),
b
tenantiaeth am gyfnod sydd wedi ei bennu gan y gyfraith oherwydd cyfamod neu rwymedigaeth i’w hadnewyddu’n barhaus, ac eithrio tenantiaeth drwy is-les o dan un nad yw’n denantiaeth hir, neu
c
tenantiaeth a wneir yn unol â Rhan 5 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (yr hawl i brynu), gan gynnwys tenantiaeth a wneir yn unol â’r Rhan honno F19fel yr oedd y Rhan honno yn cael effaith oherwydd adran 17 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (yr hawl i gaffael).
2
Ond nid yw tenantiaeth y gellir ei therfynu drwy hysbysiad ar ôl marwolaeth yn denantiaeth hir oni bai ei bod yn denantiaeth cydberchnogaeth.
3
Tenantiaeth cydberchnogaeth yw tenantiaeth—
a
a wnaed â chymdeithas dai a oedd yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig,
b
a wnaed am bremiwm a gyfrifwyd drwy gyfeirio at ganran o werth yr annedd neu gost ei darparu, ac
c
a oedd, pan gafodd ei gwneud, yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau cydberchnogaeth a oedd mewn grym ar y pryd.
4
Mae tenantiaeth a wnaed cyn bod unrhyw reoliadau cydberchnogaeth mewn grym i’w thrin fel pe bai o fewn is-baragraff (3)(c) os oedd, pan wnaed y denantiaeth, yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau cyntaf o’r fath i ddod i rym ar ôl iddi gael ei gwneud.
5
Ystyr “rheoliadau cydberchnogaeth” yw rheoliadau o dan—
a
adran 140(4)(b) o Ddeddf Tai 1980 (p. 51), neu
b
paragraff 5 o Atodlen 4A i Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 (p. 88) a wnaed at ddibenion paragraff 4(2)(b) o’r Atodlen honno.
I1519Ystyr “llety’r lluoedd arfog”
Llety’r lluoedd arfog yw llety a ddarperir i—
a
aelod o unrhyw un o luoedd Ei Mawrhydi,
b
aelod o deulu aelod o unrhyw un o luoedd Ei Mawrhydi, neu
c
sifiliad sy’n ddarostyngedig i ddisgyblaeth y lluoedd arfog (o fewn ystyr adran 370 o Ddeddf y Lluoedd Arfog 2006 (p. 52)),
at ddibenion unrhyw un neu ragor o luoedd Ei Mawrhydi.
I12610Ystyr “llety mynediad uniongyrchol”
1
Llety mynediad uniongyrchol yw llety—
a
a ddarperir gan landlord cymunedol neu elusen gofrestredig,
b
a ddarperir (cyn belled a’i fod ar gael) mewn ymateb i’r galw i unrhyw berson yr ymddengys ei fod yn bodloni meini prawf a bennir gan y landlord cymunedol neu’r elusen, ac
c
na ddarperir ond am gyfnodau o 24 awr (neu lai) ar y tro.
2
Caiff llety fod yn llety mynediad uniongyrchol hyd yn oed os caiff ei ddarparu i’r un person am sawl cyfnod yn olynol.
RHAN 4TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU Y MAE RHEOLAU ARBENNIG YN GYMWYS IDDYNT: DIGARTREFEDD
I11811
Nid yw tenantiaeth neu drwydded o fewn adran 7, ond a wneir gydag unigolyn gan awdurdod tai lleol oherwydd swyddogaethau’r awdurdod o dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) (digartrefedd), yn gontract meddiannaeth oni bai bod yr awdurdod yn fodlon bod ganddo ddyletswydd tuag at yr unigolyn o dan adran 75(1) o’r Ddeddf honno (dyletswydd i sicrhau bod llety addas ar gael).
I15512
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol, yn unol ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau darparu tai i’r digartref, yn gwneud trefniadau â landlord perthnasol ar gyfer darparu llety.
2
Nid yw tenantiaeth neu drwydded sydd o fewn adran 7, ond a wneir â landlord perthnasol yn unol â’r trefniadau, yn gontract meddiannaeth hyd nes yn union ar ôl diwedd y cyfnod hysbysu.
3
Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys os yw’r landlord, cyn diwedd y cyfnod hysbysu, yn rhoi hysbysiad i’r person y gwneir y denantiaeth neu’r drwydded ag ef ei bod yn gontract meddiannaeth.
4
Y cyfnod hysbysu yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ag—
a
y diwrnod y cafodd y person hwnnw ei hysbysu—
i
o ganlyniad asesiad yr awdurdod o dan adran 62 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) neu o benderfyniad yr awdurdod o dan adran 80(5) o’r Ddeddf honno, neu (yn ôl y digwydd)
ii
o benderfyniad yr awdurdod o dan adran 184(3) neu 198(5) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52), neu
b
os oes—
i
adolygiad o’r penderfyniad hwnnw o dan adran 85 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 neu apêl i’r llys sirol o dan adran 88 o’r Ddeddf honno, neu (yn ôl y digwydd)
ii
adolygiad o’r penderfyniad hwnnw o dan adran 202 o Ddeddf Tai 1996 neu apêl i’r llys o dan adran 204 o’r Ddeddf honno,
y diwrnod yr hysbysir y person hwnnw o ganlyniad yr asesiad neu o benderfyniad yr adolygiad, neu’r diwrnod y penderfynir yn derfynol ar yr apêl.
5
Yn y paragraff hwn—
ystyr “awdurdod tai lleol” (“local housing authority”) yw—
- a
mewn perthynas â Chymru, cyngor sir ar gyfer ardal yng Nghymru neu gyngor bwrdeistref sirol, a
- b
mewn perthynas â Lloegr, cyngor dosbarth, cyngor bwrdeistref yn Llundain, Cyngor Cyffredin Dinas Llundain neu Gyngor Ynysoedd Sili;
- a
ystyr “landlord perthnasol” (“relevant landlord”) yw—
- a
landlord cymunedol sy’n landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig, neu
- b
landlord preifat;
- a
ystyr “swyddogaethau darparu tai i’r digartref” (“homelessness housing functions”) yw—
- a
mewn perthynas ag awdurdod tai lleol ar gyfer ardal yng Nghymru, ei swyddogaethau o dan adrannau 68, 73, 75, 82 ac 88(5) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, a
- b
mewn perthynas ag awdurdod tai lleol ar gyfer ardal yn Lloegr, ei swyddogaethau o dan adrannau 188, 190, 200 a 204(4) o Ddeddf Tai 1996.
- a
RHAN 5TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU Y MAE RHEOLAU ARBENNIG YN GYMWYS IDDYNT: LLETY Â CHYMORTH
I11713
1
Nid yw tenantiaeth neu drwydded sydd o fewn adran 7, ond sy’n ymwneud â llety â chymorth (gweler adran 143), yn gontract meddiannaeth os yw’r landlord yn bwriadu nad yw’r llety a ddarperir o dan y denantiaeth neu’r drwydded i fod yn ddarostyngedig i gontract meddiannaeth.
2
Ond os yw’r denantiaeth neu’r drwydded yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol, mae’n dod yn gontract meddiannaeth yn union ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw.
3
Y cyfnod perthnasol (yn ddarostyngedig i baragraff 14) yw—
a
y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r denantiaeth neu’r drwydded, neu
b
os yw’r cyfnod perthnasol wedi ei ymestyn o dan baragraff 15, y cyfnod sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r denantiaeth neu’r drwydded ac sy’n dod i ben â’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o estyniad.
4
Dyddiad meddiannu tenantiaeth neu drwydded sy’n dod yn gontract meddiannaeth o dan is-baragraff (2) yw’r diwrnod yn union ar ôl diwrnod olaf y cyfnod perthnasol.
5
At ddibenion y Rhan hon, dyddiad dechrau tenantiaeth neu drwydded yw’r diwrnod y mae gan y tenant neu’r trwyddedai hawl o dan y denantiaeth neu’r drwydded i feddiannu’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r denantiaeth neu’r drwydded am y tro cyntaf.
I16214Ystyr y cyfnod perthnasol pan fo contractau blaenorol
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â thenantiaeth neu drwydded a grybwyllir ym mharagraff 13(1) (“y denantiaeth neu’r drwydded bresennol”)—
a
os oedd gan y tenant neu’r trwyddedai hawl flaenorol i feddiannu llety â chymorth o dan un neu ragor o gontractau blaenorol perthnasol, a
b
os yw’r denantiaeth neu’r drwydded bresennol yn olynu contract blaenorol perthnasol yn uniongyrchol.
2
Tenantiaeth neu drwydded yw contract blaenorol perthnasol, sy’n ymwneud â llety â chymorth ac—
a
â’r annedd y mae’r denantiaeth neu’r drwydded bresennol yn berthnasol iddi (“yr annedd bresennol”);
b
os yw’r annedd bresennol yn ffurfio rhan o adeilad yn unig, ag annedd arall—
i
sydd yn yr adeilad hwnnw, neu
ii
os yw’r adeilad hwnnw yn un o nifer o adeiladau a reolir fel un endid, sydd yn unrhyw un neu ragor o’r adeiladau hynny.
3
Os un tenant neu drwyddedai un unig sydd, ac un contract blaenorol perthnasol, y cyfnod perthnasol yw—
a
y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r contract blaenorol perthnasol, neu
b
os yw’r cyfnod perthnasol wedi ei ymestyn o dan baragraff 15, y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad o estyniad.
4
Os un tenant neu drwyddedai yn unig sydd, a bod dau neu ragor o gontractau blaenorol perthnasol yn olynu ei gilydd yn uniongyrchol, y cyfnod perthnasol yw—
a
y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r cyntaf o’r contractau hynny, neu
b
os yw’r cyfnod perthnasol wedi ei ymestyn o dan baragraff 15, y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad o estyniad.
5
Os oes cyd-denantiaid neu gyd-drwyddedeion, y cyfnod perthnasol yw—
a
y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r dyddiad a gyfrifir—
i
drwy ddarganfod, mewn perthynas â phob cyd-denant neu gyd-drwyddedai, y dyddiad y byddai’r cyfnod perthnasol yn dechrau o dan is-baragraffau (3)(a) neu (4)(a) pe byddai’n unig denant neu’n unig drwyddedai, a
ii
drwy gymryd y cynharaf o’r dyddiadau hynny, neu
b
os yw’r cyfnod perthnasol wedi ei ymestyn o dan baragraff 15, y cyfnod a nodir yn yr hysbysiad o estyniad.
6
Mae tenantiaeth neu drwydded (“contract 2”) yn olynydd uniongyrchol i denantiaeth neu drwydded arall (“contract 1”) os yw contract 1 yn dod i ben yn union cyn dyddiad dechrau contract 2.
I8915Ymestyn y cyfnod perthnasol
1
Caniateir i’r landlord (unwaith neu fwy nag unwaith) ymestyn cyfnod perthnasol tenantiaeth neu drwydded a grybwyllir ym mharagraff 13(1) drwy roi hysbysiad o estyniad i’r tenant neu’r trwyddedai yn unol â’r paragraff hwn.
2
Ni chaniateir ymestyn y cyfnod perthnasol gan fwy na thri mis ar unrhyw achlysur unigol.
3
Rhaid rhoi’r hysbysiad o estyniad o leiaf bedair wythnos cyn y dyddiad y byddai’r cyfnod perthnasol yn dod i ben o dan ba un bynnag o’r canlynol sy’n gymwys—
a
paragraff 13(3)(a) neu (b);
b
paragraff 14(3)(a) neu (b);
c
paragraff 14(4)(a) neu (b);
d
paragraff 14(5)(a) neu (b).
4
Cyn rhoi hysbysiad o estyniad, rhaid i’r landlord ymgynghori â’r tenant neu’r trwyddedai.
5
Ni chaiff landlord (ac eithrio awdurdod tai lleol) roi hysbysiad o estyniad heb gydsyniad yr awdurdod tai lleol y darperir y llety yn ei ardal.
6
Rhaid i’r hysbysiad o estyniad—
a
datgan bod y landlord wedi penderfynu ymestyn y cyfnod perthnasol,
b
nodi’r rhesymau dros ymestyn y cyfnod perthnasol,
c
os nad yw’r landlord yn awdurdod tai lleol, datgan bod yr awdurdod tai lleol y darperir y llety yn ei ardal wedi cydsynio i’r estyniad, a
d
pennu’r dyddiad y bydd y cyfnod perthnasol yn dod i ben.
7
Rhaid i’r hysbysiad o estyniad hefyd hysbysu’r tenant neu’r trwyddedai bod ganddo hawl i wneud cais am adolygiad yn y llys sirol o dan baragraff 16, a’i hysbysu erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y cais.
8
Wrth benderfynu ymestyn y cyfnod perthnasol, caiff y landlord ystyried—
a
ymddygiad y tenant neu’r trwyddedai (neu, os oes mwy nag un tenant neu drwyddedai, ymddygiad unrhyw un neu ragor ohonynt), a
b
ymddygiad unrhyw berson yr ymddengys i’r landlord ei fod yn byw yn yr annedd.
9
Caiff y landlord ystyried ymddygiad person o dan is-baragraff (8)(b) pa un a yw’r person yn byw yn barhaol yn yr annedd ai peidio, ac ym mha rinwedd bynnag y mae’r person yn byw yn yr annedd.
I5410
Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau at ddibenion is-baragraff (5), gan gynnwys darpariaeth am y weithdrefn sydd i’w dilyn mewn perthynas â sicrhau cydsyniad awdurdod tai lleol.
I5016Adolygiad y llys sirol o benderfyniad i ymestyn
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo landlord yn rhoi hysbysiad o estyniad o dan baragraff 15 i denant neu drwyddedai.
2
Caiff y tenant neu’r trwyddedai wneud cais i’r llys sirol am adolygiad—
a
pan fo’r landlord yn awdurdod tai lleol, o’r penderfyniad i roi hysbysiad o estyniad, neu
b
pan na fo’r landlord yn awdurdod tai lleol, o benderfyniad yr awdurdod tai lleol i gydsynio bod y landlord yn rhoi’r hysbysiad o estyniad.
3
Rhaid gwneud y cais cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad o estyniad i’r tenant neu’r trwyddedai.
4
Caiff y llys sirol roi caniatâd i gais gael ei wneud ar ôl diwedd y cyfnod a ganiateir gan is-baragraff (3), ond dim ond os yw’n fodlon—
a
os ceisir caniatâd cyn diwedd y cyfnod hwnnw, bod rheswm da nad yw’r tenant neu’r trwyddedai wedi gallu gwneud y cais mewn pryd, neu
b
os ceisir caniatâd ar ôl hynny, bod rheswm da bod y tenant neu’r trwyddedai wedi methu â gwneud y cais mewn pryd ac am unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd.
5
Caiff y llys sirol—
a
cadarnhau neu ddiddymu’r penderfyniad, neu
b
amrywio hyd yr estyniad (yn ddarostyngedig i baragraff 15(2)).
6
Wrth ystyried a ddylai gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu, neu amrywio hyd yr estyniad, rhaid i’r llys sirol gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys pan wneir cais am adolygiad barnwrol.
7
Os yw’r llys sirol yn amrywio hyd yr estyniad, mae’r hysbysiad o estyniad yn cael effaith yn unol â hynny.
8
Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad—
a
nid oes unrhyw effaith i’r hysbysiad o estyniad, a
b
caiff y llys sirol wneud unrhyw orchymyn y gallai’r Uchel Lys ei wneud wrth wneud gorchymyn diddymu ar gais am adolygiad barnwrol.
9
Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad a bod y landlord yn rhoi hysbysiad pellach o estyniad o dan baragraff 15 i’r tenant neu’r trwyddedai cyn diwedd y cyfnod ôl-adolygiad, mae’r hysbysiad yn cael effaith fel pe bai wedi ei roi yn unol â pharagraff 15(3) (heblaw at ddibenion is-baragraff (3)).
10
Y cyfnod ôl-adolygiad yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r llys sirol yn amrywio hyd yr estyniad neu’n diddymu’r penderfyniad.
RHAN 6PŴER I DDIWYGIO’R ATODLEN
I156I10117
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen hon drwy reoliadau.
ATODLEN 3CONTRACTAU MEDDIANNAETH A WNEIR GYDA NEU A FABWYSIEDIR GAN LANDLORDIAID CYMUNEDOL Y CANIATEIR IDDYNT FOD YN GONTRACTAU SAFONOL
I1251Contractau meddiannaeth drwy hysbysiad
Contract meddiannaeth na fyddai’n gontract meddiannaeth oni bai am hysbysiad o dan baragraff 1 neu 3 o Atodlen 2.
I1122Llety â chymorth
Contract meddiannaeth sy’n ymwneud â llety â chymorth.
I1453Meddiannaeth ragarweiniol
1
Contract meddiannaeth o fewn y paragraff hwn nad yw’n ymwneud â llety â chymorth.
2
Mae contract meddiannaeth o fewn y paragraff hwn oni bai, yn union cyn y dyddiad perthnasol—
a
bod deiliad contract oddi tano yn ddeiliad contract o dan gontract diogel, a
b
bod y landlord o dan y contract diogel yn landlord cymunedol.
3
Y dyddiad perthnasol—
a
mewn perthynas â chontract a wneir â landlord cymunedol, yw’r dyddiad meddiannu, a
b
mewn perthynas â chontract y daw landlord cymunedol yn landlord oddi tano, yw’r diwrnod y daw’n landlord.
F444F44...
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F43 5Llety i bersonau sydd wedi eu dadleoli
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
I206Llety i bersonau digartref
Contract meddiannaeth a wneir fel y disgrifir ym mharagraff 11 neu 12 o Atodlen 2 (llety i bersonau digartref).
I527Meddiannaeth yn rhinwedd swydd: cyffredinol
1
Contract meddiannaeth—
a
pan fo deiliad y contract wedi ei gyflogi gan gyflogwr perthnasol, a
b
y mae’n ofynnol i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd yn ôl ei gontract cyflogaeth.
2
Ystyr “cyflogwr perthnasol” yw—
a
awdurdod lleol;
b
corfforaeth dref newydd;
c
ymddiriedolaeth gweithredu tai;
d
corfforaeth datblygu trefol;
e
landlord cymdeithasol cofrestredig (ac eithrio cymdeithas dai gwbl gydfuddiannol neu gymdeithas dai gydweithredol);
f
darparwr tai cymdeithasol cofrestredig preifat;
g
rheolwr sy’n cyflawni swyddogaethau rheoli awdurdod tai lleol o dan gytundeb rheoli;
h
corff llywodraethu unrhyw un o’r ysgolion a ganlyn (gweler Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31))—
i
ysgol wirfoddol a gynorthwyir,
ii
ysgol sefydledig, neu
iii
ysgol arbennig sefydledig.
3
Ystyr “cytundeb rheoli” yw cytundeb o dan adran 27 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) ac ystyr “rheolwr” yw person y gwneir y cytundeb ag ef.
I1658Meddiannaeth yn rhinwedd swydd: yr heddlu
Contract meddiannaeth—
a
pan fo deiliad y contract yn aelod o heddlu, a
b
pan fo’r annedd yn cael ei darparu i ddeiliad y contract yn ddi-rent o dan reoliadau a wnaed o dan adran 50 o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p. 16) (rheoliadau cyffredinol o ran llywodraethu, gweinyddu ac amodau gwasanaeth).
I1409Meddiannaeth yn rhinwedd swydd: y gwasanaethau tân ac achub
Contract meddiannaeth—
a
pan fo deiliad y contract yn cael ei gyflogi gan awdurdod tân ac achub,
b
pan fo contract cyflogaeth deiliad y contract yn ei gwneud yn ofynnol iddo fyw yn agos at orsaf dân benodol, ac
c
pan fo’r annedd yn cael ei darparu ar ei gyfer gan yr awdurdod tân ac achub o ganlyniad i’r gofyniad hwnnw.
I9210Llety myfyrwyr
1
Contract meddiannaeth pan fo’r hawl i feddiannu yn cael ei rhoi at ddiben galluogi deiliad y contract i fynychu cwrs dynodedig mewn sefydliad addysgol F39yn unig.
I62
Ystyr “cwrs dynodedig” yw cwrs o unrhyw fath a ragnodir at ddibenion y paragraff hwn.
3
Ystyr “sefydliad addysgol” yw sefydliad neu brifysgol sy’n darparu addysg bellach neu addysg uwch (neu’r ddau); ac mae i “addysg bellach” ac “addysg uwch” yr un ystyron â “further education” a “higher education” yn Neddf Addysg 1996 (p. 56) (gweler adrannau 2 a 579 o’r Ddeddf honno).
I10511Llety dros dro: tir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblygu
1
Contract meddiannaeth—
a
pan fo’r tir y mae’r annedd yn sefyll arno (gan gynnwys unrhyw dir a feddiennir ynghyd â’r annedd heblaw am dir amaethyddol sy’n fwy na 0.809 hectar) yn dir neu’n rhan o dir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblygu, a
b
pan fo’r annedd yn cael ei defnyddio gan y landlord fel llety dros dro hyd nes y bydd y tir yn cael ei ddatblygu.
2
Mae i “datblygu” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).
I4712Llety dros dro: personau sy’n dechrau gwaith
Contract meddiannaeth—
a
pan nad oedd deiliad y contract yn byw yn ardal yr awdurdod tai lleol y mae’r annedd ynddi yn union cyn gwneud y contract,
b
pan fo deiliad y contract wedi cael gwaith neu wedi cael cynnig gwaith yn yr ardal honno neu mewn ardal awdurdod tai lleol gyfagos cyn gwneud y contract, ac
c
pan fo’r hawl i feddiannu wedi ei rhoi at ddiben diwallu angen deiliad y contract am lety dros dro yn ardal yr awdurdod tai lleol y mae’r annedd ynddi neu yn ardal awdurdod tai lleol gyfagos er mwyn gweithio yno, a’i alluogi i ganfod llety parhaol yno.
I17513Llety dros dro: trefniadau tymor byr
Contract meddiannaeth—
a
pan fo’r annedd wedi ei gosod i’r landlord â meddiant gwag i’w defnyddio fel llety dros dro,
b
pan fo telerau ei gosod yn cynnwys darpariaeth i’r lesydd gael meddiant gwag gan y landlord ar ddiwedd cyfnod penodedig neu pan fo’n ofynnol gan y lesydd,
c
nad yw’r lesydd oddi tano yn landlord cymunedol, a
d
nad oes gan y landlord unrhyw fuddiant yn yr annedd ac eithrio o dan y les dan sylw neu fel morgeisiwr.
I1414Llety dros dro: llety yn ystod gwaith
1
Contract meddiannaeth—
a
pan fo’r annedd (yr “annedd dros dro”) wedi ei darparu i’w meddiannu gan ddeiliad y contract tra bo gwaith yn cael ei wneud ar yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu fel cartref,
b
pan nad yw landlord yr annedd dros dro yr un â landlord yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu (yr “hen annedd”), ac
c
pan nad oedd deiliad y contract yn ddeiliad contract yr hen annedd o dan gontract diogel ar yr adeg y peidiodd â’i meddiannu fel cartref.
2
Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn cynnwys cyfeiriadau at ragflaenydd deiliaid y contract.
3
At ddibenion is-baragraff (2), mae person yn rhagflaenydd i ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth os oedd y person hwnnw yn ddeiliad contract blaenorol o dan yr un contract.
I17915Llety nad yw’n llety cymdeithasol
1
Contract meddiannaeth—
a
pan nad oedd y rheolau dyrannu yn gymwys i wneud y contract, neu
b
pan fo’r annedd yn cael ei darparu i ddeiliad y contract oherwydd ei fod yn weithiwr allweddol.
2
Y rheolau dyrannu yw rheolau’r landlord ar gyfer pennu blaenoriaeth rhwng ymgeiswyr wrth ddyrannu llety tai, ac maent yn cynnwys unrhyw reol neu arfer sy’n golygu bod y landlord yn darparu llety i bersonau a enwebir gan awdurdod tai lleol.
I653
Penderfynir a yw deiliad contract yn “weithiwr allweddol” yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
I654
Caiff y rheoliadau gynnwys darpariaeth sy’n nodi gweithwyr allweddol drwy gyfeirio at natur eu cyflogaeth, at bwy yw eu cyflogwr, ac at swm eu henillion.
I3416Anheddau a fwriedir ar gyfer trosglwyddo
Contract meddiannaeth—
a
pan fo’r landlord cymunedol yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol cofrestredig preifat,
b
pan fo’r landlord wedi caffael neu adeiladu neu wedi datblygu’r annedd mewn ffordd arall gyda’r bwriad o’i throsglwyddo i gymdeithas dai gwbl gydfuddiannol neu gymdeithas dai gydweithredol, ac
c
pan wneir y contract meddiannaeth ymlaen llaw gan ragweld trosglwyddo’r annedd.
I86I8717Pŵer i ddiwygio’r Atodlen
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen hon drwy reoliadau.
ATODLEN 4CONTRACTAU SAFONOL RHAGARWEINIOL
I401Y cyfnod rhagarweiniol
1
Y cyfnod rhagarweiniol, mewn perthynas â chontract meddiannaeth sy’n gontract safonol cyfnodol oherwydd bod yr eithriad cyntaf yn adran 11 neu 12 yn gymwys ac oherwydd ei fod o fewn paragraff 3 o Atodlen 3—
a
yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â dyddiad cyflwyno’r contract, neu
b
os oes estyniad o dan baragraff 3, yw’r cyfnod o 18 mis sy’n dechrau â dyddiad cyflwyno’r contract.
2
Mae is-baragraff (3) yn gymwys yn lle is-baragraff (1) os, ar ddiwedd yr hyn fyddai’r cyfnod rhagarweiniol o dan is-baragraff (1)—
a
oes hawliad meddiant a wnaed gan y landlord mewn perthynas â’r annedd heb gael ei gwblhau, neu
b
yw’r landlord wedi rhoi hysbysiad adennill meddiant neu hysbysiad o dan adran 173 (hysbysiad y landlord i derfynu’r contract) i ddeiliad y contract, ac nad yw’r cyfnod y caiff y landlord wneud hawliad meddiant cyn iddo ddod i ben wedi dod i ben.
3
Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys, y cyfnod rhagarweiniol yw’r cyfnod sy’n dechrau â dyddiad cyflwyno’r contract ac sy’n dod i ben—
a
pan geir digwyddiad perthnasol, neu
b
os na cheir digwyddiad perthnasol, yn union ar ôl i’r contract ddod i ben.
4
Mewn achos sydd o fewn is-baragraff (2)(a) y digwyddiad perthnasol yw hawliad meddiant yn cael ei ddyfarnu o blaid deiliad y contract.
5
Mewn achos sydd o fewn is-baragraff (2)(b) mae pob un o’r canlynol yn ddigwyddiad perthnasol—
a
tynnu’r hysbysiad yn ôl;
b
y cyfnod yn dod i ben heb fod hawliad meddiant wedi ei wneud;
c
hawliad meddiant a wnaed gan ddibynnu ar yr hysbysiad yn cael ei ddyfarnu o blaid deiliad y contract.
6
Os daw landlord preifat yn landlord o dan y contract cyn yr adeg y byddai’r cyfnod rhagarweiniol yn dod i ben oni bai am yr is-baragraff hwn, daw’r cyfnod rhagarweiniol i ben.
7
Dyddiad cyflwyno contract meddiannaeth (yn ddarostyngedig i baragraff 2)—
a
yw dyddiad meddiannu’r contract, neu
b
os daeth y contract yn gontract safonol cyfnodol oherwydd bod yr eithriad cyntaf yn adran 12 yn gymwys ac oherwydd iddo ddod o fewn paragraff 3 o Atodlen 3 pan ddaeth landlord cymunedol yn landlord o dan y contract, yw’r diwrnod y daeth y landlord cymunedol yn landlord.
I622Ystyr dyddiad cyflwyno pan fo contractau safonol rhagarweiniol blaenorol
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â chontract meddiannaeth sy’n gontract safonol cyfnodol oherwydd bod yr eithriad cyntaf yn adran 11 neu 12 yn gymwys ac oherwydd ei fod o fewn paragraff 3 o Atodlen 3—
a
os oedd deiliad contract o dan y contract (“y contract presennol”) yn ddeiliad contract o dan un neu ragor o gontractau safonol rhagarweiniol (“contractau blaenorol”) cyn hynny, a
b
os yw’r contract presennol yn olynu contract blaenorol yn uniongyrchol.
2
Os un deiliad contract yn unig sydd, ac un contract blaenorol, dyddiad cyflwyno’r contract presennol yw dyddiad cyflwyno’r contract blaenorol.
3
Os un deiliad contract yn unig sydd, a bod dau neu ragor o gontractau blaenorol yn olynu ei gilydd yn uniongyrchol, dyddiad cyflwyno’r contract presennol yw dyddiad cyflwyno’r cyntaf o’r contractau hynny.
4
Os oes cyd-ddeiliaid contract, cyfrifir dyddiad cyflwyno’r contract—
a
drwy ddarganfod, mewn perthynas â phob cyd-ddeiliad contract, yr hyn fyddai’r dyddiad cyflwyno o dan is-baragraffau (2) a (3) pe byddai’n unig ddeiliad y contract, a
b
drwy gymryd y cynharaf o’r dyddiadau hynny.
5
Mae is-baragraff (6) yn gymwys os cafodd cyfnod rhagarweiniol contract blaenorol oedd â’r un dyddiad cyflwyno â’r contract presennol ei ymestyn o dan baragraff 3.
6
Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys, cyfnod rhagarweiniol y contract presennol yw’r cyfnod o 18 mis sy’n dechrau â dyddiad cyflwyno’r contract presennol.
7
Mae contract meddiannaeth (“contract 2”) yn olynydd uniongyrchol i gontract arall (“contract 1”) os yw contract 1 yn dod i ben yn union cyn dyddiad meddiannu contract 2.
I1333Ymestyn y cyfnod rhagarweiniol
1
Caniateir i’r landlord ymestyn y cyfnod rhagarweiniol i’r cyfnod o 18 mis sy’n dechrau â dyddiad cyflwyno’r contract drwy roi hysbysiad o estyniad i ddeiliad y contract.
2
Rhaid rhoi’r hysbysiad o estyniad i ddeiliad y contract o leiaf wyth wythnos cyn y diwrnod y byddai’r cyfnod rhagarweiniol yn dod i ben o dan baragraff 1(1)(a).
3
Rhaid i’r hysbysiad o estyniad ddatgan bod y landlord wedi penderfynu ymestyn y cyfnod rhagarweiniol, a nodi’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
4
Rhaid i’r hysbysiad o estyniad hefyd hysbysu deiliad y contract bod ganddo hawl i ofyn am adolygiad o dan baragraff 4 o benderfyniad y landlord i ymestyn y cyfnod rhagarweiniol, a’i hysbysu erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y cais.
5
Wrth benderfynu ymestyn y cyfnod rhagarweiniol, caiff y landlord ystyried—
a
ymddygiad deiliad y contract (neu, os oes cyd-ddeiliaid contract, ymddygiad unrhyw un neu ragor ohonynt), a
b
ymddygiad unrhyw berson yr ymddengys i’r landlord ei fod yn byw yn yr annedd.
6
Caiff landlord ystyried ymddygiad person o dan is-baragraff (5)(b) pa un a yw’r person yn byw yn barhaol yn yr annedd ai peidio, ac ym mha rinwedd bynnag y mae’r person yn byw yn yr annedd.
7
Caiff Gweinidogion ddiwygio is-baragraff (2) drwy reoliadau at ddiben newid pryd y mae’n rhaid rhoi hysbysiad o estyniad i ddeiliad contractF33....
I1444Adolygiad y landlord o benderfyniad i ymestyn cyfnod rhagarweiniol
1
Os yw landlord yn rhoi hysbysiad o estyniad o dan baragraff 3, caiff deiliad y contract ofyn i’r landlord gynnal adolygiad o’r penderfyniad i roi’r hysbysiad.
2
Rhaid gwneud y cais i’r landlord cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod (neu unrhyw gyfnod hwy a ganiateir mewn ysgrifen gan y landlord) sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad o estyniad i ddeiliad y contract.
3
Os yw deiliad y contract yn gofyn am adolygiad yn unol ag is-baragraff (2), rhaid i’r landlord gynnal yr adolygiad.
4
Yn dilyn adolygiad, caiff y landlord—
a
cadarnhau’r penderfyniad i roi’r hysbysiad, neu
b
gwrthdroi’r penderfyniad.
5
Rhaid i’r landlord hysbysu deiliad y contract o ganlyniad yr adolygiad cyn y dyddiad y byddai’r cyfnod rhagarweiniol yn dod i ben o dan baragraff 1(1)(a).
6
Os yw’r landlord yn cadarnhau’r penderfyniad, rhaid i’r hysbysiad—
a
nodi’r rhesymau dros y cadarnhad, a
b
hysbysu deiliad y contract bod ganddo hawl i wneud cais am adolygiad yn y llys sirol o dan baragraff 5, ac erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y cais.
I1227
Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi’r weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad ag adolygiad o dan y paragraff hwn.
I1228
Caiff rheoliadau o dan is-baragraff (7), ymysg pethau eraill—
a
ei gwneud yn ofynnol i’r adolygiad gael ei gynnal gan berson o safle uwch priodol nad yw wedi bod yn ymwneud â’r penderfyniad, a
b
dynodi amgylchiadau pan fo hawl gan ddeiliad contract i wrandawiad llafar, a dynodi a ganiateir iddo gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad o’r fath, a chan bwy.
I615Adolygiad y llys sirol o benderfyniad i ymestyn
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw landlord, yn dilyn cais am adolygiad a wneir yn unol â pharagraff 4(2)—
a
yn rhoi hysbysiad o dan baragraff 4(5) yn hysbysu deiliad y contract bod y landlord wedi penderfynu cadarnhau penderfyniad i roi hysbysiad o estyniad o dan baragraff 3, neu
b
yn methu â rhoi hysbysiad yn unol â pharagraff 4(5).
2
Caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys sirol am adolygiad o’r penderfyniad i roi’r hysbysiad o estyniad.
3
Rhaid gwneud y cais—
a
cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan baragraff 4(5), neu
b
os na roddwyd hysbysiad yn unol â pharagraff 4(5), cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad erbyn pryd yr oedd yn ofynnol i’r landlord roi hysbysiad o dan yr is-baragraff hwnnw.
4
Caiff y llys sirol roi caniatâd i gais gael ei wneud ar ôl diwedd y cyfnod a ganiateir gan is-baragraff (3), ond dim ond os yw’n fodlon—
a
os ceisir caniatâd cyn diwedd y cyfnod hwnnw, bod rheswm da nad yw deiliad y contract yn gallu gwneud y cais mewn pryd, neu
b
os ceisir caniatâd ar ôl hynny, bod rheswm da bod deiliad y contract wedi methu â gwneud y cais mewn pryd ac am unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd.
5
Caiff y llys sirol gadarnhau neu ddiddymu’r penderfyniad i roi’r hysbysiad o estyniad.
6
Wrth ystyried a ddylai gadarnhau penderfyniad neu ei ddiddymu, rhaid i’r llys sirol gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys pan wneir cais am adolygiad barnwrol.
7
Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad—
a
nid oes unrhyw effaith i’r hysbysiad o estyniad, a
b
caiff y llys sirol wneud unrhyw orchymyn y gallai’r Uchel Lys ei wneud wrth wneud gorchymyn diddymu ar gais am adolygiad barnwrol.
8
Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad a bod y landlord yn rhoi hysbysiad pellach o estyniad i ddeiliad y contract o dan baragraff 3 cyn diwedd y cyfnod ôl-adolygiad—
a
mae’r hysbysiad yn cael effaith fel pe bai wedi ei roi yn unol â pharagraff 3(2) (ac eithrio at ddibenion paragraff 4(2)), a
b
mae paragraff 4(5) i’w ddarllen fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol i’r landlord hysbysu deiliad y contract am ganlyniad adolygiad o dan y paragraff hwnnw cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y gofynnodd deiliad y contract am yr adolygiad.
9
Y cyfnod ôl-adolygiad yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad.
Caiff datganiad ysgrifenedig ymdrin â chontract diogel sy’n codi ar ddiwedd contract safonol rhagarweiniol
I1486
1
Mae is-baragraff (2) yn gymwys os yw’r landlord a deiliad y contract, cyn diwedd y cyfnod rhagarweiniol, wedi cytuno (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Ddeddf hon o ran ymgorffori darpariaethau sylfaenol ac atodol) beth fydd telerau’r contract diogel a allai godi ar ddiwedd y cyfnod rhagarweiniol.
2
Caiff datganiad ysgrifenedig o’r contract safonol rhagarweiniol nodi telerau’r contract diogel drwy—
a
dynodi telerau’r contract safonol rhagarweiniol na fyddant yn delerau’r contract diogel, a nodi’r telerau na fyddant ond yn gymwys i’r contract diogel, neu
b
nodi holl delerau’r contract diogel ar wahân.
3
Pan fo datganiad ysgrifenedig o gontract safonol rhagarweiniol yn ymdrin â’r contract diogel yn unol ag is-baragraff (2) (“datganiad ysgrifenedig perthnasol”)—
a
nid yw’r datganiad ysgrifenedig perthnasol yn anghywir (gweler adran 37) ond am ei fod yn ymdrin â’r contract diogel,
b
mae’r landlord i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â’r gofyniad yn adran 31(1) (darparu datganiad ysgrifenedig) mewn perthynas â’r contract safonol, ac
c
ni chaniateir gorfodi telerau’r contract diogel yn erbyn deiliad y contract cyn dyddiad meddiannu’r contract hwnnw (ac, yn unol â hynny, nid yw adran 42 yn gymwys).
4
Os yw dyddiad meddiannu contract diogel y mae datganiad ysgrifenedig perthnasol yn ymdrin ag ef yn newid am fod y landlord wedi ymestyn y cyfnod rhagarweiniol yn unol â pharagraff 3, nid yw’r datganiad ysgrifenedig perthnasol yn anghywir ond am nad yw’n nodi’r dyddiad meddiannu newydd.
I1147
1
Caniateir amrywio contract diogel y mae datganiad ysgrifenedig perthnasol yn ymdrin ag ef drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract cyn dyddiad meddiannu’r contract diogel, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (5).
2
Mae adran 108(1) i (5) (cyfyngiad ar amrywio) yn gymwys mewn perthynas ag amrywiad o’r fath.
3
Mae adrannau 109(1) i (3) a 110 (datganiad ysgrifenedig yn cofnodi amrywiad) yn gymwys mewn perthynas ag amrywiad o’r fath.
4
Mae adran 104(1) i (3) neu (yn ôl y digwydd) adran 105(1)(b) a (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas ag amrywio’r rhent neu’r gydnabyddiaeth arall a fydd yn daladwy o dan y contract diogel.
5
Mae adrannau 104(3)(a) a 105(4)(a), fel y’u cymhwysir gan is-baragraff (4), i’w darllen fel pe bai “dyddiad meddiannu’r contract diogel, neu ddyddiad diweddarach” wedi ei roi yn lle “unrhyw ddyddiad”.
6
Mae’r paragraff hwn yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei ymgorffori fel un o delerau pob contract safonol rhagarweiniol pan fo’r datganiad ysgrifenedig o’r contract yn ddatganiad ysgrifenedig perthnasol; mae adran 20 yn darparu—
a
bod rhaid i’r paragraff hwn gael ei ymgorffori, a
b
na chaniateir i’r paragraff hwn gael ei ymgorffori gydag addasiadau.
I88Telerau contract diogel a oedd yn gontract safonol rhagarweiniol
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo contract safonol rhagarweiniol yn dod i ben ac yn cael ei ddisodli gan gontract diogel am fod y cyfnod rhagarweiniol wedi dod i ben, ac nad yw’r landlord wedi ymdrin â’r contract diogel yn y datganiad ysgrifenedig o’r contract safonol rhagarweiniol yn unol â pharagraff 6(2).
2
Os yw’r landlord a deiliad y contract wedi cytuno ar yr hyn fydd telerau’r contract diogel yn yr achos hwnnw, telerau’r contract yw’r telerau y cytunwyd arnynt.
3
Mae is-baragraff (2) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Ddeddf hon ynghylch ymgorffori darpariaethau sylfaenol ac atodol.
4
Os nad yw’r landlord a deiliad y contract wedi cytuno ar yr hyn fydd telerau’r contract diogel yn yr achos hwnnw—
a
mae’r darpariaethau sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i gontractau diogel a wneir gyda’r landlord wedi eu hymgorffori fel telerau’r contract heb eu haddasu,
b
mae unrhyw un neu ragor o delerau’r contract sy’n anghydnaws â’r darpariaethau sylfaenol neu atodol hynny yn peidio â chael effaith, ac
c
fel arall, mae telerau’r contract diogel yr un fath â thelerau’r contract safonol rhagarweiniol.
I599Nid yw’r ddyletswydd ar landlord i roi cyfeiriad ar ddechrau contract yn gymwys mewn perthynas â chontract diogel
Nid yw’r gofyniad yn adran 39(1) (rhaid i landlord roi cyfeiriad cyswllt i ddeiliad contract ar ddechrau contract) yn gymwys mewn perthynas â chontract diogel sy’n disodli contract safonol rhagarweiniol.
ATODLEN 5CYNLLUNIAU BLAENDAL: DARPARIAETH BELLACH
I1581Cynlluniau blaendal
1
Rhaid i Weinidogion Cymru wneud trefniadau ar gyfer sicrhau bod un neu ragor o gynlluniau blaendal ar gael.
2
Ystyr “cynllun blaendal” yw cynllun at ddiben—
a
diogelu blaendaliadau a delir mewn cysylltiad â chontractau meddiannaeth, a
b
hwyluso’r broses o ddatrys anghydfodau sy’n codi mewn cysylltiad â blaendaliadau o’r fath.
3
Ystyr “trefniadau” yw trefniadau gydag unrhyw berson (“gweinyddwr y cynllun”) y mae gweinyddwr y cynllun yn ymrwymo i sefydlu a chynnal cynllun blaendal o ddisgrifiad a bennir yn y trefniadau oddi tanynt.
4
Rhaid i’r trefniadau ei gwneud yn ofynnol i weinyddwr y cynllun roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth, ac unrhyw gyfleusterau ar gyfer cael gwybodaeth, a all fod yn ofynnol gan Weinidogion Cymru.
5
Caiff Gweinidogion Cymru—
a
rhoi cymorth ariannol i weinyddwr y cynllun;
b
gwneud taliadau eraill i weinyddwr y cynllun yn unol â’r trefniadau;
c
rhoi gwarant mewn perthynas ag unrhyw rwymedigaeth ariannol a ddaw i ran gweinyddwr y cynllun mewn cysylltiad â’r trefniadau.
I976
Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n rhoi pwerau ac yn gosod dyletswyddau ar weinyddwyr cynlluniau.
I252Cynlluniau blaendal awdurdodedig: dwyn achosion pan na fo’r contract meddiannaeth wedi dod i ben
1
Pan fo blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth nad yw wedi dod i ben, caiff deiliad y contract (neu unrhyw berson sydd wedi talu’r blaendal ar ei ran) wneud cais i’r llys sirol ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a ganlyn.
2
Y sail gyntaf yw nad yw’r landlord wedi cydymffurfio ag adran 45(2)(a) (gofynion cychwynnol cynllun blaendal awdurdodedig).
3
Yr ail sail yw nad yw’r landlord wedi cydymffurfio ag adran 45(2)(b) (darparu gwybodaeth ofynnol).
4
Y drydedd sail yw—
a
bod yr ymgeisydd wedi cael ei hysbysu gan y landlord bod cynllun blaendal awdurdodedig penodol yn gymwys i’r blaendal, ond
b
nad yw’r ymgeisydd wedi gallu cael cadarnhad oddi wrth weinyddwr y cynllun bod y blaendal yn cael ei ddal yn unol â’r cynllun.
5
Rhaid i’r llys sirol weithredu fel a ganlyn—
a
yn achos cais ar y sail gyntaf neu’r ail sail, os yw’n fodlon bod y sail wedi ei phrofi, neu
b
yn achos cais ar y drydedd sail, os nad yw’n fodlon bod y blaendal yn cael ei ddal yn unol â chynllun blaendal awdurdodedig.
6
Rhaid i’r llys sirol naill ai—
a
gorchymyn i’r person yr ymddengys ei fod yn dal y blaendal ad-dalu’r blaendal i’r ymgeisydd cyn diwedd y cyfnod perthnasol, neu
b
gorchymyn i’r person yr ymddengys ei fod yn dal y blaendal dalu’r blaendal, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, i weinyddwr cynllun blaendal gwarchodol (os oes cynllun o’r fath mewn grym yn unol â threfniadau o dan baragraff 1) i’w ddal yn unol â’r cynllun.
7
Rhaid i’r llys sirol hefyd orchymyn i’r landlord dalu i’r ymgeisydd, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, swm o arian heb fod yn llai na swm y blaendal a heb fod yn fwy na thair gwaith swm y blaendal.
8
Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â dyddiad y gorchymyn.
9
At ddibenion y paragraff hwn, cynllun blaendal gwarchodol yw cynllun blaendal (o fewn ystyr paragraff 1(2)) y telir blaendaliadau oddi tano gan y landlord i weinyddwr y cynllun ac y caiff y blaendaliadau eu dal oddi tano gan weinyddwr y cynllun, yn unol â’r cynllun, hyd nes y daw’n bryd eu talu i’r landlord neu i ddeiliad y contract (neu i unrhyw berson a dalodd y blaendal ar ran deiliad y contract).
I903Cynlluniau blaendal awdurdodedig: dwyn achosion pan fo’r contract meddiannaeth wedi dod i ben
1
Pan fo blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth sydd wedi dod i ben, caiff y person a oedd yn ddeiliad y contract o dan y contract (neu unrhyw berson a dalodd y blaendal ar ei ran) wneud cais i’r llys sirol ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a ganlyn.
2
Y sail gyntaf yw nad yw’r landlord wedi cydymffurfio ag adran 45(2)(a) (gofynion cychwynnol cynllun blaendal awdurdodedig).
3
Yr ail sail yw nad yw’r landlord wedi cydymffurfio ag adran 45(2)(b) (darparu gwybodaeth ofynnol).
4
Y drydedd sail yw—
a
bod yr ymgeisydd wedi cael ei hysbysu gan y landlord bod cynllun blaendal awdurdodedig penodol yn gymwys i’r blaendal, ond
b
nad yw’r landlord wedi gallu cael cadarnhad oddi wrth weinyddwr y cynllun bod y blaendal yn cael ei ddal yn unol â’r cynllun.
5
Os—
a
yn achos cais ar y sail gyntaf neu’r ail sail, yw’r llys sirol wedi ei fodloni bod y sail wedi ei phrofi, neu
b
yn achos cais ar y drydedd sail, nad yw’r llys sirol wedi ei fodloni bod y blaendal yn cael ei ddal yn unol â chynllun blaendal awdurdodedig,
caiff y llys sirol orchymyn i’r person yr ymddengys ei fod yn dal y blaendal ad-dalu’r blaendal i gyd, neu ran ohono, i’r ymgeisydd cyn diwedd y cyfnod perthnasol.
6
Os yw is-baragraff (5)(a) neu (b) yn gymwys, rhaid i’r llys sirol (pa un a yw’n gwneud gorchymyn o dan yr is-baragraff hwnnw ai peidio) orchymyn i’r landlord dalu i’r ymgeisydd, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, swm o arian heb fod yn llai na swm y blaendal a heb fod yn fwy na thair gwaith swm y blaendal.
7
Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â dyddiad y gorchymyn.
I714Defnyddio blaendal sy’n bodoli eisoes mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth wedi ei adnewyddu, neu mewn cysylltiad â math arall o gontract meddiannaeth sy’n cymryd lle’r contract gwreiddiol
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
pan fo deiliad contract wedi talu blaendal mewn cysylltiad â chontract meddiannaeth (“y contract gwreiddiol”),
b
pan fo’r landlord, mewn perthynas â’r blaendal—
i
wedi ei drafod yn unol â chynllun blaendal awdurdodedig,
ii
wedi cydymffurfio â gofynion cychwynnol y cynllun, a
iii
wedi darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol yn ôl adran 45(2)(b),
c
pan fo contract meddiannaeth yn cymryd lle’r contract gwreiddiol, a
d
pan fo’r blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract gwreiddiol yn parhau i gael ei ddal—
i
mewn cysylltiad â’r contract meddiannaeth arall, a
ii
yn unol â’r un cynllun blaendal awdurdodedig â phan gydymffurfiwyd ddiwethaf â’r gofynion a grybwyllir yn is-baragraff (b)(ii) a (iii) mewn perthynas ag ef.
2
Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys—
a
pan fo contract meddiannaeth newydd yn cymryd lle contract meddiannaeth a oedd ei hun yn gontract meddiannaeth a oedd yn cymryd lle contract meddiannaeth arall, a
b
pan fo’r blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract gwreiddiol yn parhau i gael ei ddal—
i
mewn cysylltiad â’r contract meddiannaeth newydd sy’n cymryd lle contract arall, a
ii
yn unol â’r un cynllun blaendal awdurdodedig â phan gydymffurfiwyd ddiwethaf â’r gofynion a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b)(ii) a (iii) mewn perthynas ag ef.
3
Mae’r landlord i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â’r gofynion yn adran 45 mewn perthynas â’r blaendal sy’n cael ei ddal mewn cysylltiad â’r contract meddiannaeth arall.
4
At ddibenion y paragraff hwn, mae contract meddianaeth yn cymryd lle contract meddiannaeth arall—
a
os yw dyddiad meddiannu’r contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall yn dod yn union ar ôl diwedd y contract meddiannaeth blaenorol,
b
os yw’r landlord a deiliad y contract o dan y contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall yr un fath ag o dan y contract blaenorol, ac
c
os yw’r contract meddiannaeth sy’n cymryd lle contract arall yn ymwneud â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r contract blaenorol.
I1695Pŵer i ddiwygio’r Atodlen
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen hon drwy reoliadau.
ATODLEN 6RHESYMOLDEB ATAL CYDSYNIAD, ETC.
RHAN 1RHAGARWEINIOL
I811
1
Mae’r Atodlen hon yn gymwys at ddiben dyfarnu—
a
pa un a yw’n rhesymol i landlord wrthod cydsynio i drafodiad, neu
b
pa un a yw amod y mae landlord yn cydsynio yn ddarostyngedig iddo yn rhesymol.
2
Mae Rhan 2 yn nodi amgylchiadau y mae’n rhaid eu hystyried at y diben hwnnw, i’r graddau y maent yn berthnasol (ac i’r graddau nad oes unrhyw ofyniad arall i’w hystyried at y diben hwnnw; er enghraifft, o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 (p. 42)).
3
Mae Rhan 3 yn nodi amgylchiadau (yn ychwanegol at y rheini sydd yn Rhan 2) y mae’n rhaid eu hystyried at y diben hwnnw mewn perthynas â mathau penodol o drafodiad, i’r graddau y maent yn berthnasol (ac i’r graddau nad oes unrhyw ofyniad arall i’w hystyried at y diben hwnnw).
4
Mae Rhannau 2 a 3 hefyd yn nodi amgylchiadau penodol pan fo bob amser yn rhesymol i landlord wrthod cydsynio neu osod amodau (yn ddarostyngedig i hawliau Confensiwn deiliad y contract ac unrhyw berson arall a effeithir gan benderfyniad y landlord).
RHAN 2AMGYLCHIADAU A ALL FOD YN BERTHNASOL I RESYMOLDEB YN GYFFREDINOL
I222Statws contract meddiannaeth
Pa un a oes unrhyw barti i’r contract wedi cymryd camau tuag at ddod â’r contract i ben neu wedi cyflawni unrhyw weithred a all beri i’r contract ddod i ben.
I1133Yr annedd
1
Maint ac addasrwydd yr annedd y mae’r trafodiad yn effeithio arni.
2
Pa un a fydd yr annedd, o ganlyniad i’r trafodiad—
a
yn annedd orlawn at ddibenion Rhan 10 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (gweler adran 324 o’r Ddeddf honno),
b
yn darparu llety mwy helaeth o lawer na’r hyn sydd ei angen yn rhesymol ar y personau a fydd yn meddiannu’r annedd fel cartref, neu
c
yn darparu llety nad yw’n addas ar gyfer anghenion y personau a fydd yn meddiannu’r annedd fel cartref.
3
Pe byddai’r trafodiad yn digwydd, pa un a fyddai sail rheoli ystad yn dod ar gael i’r landlord (gweler Atodlen 8).
4
Os oes gan y landlord ofynion sefydledig o ran—
a
nifer y personau sydd i feddiannu’r annedd y mae’r trafodiad yn effeithio arni fel cartref, neu
b
oedran neu nodweddion cyffredinol y personau hynny,
pa un a fydd y personau a fydd yn meddiannu’r annedd fel cartref yn ateb y gofynion hynny.
5
Ond nid yw gofynion y landlord i’w hystyried o dan is-baragraff (4) ond i’r graddau y maent yn rhesymol.
Amgylchiadau deiliad contract a meddianwyr eraill
I954
1
Effaith debygol y trafodiad ar—
a
y partïon i’r trafodiad, a
b
unrhyw berson arall sy’n meddiannu’r annedd y mae’r trafodiad yn effeithio arni fel cartref, neu a fydd yn ei meddiannu fel cartref o ganlyniad i’r trafodiad.
2
Buddiannau ariannol deiliad y contract; ond nid yw’r is-baragraff hwn yn gymwys (yn ddarostyngedig i hawliau Confensiwn deiliad y contract) os yw’r contract meddiannaeth yn gontract diogel a’r landlord yn landlord cymunedol.
I1425
1
Ymddygiad deiliad y contract (gan gynnwys, yn benodol, pa un a yw’n cyflawni tor contract meddiannaeth neu wedi cyflawni tor contract meddiannaeth).
2
Os gofynnodd y landlord i ddeiliad y contract am wybodaeth er mwyn galluogi’r landlord i ymdrin â’r cais am gydsyniad, pa un a ddarparodd deiliad y contract yr wybodaeth honno.
I1356
Os yw deiliad y contract yn cyflawni tor contract meddiannaeth pan fydd yn gofyn am gydsyniad y landlord i’r trafodiad, mae’n rhesymol i’r landlord osod amod—
a
nad yw cydsyniad y landlord i gael effaith ond ar ôl i ddeiliad y contract beidio â bod yn torri’r contract, neu
b
er gwaethaf unrhyw beth yn y Ddeddf hon neu yn y contract meddiannaeth, y bydd y person, neu y bydd yr holl bersonau, a fydd yn ddeiliaid contract yn dilyn y trafodiad, yn atebol mewn perthynas â’r tor contract.
Amgylchiadau’r landlord
I1347
1
Buddiannau’r landlord, gan gynnwys buddiannau ariannol y landlord.
2
Os yw’r landlord yn landlord cymunedol, effaith debygol y trafodiad ar ei allu i gyflawni ei swyddogaethau ym maes tai.
3
Pa un a fyddai (ac os felly, pryd y byddai) person yn cael annedd (neu annedd debyg i’r annedd y mae’r trafodiad yn effeithio arni) gan y landlord pe na byddai’r trafodiad yn digwydd.
4
Os yw’n ofynnol i’r landlord gyhoeddi crynodeb o reolau o dan adran 106 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (dyrannu llety tai), y rheolau hynny.
5
Os yw’r landlord yn awdurdod tai lleol, ei gynllun dyrannu (o fewn ystyr adran 167 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52)) ac unrhyw wybodaeth sydd ar gael o dan adran 167(4A) o’r Ddeddf honno i berson sy’n gwneud cais am ddyraniad llety tai.
6
Os nad yw is-baragraff (4) nac is-baragraff (5) yn gymwys ond bod gan y landlord feini prawf ar gyfer dyrannu llety, y meini prawf hynny.
I728
1
Mae’n rhesymol i’r landlord wrthod cydsynio i drafodiad—
a
os yw’r landlord yn awdurdod tai lleol, a
b
os, o ganlyniad i’r trafodiad, y bydd person sy’n anghymwys (neu sydd i’w drin fel pe bai’n anghymwys) i gael llety tai wedi ei ddyrannu iddo gan y landlord yn dod yn ddeiliad contract.
2
Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i drosglwyddiad i olynydd posibl o dan adran 114 nac i ddeiliad contract diogel o dan adran 118.
3
Penderfynir pa un a yw person yn anghymwys, neu i’w drin fel pe bai’n anghymwys, i gael llety tai wedi ei ddyrannu iddo gan y landlord yn unol ag adran 160A o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) a rheoliadau o dan yr adran honno.
RHAN 3AMGYLCHIADAU A ALL FOD YN BERTHNASOL I RESYMOLDEB MEWN CYSYLLTIAD Â THRAFODION PENODOL
Adran 49: cyd-ddeiliad contract arfaethedig
I139
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo deiliad y contract o dan y contract meddiannaeth yn ceisio cydsyniad y landlord i ychwanegu cyd-ddeiliad contract o dan adran 49.
2
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r amgylchiadau a ganlyn (yn ogystal â’r rheini sydd yn Rhan 2) gael eu hystyried (i’r graddau y maent yn berthnasol)—
a
pa un a yw’r cyd-ddeiliad contract arfaethedig yn ddeiliad contract addas;
b
pa un a yw’n aelod o deulu deiliad y contract (gweler adran 250) ac, os felly, natur y berthynas;
c
pa un a yw’r cyd-ddeiliad contract arfaethedig yn debygol o ddod yn unig ddeiliad contract mewn perthynas â’r annedd;
d
pa un a yw’r cyd-ddeiliad yn debygol, pe na bai’n cael ei wneud yn gyd-ddeiliad contract, o olynu i’r contract o dan adran 73.
3
Gall amgylchiadau sy’n berthnasol i is-baragraff (2)(a) gynnwys pa un a yw cyd-ddeiliad y contract—
a
yn debygol o gydymffurfio â’r contract, a
b
wedi cydymffurfio â chontractau meddiannaeth eraill (boed fel deiliad contract o dan y contractau hynny neu fel arall).
4
Gall amgylchiadau sy’n berthnasol i is-baragraff (2)(c) gynnwys—
a
pa un a fyddai’r landlord wedi gallu gwrthod cydsynio pe byddai deiliad y contract wedi gofyn am gydsyniad y landlord i drosglwyddo’r contract i’r cyd-ddeiliad contract arfaethedig, a
b
unrhyw amgylchiadau a fyddai’n berthnasol pe byddai’r landlord yn ystyried pa un ai wneud contract meddiannaeth newydd gyda’r person hwnnw mewn perthynas â’r annedd ai peidio.
5
Gall amgylchiadau sy’n berthnasol i is-baragraff (2)(d) gynnwys effaith debygol rhoi cydsyniad ar—
a
y personau a all fod yn gymwys i olynu i’r contract meddiannaeth yn y dyfodol, a
b
y cyfnod y mae’r contract meddiannaeth yn debygol o barhau i fod mewn grym os oes un neu ragor o’r personau hynny yn olynu iddo.
I13710
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo deiliad y contract o dan y contract meddiannaeth yn ceisio cydsyniad y landlord i ychwanegu cyd-ddeiliad contract o dan adran 49.
2
Os yw’r landlord o’r farn mai effaith debygol rhoi cydsyniad yw ymestyn yn sylweddol y cyfnod y mae’r contract meddiannaeth yn debygol o barhau mewn grym, mae’n rhesymol i’r landlord osod yr amod a grybwyllir yn is-baragraff (3).
3
Yr amod yw bod cyd-ddeiliad y contract i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel olynydd â blaenoriaeth neu fel olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract meddiannaeth.
Adran 114: trosglwyddiad i olynydd posibl mewn perthynas â chontract diogel
I5811
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw deiliad contract o dan gontract diogel yn ceisio cydsyniad y landlord i drosglwyddo’r contract i olynydd posibl yn unol ag adran 114.
2
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r amgylchiadau a ganlyn (yn ogystal â’r rheini sydd yn Rhan 2) gael eu hystyried (i’r graddau y maent yn berthnasol)—
a
effaith debygol rhoi cydsyniad o ran y personau a all fod yn gymwys i olynu i’r contract meddiannaeth yn y dyfodol, a
b
y cyfnod y mae’r contract meddiannaeth yn debygol o barhau i fod mewn grym os oes un neu ragor o’r personau hynny yn olynu iddo.
I2812
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw deiliad contract o dan gontract diogel yn ceisio cydsyniad y landlord i drosglwyddo’r contract i olynydd posibl yn unol ag adran 114.
2
Os yw’r landlord o’r farn mai effaith debygol rhoi cydsyniad yw ymestyn yn sylweddol y cyfnod y mae’r contract meddiannaeth yn debygol o barhau mewn grym, mae’n rhesymol i’r landlord osod yr amod a grybwyllir yn is-baragraff (3).
3
Yr amod yw bod yr olynydd posibl i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel olynydd â blaenoriaeth neu fel olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract meddiannaeth.
Adran 118: trosglwyddiad i ddeiliad contract diogel mewn perthynas â chontract diogel gyda landlord cymunedol
I7413
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw deiliad contract o dan gontract diogel (“y trosglwyddwr”) yn ceisio trosglwyddo’r contract yn unol ag adran 118 i berson (“y trosglwyddai”) sy’n ddeiliad contract o dan gontract diogel arall.
2
Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r amgylchiadau a ganlyn (yn ogystal â’r rheini sydd yn Rhan 2) gael eu hystyried (i’r graddau y maent yn berthnasol)—
a
pa un a yw’r trosglwyddiad i fod yn rhan o gyfres o drafodion ac, os ydyw, yr holl amgylchiadau sy’n ymwneud â’r trafodion eraill y bwriedir iddynt fod yn rhan o’r gyfres (gweler hefyd baragraff 14(2)), a
b
pa un a yw’r trosglwyddai yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract diogel y mae’n ddeiliad contract oddi tano cyn y trosglwyddiad (gweler hefyd baragraff 14(3)).
I13214
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw deiliad contract o dan gontract diogel (“y trosglwyddwr”) yn ceisio trosglwyddo’r contract yn unol ag adran 118 i berson (“y trosglwyddai”) sy’n ddeiliad contract o dan gontract diogel arall.
2
Os yw’r trosglwyddiad i fod yn rhan o gyfres o drafodion mae’n rhesymol gosod amod na chaiff y trosglwyddiad ddigwydd oni fydd y trafodion eraill yn digwydd.
3
Os yw’r trosglwyddai yn olynydd â blaenoriaeth neu’n olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract diogel y mae’n ddeiliad contract oddi tano cyn y trosglwyddiad, mae’n rhesymol gosod amod yn ei gwneud yn ofynnol i’r trosglwyddai gael ei drin at ddibenion y Ddeddf hon fel olynydd o’r math hwnnw mewn perthynas â’r contract diogel a drosglwyddir iddo gan y trosglwyddwr.
ATODLEN 7CONTRACTAU SAFONOL YMDDYGIAD GWAHARDDEDIG
I1001Y weithdrefn pan wneir cais am orchymyn o dan adran 116
1
Ni chaiff y llys wrando ar gais landlord am orchymyn o dan adran 116 oni bai—
a
bod y landlord wedi rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o fwriad y landlord i wneud cais am orchymyn o’r fath, neu
b
bod y llys o’r farn ei bod yn rhesymol hepgor y gofyniad i roi hysbysiad.
2
Rhaid i hysbysiad o dan is-baragraff (1) roi manylion yr ymddygiad y ceisir y gorchymyn mewn perthynas ag ef a datgan na chaniateir dwyn achos—
a
cyn y diwrnod a bennir yn yr hysbysiad, na
b
ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
3
Caniateir pennu, at ddibenion is-baragraff (2)(a), y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
4
Caiff y landlord, yn yr un achos, wneud cais i’r llys am orchymyn o dan adran 116 a gwneud hawliad meddiant.
I382Telerau contract safonol ymddygiad gwaharddedig
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo contract safonol cyfnodol yn cael ei greu drwy orchymyn o dan adran 116.
2
Os yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno ar delerau’r contract safonol cyfnodol, telerau’r contract yw’r telerau y cytunwyd arnynt.
3
Mae is-baragraff (2) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Ddeddf hon ynghylch ymgorffori darpariaethau sylfaenol ac atodol.
4
Os nad yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno ar delerau’r contract safonol cyfnodol—
a
mae’r darpariaethau sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i gontractau safonol cyfnodol wedi eu hymgorffori fel telerau o’r contract heb eu haddasu,
b
mae unrhyw un neu ragor o delerau’r contract sy’n anghydnaws â’r darpariaethau sylfaenol neu atodol hynny yn peidio â chael effaith, ac
c
fel arall, mae telerau’r contract safonol cyfnodol yr un fath â thelerau’r contract diogel.
5
Pa un a yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno ar delerau’r contract safonol cyfnodol ai peidio, mae’n un o delerau’r contract—
a
bod unrhyw ôl-ddyledion rhent sy’n daladwy pan ddaw’r contract diogel i ben yn dod yn daladwy o dan y contract safonol cyfnodol, a
b
bod unrhyw rent a dalwyd ymlaen llaw neu a ordalwyd ar ddiwedd y contract diogel yn cael ei roi tuag at atebolrwydd deiliad y contract i dalu rhent o dan y contract safonol cyfnodol.
6
Nid yw’r gofyniad yn adran 39(1) (rhaid i landlord roi cyfeiriad cyswllt i ddeiliad contract ar ddechrau contract) yn gymwys.
7
Mae adran 151(3) (gofyniad i hysbysu deiliad y contract am yr hawl i wneud cais am adolygiad gan y landlord o dan adran 202) yn darparu bod yr adran honno yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol ymddygiad gwaharddedig.
8
Mae contractau safonol ymddygiad gwaharddedig o fewn Atodlen 9; o ganlyniad nid yw adran 175 (cyfyngiad ar roi hysbysiad y landlord F31tan ar ôl chwe mis cyntaf meddiannaeth) wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract safonol ymddygiad gwaharddedig.
I703Y cyfnod prawf
1
Y cyfnod prawf, mewn perthynas â chontract meddiannaeth sy’n gontract safonol cyfnodol oherwydd gorchymyn o dan adran 116—
a
yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract (gweler adran 116(2)(b)), neu
b
os oes estyniad o dan baragraff 4, yw’r cyfnod o 18 mis sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract.
2
Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract y bydd y cyfnod prawf yn dod i ben cyn yr adeg y byddai’n dod i ben o dan is-baragraff (1), daw’r cyfnod i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
3
Os yw’r llys, o dan baragraff 7, yn gorchymyn y bydd y cyfnod prawf yn dod i ben cyn yr adeg y byddai’n dod i ben o dan is-baragraff (1), daw’r cyfnod i ben ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn.
4
Os yw is-baragraffau (2) a (3) ill dau yn gymwys, daw’r cyfnod i ben ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn, pa un bynnag sydd gynharaf.
5
Mae is-baragraff (6) yn gymwys yn lle is-baragraffau (1) i (4) os, ar ddiwedd yr hyn fyddai’r cyfnod prawf o dan yr is-baragraffau hynny—
a
oes hawliad meddiant a wnaed gan y landlord mewn perthynas â’r annedd heb ei gwblhau, neu
b
yw’r landlord wedi rhoi hysbysiad adennill meddiant neu hysbysiad o dan adran 173 (hysbysiad y landlord i derfynu’r contract) i ddeiliad y contract, ac nad yw’r cyfnod y caiff y landlord wneud hawliad meddiant cyn iddo ddod i ben wedi dod i ben.
6
Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys, y cyfnod prawf yw’r cyfnod sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract ac sy’n dod i ben—
a
pan geir digwyddiad perthnasol, neu
b
os na cheir digwyddiad perthnasol, yn union ar ôl i’r contract ddod i ben.
7
Mewn achos sydd o fewn is-baragraff (5)(a) y digwyddiad perthnasol yw hawliad meddiant yn cael ei ddyfarnu o blaid deiliad y contract.
8
Mewn achos sydd o fewn is-baragraff (5)(b) mae pob un o’r canlynol yn ddigwyddiad perthnasol—
a
tynnu’r hysbysiad yn ôl;
b
y cyfnod yn dod i ben heb fod hawliad meddiant wedi ei wneud;
c
hawliad meddiant a wnaed gan ddibynnu ar yr hysbysiad yn cael ei ddyfarnu o blaid deiliad y contract.
9
Os daw landlord preifat heblaw elusen gofrestredig yn landlord o dan y contract cyn yr adeg y byddai’r cyfnod prawf yn dod i ben oni bai am yr is-baragraff hwn, daw’r cyfnod prawf i ben.
I774Ymestyn y cyfnod prawf
1
Caniateir i’r landlord ymestyn y cyfnod prawf i’r cyfnod o 18 mis sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract drwy roi hysbysiad o estyniad i ddeiliad y contract.
2
Rhaid rhoi’r hysbysiad o estyniad i ddeiliad y contract o leiaf wyth wythnos cyn y dyddiad y byddai’r cyfnod prawf yn dod i ben o dan baragraff 3(1)(a).
3
Rhaid i’r hysbysiad o estyniad ddatgan bod y landlord wedi penderfynu ymestyn y cyfnod prawf, a nodi’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
4
Rhaid i’r hysbysiad o estyniad hefyd hysbysu deiliad y contract bod ganddo hawl i ofyn am adolygiad o dan baragraff 5 o benderfyniad y landlord i ymestyn y cyfnod prawf, a’i hysbysu erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y cais.
5
Wrth benderfynu ymestyn y cyfnod prawf, caiff y landlord ystyried—
a
ymddygiad deiliad y contract (neu, os oes cyd-ddeiliaid contract, ymddygiad unrhyw un neu ragor ohonynt), a
b
ymddygiad unrhyw berson yr ymddengys i’r landlord ei fod yn byw yn yr annedd.
6
Caiff landlord ystyried ymddygiad person o dan is-baragraff (5)(b) pa un a yw’r person yn byw yn barhaol yn yr annedd ai peidio, ac ym mha rinwedd bynnag y mae’r person yn byw yn yr annedd.
7
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-baragraff (2) drwy reoliadau at ddiben newid pryd y mae’n rhaid rhoi hysbysiad o estyniad i ddeiliad contractF13....
I395Adolygiad y landlord o benderfyniad i ymestyn cyfnod prawf
1
Os yw landlord yn rhoi hysbysiad o estyniad o dan baragraff 4, caiff deiliad y contract ofyn i’r landlord gynnal adolygiad o’r penderfyniad i roi’r hysbysiad.
2
Rhaid gwneud y cais i’r landlord cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod (neu unrhyw gyfnod hwy a ganiateir mewn ysgrifen gan y landlord) sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad o estyniad i ddeiliad y contract.
3
Os yw deiliad y contract yn gofyn am adolygiad yn unol ag is-baragraff (2), rhaid i’r landlord gynnal yr adolygiad.
4
Yn dilyn adolygiad, caiff y landlord—
a
cadarnhau’r penderfyniad i roi’r hysbysiad, neu
b
gwrthdroi’r penderfyniad.
5
Rhaid i’r landlord hysbysu deiliad y contract o ganlyniad yr adolygiad cyn y dyddiad y byddai’r cyfnod prawf yn dod i ben o dan baragraff 3(1)(a).
6
Os yw’r landlord yn cadarnhau’r penderfyniad, rhaid i’r hysbysiad—
a
nodi’r rhesymau dros y cadarnhad, a
b
hysbysu deiliad y contract bod ganddo hawl i wneud cais am adolygiad yn y llys sirol o dan baragraff 6, ac erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y cais.
I187
Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi’r weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad ag adolygiad o dan y paragraff hwn.
I188
Caiff rheoliadau o dan is-baragraff (7), ymysg pethau eraill—
a
ei gwneud yn ofynnol i’r adolygiad gael ei gynnal gan berson o safle uwch priodol nad yw wedi bod yn ymwneud â’r penderfyniad, a
b
dynodi amgylchiadau pan fo hawl gan ddeiliad contract i wrandawiad llafar, a dynodi a ganiateir iddo gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad o’r fath, a chan bwy.
I986Adolygiad y llys sirol o benderfyniad i ymestyn cyfnod prawf
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw landlord, yn dilyn cais am adolygiad a wneir yn unol â pharagraff 5(2)—
a
yn rhoi hysbysiad o dan baragraff 5(5) yn hysbysu deiliad y contract bod y landlord wedi penderfynu cadarnhau penderfyniad i roi hysbysiad o estyniad o dan baragraff 4, neu
b
yn methu â rhoi hysbysiad yn unol â pharagraff 5(5).
2
Caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys sirol am adolygiad o’r penderfyniad i roi’r hysbysiad o estyniad.
3
Rhaid gwneud y cais—
a
cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan baragraff 5(5), neu
b
os na roddwyd hysbysiad yn unol â pharagraff 5(5), cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad erbyn pryd yr oedd yn ofynnol i’r landlord roi hysbysiad o dan yr is-baragraff hwnnw.
4
Caiff y llys sirol roi caniatâd i gais gael ei wneud ar ôl diwedd y cyfnod a ganiateir gan is-baragraff (3), ond dim ond os yw’n fodlon—
a
os ceisir caniatâd cyn diwedd y cyfnod hwnnw, bod rheswm da nad yw deiliad y contract yn gallu gwneud y cais mewn pryd, neu
b
os ceisir caniatâd ar ôl hynny, bod rheswm da bod deiliad y contract wedi methu â gwneud y cais mewn pryd ac am unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd.
5
Caiff y llys sirol gadarnhau neu ddiddymu’r penderfyniad i roi’r hysbysiad o estyniad.
6
Wrth ystyried a ddylai gadarnhau neu ddiddymu’r penderfyniad, rhaid i’r llys sirol gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys pan wneir cais am adolygiad barnwrol.
7
Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad—
a
nid oes unrhyw effaith i’r hysbysiad o estyniad, a
b
caiff y llys sirol wneud unrhyw orchymyn y gallai’r Uchel Lys ei wneud wrth wneud gorchymyn diddymu ar gais am adolygiad barnwrol.
8
Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad a bod y landlord yn rhoi hysbysiad pellach o estyniad i ddeiliad y contract o dan baragraff 4 cyn diwedd y cyfnod ôl-adolygiad—
a
mae’r hysbysiad yn cael effaith fel pe bai wedi ei roi yn unol â pharagraff 4(2) (ac eithrio at ddibenion paragraff 5(2)), a
b
mae paragraff 5(5) i’w ddarllen fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol i’r landlord hysbysu deiliad y contract am ganlyniad adolygiad o dan y paragraff hwnnw cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y gofynnodd deiliad y contract am yr adolygiad.
9
Y cyfnod ôl-adolygiad yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad.
I367Cais i’r llys i derfynu’r cyfnod prawf
1
Caiff deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth sy’n gontract safonol cyfnodol oherwydd gorchymyn o dan adran 116 wneud cais i’r llys am orchymyn sy’n dod â’r cyfnod prawf i ben cyn yr adeg y byddai’n dod i ben o dan baragraff 3(1).
2
Caniateir gwneud y cais ar unrhyw adeg ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract (gweler adran 116(2)(b)).
3
Caiff y llys ddod â’r cyfnod prawf i ben, ond dim ond os yw’n fodlon—
a
nad oes angen mwyach i ddeiliad y contract feddiannu o dan gontract safonol cyfnodol, neu
b
nad yw’r landlord wedi sicrhau bod rhaglen briodol o gymorth cymdeithasol ar gael i ddeiliad y contract a’i bod yn annhebygol y bydd cymorth o’r fath ar gael.
I558Telerau contract diogel a oedd yn gontract safonol ymddygiad gwaharddedig
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo contract safonol ymddygiad gwaharddedig yn dod i ben ac yn cael ei ddisodli gan gontract diogel am fod y cyfnod prawf wedi dod i ben.
2
Os yw’r landlord a deiliad y contract wedi cytuno ar yr hyn fydd telerau’r contract diogel yn yr achos hwnnw, telerau’r contract yw’r telerau y cytunwyd arnynt.
3
Mae is-baragraff (2) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Ddeddf hon ynghylch ymgorffori darpariaethau sylfaenol ac atodol.
4
Os nad yw’r landlord a deiliad y contract wedi cytuno ar yr hyn fydd telerau’r contract diogel yn yr achos hwnnw—
a
mae’r darpariaethau sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i gontractau diogel a wneir gyda’r landlord wedi eu hymgorffori fel telerau’r contract heb eu haddasu,
b
mae unrhyw un neu ragor o delerau’r contract sy’n anghydnaws â’r darpariaethau sylfaenol neu atodol hynny yn peidio â chael effaith, ac
c
fel arall, mae telerau’r contract diogel yr un fath â thelerau’r contract safonol ymddygiad gwaharddedig.
5
Nid yw’r gofyniad yn adran 39(1) (rhaid i’r landlord roi cyfeiriad cyswllt i ddeiliad y contract ar ddechrau’r contract) yn gymwys.
ATODLEN 8SEILIAU RHEOLI YSTAD
RHAN 1Y SEILIAU
SEILIAU AILDDATBLYGU
I991Sail A (gwaith adeiladu)
Mae’r landlord yn bwriadu, o fewn cyfnod rhesymol o adennill meddiant o’r annedd—
a
dymchwel neu ailadeiladu’r adeilad neu ran o’r adeilad sy’n cynnwys yr annedd, neu
b
gwneud gwaith ar yr adeilad hwnnw neu ar dir sy’n cael ei drin fel rhan o’r annedd,
ac ni all wneud hynny’n rhesymol heb adennill meddiant o’r annedd.
I1612Sail B (cynlluniau ailddatblygu)
1
Mae’r sail hon yn codi os yw’r annedd yn bodloni’r amod cyntaf neu’r ail amod.
2
Yr amod cyntaf yw bod yr annedd mewn ardal sy’n ddarostyngedig i gynllun ailddatblygu a gymeradwywyd yn unol â Rhan 2 o’r Atodlen hon, a bod y landlord yn bwriadu gwaredu’r annedd yn unol â’r cynllun o fewn cyfnod rhesymol ar ôl adennill meddiant.
3
Yr ail amod yw bod rhan o’r annedd mewn ardal o’r fath a bod y landlord yn bwriadu gwaredu’r rhan honno yn unol â’r cynllun o fewn cyfnod rhesymol ar ôl adennill meddiant, a’i bod yn rhesymol i feddiant o’r annedd fod yn ofynnol ganddo at y diben hwnnw.
SEILIAU LLETY ARBENNIG
I1633Sail C (elusennau)
1
Mae’r landlord yn elusen a byddai’r ffaith bod deiliad y contract yn parhau i feddiannu’r annedd yn gwrthdaro ag amcanion yr elusen.
2
Ond nid yw’r sail hon ar gael i’r landlord (“L”) oni bai, ar yr adeg y gwnaed y contract ac ar bob adeg wedi hynny, bod y person yn safle’r landlord (boed L neu berson arall) yn elusen.
3
Yn y paragraff hwn mae i “elusen” yr un ystyr â “charity” yn Neddf Elusennau 2011 (p. 25) (gweler adran 1 o’r Ddeddf honno).
I964Sail D (annedd sy’n addas i bobl anabl)
Mae’r annedd yn cynnwys nodweddion sy’n sylweddol wahanol i’r rheini a geir mewn anheddau cyffredin ac sydd wedi eu cynllunio i’w gwneud yn addas i’w meddiannu gan berson sydd ag anableddau corfforol ac sydd angen llety o fath a ddarperir gan yr annedd ac—
a
nid oes mwyach berson o’r fath yn byw yn yr annedd, a
b
mae ei hangen ar y landlord ar gyfer ei meddiannu gan berson o’r fath (boed ar ei ben ei hun neu gydag aelodau o deulu’r person hwnnw).
I335Sail E (cymdeithasau tai ac ymddiriedolaethau tai: pobl y mae’n anodd eu cartrefu)
1
Mae’r landlord yn gymdeithas dai neu’n ymddiriedolaeth dai sy’n darparu anheddau sydd ond ar gyfer eu meddiannu (boed ar eu pen eu hunain neu gydag eraill) gan bobl y mae’n anodd eu cartrefu, ac—
a
naill ai nid oes person o’r fath yn byw yn yr annedd mwyach neu mae awdurdod tai lleol wedi cynnig yr hawl i ddeiliad y contract feddiannu annedd arall o dan gontract diogel, a
b
mae angen yr annedd ar y landlord ar gyfer ei meddiannu gan berson o’r fath (boed ar ei ben ei hun neu gydag aelodau o deulu’r person hwnnw).
2
Mae person yn anodd ei gartrefu os yw amgylchiadau’r person hwnnw (ac eithrio ei amgylchiadau ariannol) yn ei gwneud yn arbennig o anodd iddo fodloni ei angen am gartref.
I856Sail F (grwpiau o anheddau ar gyfer pobl sydd ag anghenion arbennig)
Mae’r annedd yn ffurfio rhan o grŵp o anheddau y mae’n arfer gan y landlord eu cynnig i’w meddiannu gan bersonau sydd ag anghenion arbennig ac—
a
mae gwasanaeth cymdeithasol neu gyfleuster arbennig yn cael ei ddarparu yn agos at y grŵp o anheddau er mwyn cynorthwyo personau sydd â’r anghenion arbennig hynny,
b
nid oes person sydd â’r anghenion arbennig hynny yn byw yn yr annedd mwyach, ac
c
mae angen yr annedd ar y landlord ar gyfer ei meddiannu gan berson sydd â’r anghenion arbennig hynny (boed ar ei ben ei hun neu gydag aelodau o deulu’r person hwnnw).
SEILIAU TANFEDDIANNAETH
I427Sail G (olynwyr wrth gefn)
Mae deiliad y contract wedi olynu i’r contract meddiannaeth o dan adran 73 fel olynydd wrth gefn (gweler adrannau 76 a 77), ac mae’r llety yn yr annedd yn fwy helaeth na’r hyn sydd ei angen yn rhesymol ar ddeiliad y contract.
I1158Sail H (cyd-ddeiliaid contract)
1
Mae’r sail hon yn codi os bodlonir yr amod cyntaf a’r ail amod.
2
Yr amod cyntaf yw bod hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract o dan y contract wedi eu terfynu yn unol ag—
a
adran 111, 130 neu 138 (tynnu’n ôl), neu
b
adran 225, 227 neu 230 (gwahardd).
3
Yr ail amod yw—
a
bod y llety yn yr annedd yn fwy helaeth na’r hyn sydd ei angen yn rhesymol ar ddeiliad (neu ddeiliaid) y contract sy’n weddill, neu
b
pan fo’r landlord yn landlord cymunedol, nad yw deiliad (neu ddeiliaid) y contract sy’n weddill yn bodloni meini prawf y landlord ar gyfer dyrannu llety tai.
RHESYMAU RHEOLI YSTAD ERAILL
I109Sail I (rhesymau rheoli ystad eraill)
1
Mae’r sail hon yn codi pan fo’n ddymunol i’r landlord adennill meddiant o’r annedd am ryw reswm rheoli ystad sylweddol arall.
2
Caiff rheswm rheoli ystad, yn benodol, ymwneud ag—
a
yr annedd i gyd neu ran ohoni, neu
b
unrhyw fangre arall sydd gan y landlord y mae’r annedd yn gysylltiedig â hi, boed oherwydd agosrwydd neu oherwydd y dibenion y’i defnyddir ar eu cyfer, neu mewn unrhyw ffordd arall.
DARPARIAETH SYLFAENOL
I910Darpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i bob contract meddiannaeth
Mae’r Rhan hon o’r Atodlen hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.
RHAN 2CYMERADWYO CYNLLUNIAU AILDDATBLYGU AT DDIBENION SAIL B
I10811Cymeradwyo cynllun a chymeradwyo amrywio cynllun
1
Caiff Gweinidogion Cymru, ar gais gan landlord, gymeradwyo at ddibenion Sail B o’r seiliau rheoli ystad gynllun ar gyfer gwaredu ac ailddatblygu ardal o dir sy’n ffurfio neu’n cynnwys y cyfan neu ran o annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth.
2
At ddibenion y paragraff hwn—
a
ystyr “gwaredu” yw gwaredu unrhyw fuddiant yn y tir (gan gynnwys rhoi opsiwn), a
b
ystyr “ailddatblygu” yw dymchwel neu ailadeiladu adeiladau neu wneud gwaith arall ar adeiladau neu dir,
ac nid oes wahaniaeth a yw’r gwaredu i ragflaenu neu i ddilyn y gwaith ailddatblygu.
3
Caiff Gweinidogion Cymru, ar gais y landlord, gymeradwyo amrywio cynllun a gymeradwywyd ganddynt yn flaenorol a chânt, ymysg pethau eraill, gymeradwyo amrywiad sy’n ychwanegu tir at yr ardal sy’n ddarostyngedig i’r cynllun.
I13112Hysbysiad i ddeiliaid contract a effeithir
1
Os yw landlord yn bwriadu gwneud cais i Weinidogion Cymru gymeradwyo cynllun neu gymeradwyo amrywiad i gynllun a gymeradwywyd, rhaid i’r landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan unrhyw gontract meddiannaeth a effeithir.
2
Effeithir ar gontract meddiannaeth os yw’r cynnig yn effeithio ar yr annedd sy’n ddarostyngedig iddo.
3
Rhaid i’r hysbysiad ddatgan—
a
prif nodweddion y cynllun arfaethedig, neu brif nodweddion yr amrywiadau arfaethedig i’r cynllun a gymeradwywyd,
b
bod y landlord yn bwriadu gwneud cais i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r cynllun neu’r amrywiad, ac
c
mai effaith cymeradwyaeth o’r fath, oherwydd adran 160 a Sail B o’r seiliau rheoli ystad, fydd galluogi’r landlord i wneud hawliad meddiant mewn perthynas â’r annedd.
4
Rhaid i’r hysbysiad hefyd hysbysu deiliad y contract—
a
y caiff wneud sylwadau i’r landlord ynglŷn â’r cynnig, a
b
bod rhaid gwneud y sylwadau cyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad iddo (neu unrhyw gyfnod hwy a bennir gan y landlord yn yr hysbysiad).
5
Ni chaiff y landlord wneud cais i Weinidogion Cymru hyd nes bod y landlord wedi ystyried unrhyw sylwadau a wnaed cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
6
Mae is-baragraff (7) yn gymwys yn achos landlord o dan gontract meddiannaeth y byddai (oni bai am y paragraff hwn) yn ofynnol o dan adran 234 iddo ymgynghori â deiliad y contract ynglŷn â chynllun ailddatblygu (neu amrywio cynllun ailddatblygu).
7
Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys, bydd y paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas ag ymgynghoriad y landlord â deiliad y contract yn lle adran 234.
I9113Penderfynu ynghylch cymeradwyo neu amrywio
1
Wrth ystyried pa un ai gymeradwyo cynllun neu amrywiad ai peidio, rhaid i Weinidogion Cymru, ymysg pethau eraill, ystyried—
a
effaith y cynllun ar helaethder a chymeriad llety tai yn y gymdogaeth,
b
y cyfnod amser a gynigir yn y cynllun fel y cyfnod y bydd y gwarediad a’r ailddatblygiad arfaethedig yn digwydd, ac
c
y graddau y mae’r cynllun yn cynnwys darpariaeth ar gyfer gwerthu tai a ddarperir o dan y cynllun i bersonau perthnasol, neu i dai gael eu meddiannu gan bersonau o’r fath o dan gontractau meddiannaeth.
2
Ystyr “personau perthnasol” yw deiliaid contract presennol o dan gontract meddiannaeth gyda’r landlord ac, os yw’r landlord yn landlord cymunedol, personau a enwebir gan y landlord.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd ystyried—
a
unrhyw sylwadau a wneir iddynt, a
b
i’r graddau y cânt eu dwyn i sylw Gweinidogion Cymru, unrhyw sylwadau a wneir i’r landlord.
4
Rhaid i’r landlord roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth ynglŷn â’r sylwadau a wneir i’r landlord, ac ynglŷn â materion perthnasol eraill, y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani.
I10414Cynllun yn effeithio ar ran o annedd etc.
Ni chaiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo cynllun neu amrywiad fel ei fod yn cynnwys, yn yr ardal sy’n ddarostyngedig i’r cynllun—
a
rhan yn unig o unrhyw annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth, neu
b
unrhyw annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth nad yw’r gwaith sy’n rhan o’r ailddatblygu’n effeithio arno ond y bwriedir ei waredu ynghyd â thir arall a effeithir felly,
oni bai eu bod yn fodlon bod modd cyfiawnhau ei chynnwys dan yr amgylchiadau.
I6715Amodau yn ymwneud â chymeradwyo
1
Caniateir cymeradwyo yn ddarostyngedig i amodau a chaniateir mynegi bod y gymeradwyaeth i ddod i ben ar ôl cyfnod penodedig.
2
Caiff Gweinidogion Cymru, yn dilyn cais gan y landlord neu fel arall, amrywio cymeradwyaeth er mwyn—
a
ychwanegu, dileu neu amrywio amodau y mae’r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt, neu
b
ymestyn neu gyfyngu’r cyfnod y daw’r gymeradwyaeth i ben ar ei ddiwedd.
I8216Darpariaeth arbennig ar gyfer landlordiaid cymunedol
At ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon mae landlord cymunedol i’w drin fel landlord mewn perthynas ag annedd os oes ganddo fuddiant o unrhyw ddisgrifiad yn yr annedd honno.
F29ATODLEN 8ACONTRACTAU SAFONOL Y GELLIR EU TERFYNU AR ÔL CYFNOD HYSBYSU O DDAU FIS O DAN ADRAN 173 NEU O DAN GYMAL TERFYNU’R LANDLORD
Atod. 8A wedi ei fewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 1
1Contractau safonol ymddygiad gwaharddedig
Contract safonol ymddygiad gwaharddedig.
2Tenantiaethau a thrwyddedau sy’n gontractau meddiannaeth oherwydd hysbysiad a roddir o dan Ran 2 o Atodlen 2
Contract safonol na fyddai’n gontract meddiannaeth oni bai am hysbysiad o dan baragraff 3 o Atodlen 2 (llety gwyliau; sefydliadau gofal; trefniadau hwylus dros dro; llety a rennir).
3Llety ar gyfer myfyrwyr mewn addysg uwch
1
Contract safonol—
a
pan fo’r landlord yn sefydliad addysg uwch, a
b
pan fo’r hawl i feddiannu yn cael ei rhoi at ddiben galluogi deiliad y contract i fynychu cwrs astudio yn y sefydliad hwnnw, neu mewn sefydliad addysg uwch arall (pa un a roddir yr hawl i feddiannu at ddiben arall hefyd ai peidio).
2
Ystyr “sefydliad addysg uwch” yw sefydliad yn y sector addysg uwch (o fewn ystyr adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13)).
4Llety â chymorth
Contract safonol â chymorth.
5Llety i geiswyr lloches, etc.
Contract safonol a wneir er mwyn darparu llety o dan Ran 6 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (p. 33) (cymorth i geiswyr lloches, etc.).
6Llety i bersonau digartref
Contract safonol a wneir fel y disgrifir ym mharagraff 11 neu 12 o Atodlen 2 (llety i bersonau digartref).
7Meddiannaeth yn rhinwedd swydd
Contract safonol pan fo’n ofynnol i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd yn ôl ei gontract cyflogaeth.
8Meddiannaeth yn rhinwedd swydd: yr heddlu
Contract safonol—
a
pan fo deiliad y contract yn aelod o heddlu, a
b
pan fo’r annedd yn cael ei darparu i ddeiliad y contract yn ddi-rent o dan reoliadau a wnaed o dan adran 50 o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p. 16) (rheoliadau cyffredinol o ran llywodraethu, gweinyddu ac amodau gwasanaeth).
9Meddiannaeth yn rhinwedd swydd: y gwasanaethau tân ac achub
Contract safonol—
a
pan fo deiliad y contract yn cael ei gyflogi gan awdurdod tân ac achub,
b
pan fo contract cyflogaeth deiliad y contract yn ei gwneud yn ofynnol iddo fyw yn agos at orsaf dân benodol, ac
c
pan fo’r annedd yn cael ei darparu ar ei gyfer gan yr awdurdod tân ac achub o ganlyniad i’r gofyniad hwnnw.
10Llety dros dro: tir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblygu
1
Contract safonol—
a
pan fo’r tir y mae’r annedd yn sefyll arno (gan gynnwys unrhyw dir a feddiennir ynghyd â’r annedd heblaw am dir amaethyddol sy’n fwy na 0.809 hectar) yn dir neu’n rhan o dir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblygu, a
b
pan fo’r annedd yn cael ei defnyddio gan y landlord fel llety dros dro hyd nes y bydd y tir yn cael ei ddatblygu.
2
Mae i “datblygu” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).
11Llety dros dro: trefniadau tymor byr
Contract safonol—
a
pan fo’r annedd wedi ei gosod i’r landlord â meddiant gwag i’w defnyddio fel llety dros dro,
b
pan fo telerau ei gosod yn cynnwys darpariaeth i’r lesydd gael meddiant gwag gan y landlord ar ddiwedd cyfnod penodedig neu pan fo’n ofynnol gan y lesydd,
c
nad yw’r lesydd oddi tano yn landlord cymunedol, a
d
nad oes gan y landlord unrhyw fuddiant yn yr annedd ac eithrio o dan y les dan sylw neu fel morgeisiwr.
12Llety dros dro: llety yn ystod gwaith
1
Contract safonol—
a
pan fo’r annedd (yr “annedd dros dro”) wedi ei darparu i’w meddiannu gan ddeiliad y contract tra bo gwaith yn cael ei wneud ar yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu fel cartref,
b
pan nad yw landlord yr annedd dros dro yr un â landlord yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu (yr “hen annedd”), ac
c
pan nad oedd deiliad y contract yn ddeiliad contract yr hen annedd o dan gontract diogel ar yr adeg y peidiodd â’i meddiannu fel cartref.
2
Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn cynnwys cyfeiriadau at ragflaenydd deiliaid y contract.
3
At ddibenion is-baragraff (2), mae person yn rhagflaenydd i ddeiliad contract o dan gontract safonol os oedd y person hwnnw yn ddeiliad contract blaenorol o dan yr un contract.
13Pŵer i ddiwygio’r Atodlen
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen hon drwy reoliadau.
ATODLEN 9CONTRACTAU SAFONOL NAD YW’R CYFYNGIADAU YN ADRANNAU 175 F15... A 196 F14(PRYD Y CANIATEIR RHOI HYSBYSIAD Y LANDLORD) YN GYMWYS IDDYNT
Gair yn Atod. 9 wedi ei hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 26(5)
Gair yn pennawd Atod. 9 wedi ei hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 26(4)(a)
Geiriau yn Atod. 9 heading wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 26(4)(b)
I177I791Contractau safonol ymddygiad gwaharddedig
Contract safonol ymddygiad gwaharddedig.
I152I842Tenantiaethau a thrwyddedau sy’n gontractau meddiannaeth oherwydd hysbysiad a roddir o dan Ran 2 o Atodlen 2
Contract safonol na fyddai’n gontract meddiannaeth oni bai am hysbysiad o dan baragraff 3 o Atodlen 2 (llety gwyliau; sefydliadau gofal; trefniadau hwylus dros dro; llety a rennir).
I138I373Llety â chymorth
F37Contract safonol â chymorth.
F21I3I294F21...
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F35I78I1745Cymorth i bersonau sydd wedi eu dadleoli
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
I146I1246Llety i bersonau digartref
Contract safonol a wneir fel y disgrifir ym mharagraff 11 neu 12 o Atodlen 2 (llety i bersonau digartref).
I94I267Meddiannaeth yn rhinwedd swydd
Contract safonol pan fo’n ofynnol i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd yn ôl ei gontract cyflogaeth.
I143I1678Meddiannaeth yn rhinwedd swydd: yr heddlu
Contract safonol—
a
pan fo deiliad y contract yn aelod o heddlu, a
b
pan fo’r annedd yn cael ei darparu i ddeiliad y contract yn ddi-rent o dan reoliadau a wnaed o dan adran 50 o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p. 16) (rheoliadau cyffredinol o ran llywodraethu, gweinyddu ac amodau gwasanaeth).
I149I1369Meddiannaeth yn rhinwedd swydd: y gwasanaethau tân ac achub
Contract safonol—
a
pan fo deiliad y contract yn cael ei gyflogi gan awdurdod tân ac achub,
b
pan fo contract cyflogaeth deiliad y contract yn ei gwneud yn ofynnol iddo fyw yn agos at orsaf dân benodol, ac
c
pan fo’r annedd yn cael ei darparu ar ei gyfer gan yr awdurdod tân ac achub o ganlynad i’r gofyniad hwnnw.
I111I12110Llety dros dro: tir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblygu
1
Contract safonol—
a
pan fo’r tir y mae’r annedd yn sefyll arno (gan gynnwys unrhyw dir a feddiennir ynghyd â’r annedd heblaw am dir amaethyddol sy’n fwy na 0.809 hectar) yn dir neu’r rhan o dir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblygu, a
b
pan fo’r annedd yn cael ei defnyddio gan y landlord fel llety dros dro hyd nes y bydd y tir yn cael ei ddatblygu.
2
Mae i “datblygu” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).
I5I16611Llety dros dro: trefniadau tymor byr
Contract safonol—
a
pan fo’r annedd wedi ei gosod i’r landlord â meddiant gwag i’w defnyddio fel llety dros dro,
b
pan fo telerau ei gosod yn cynnwys darpariaeth i’r lesydd gael meddiant gwag gan y landlord ar ddiwedd cyfnod penodedig neu pan fo’n ofynnol gan y lesydd,
c
nad yw’r lesydd oddi tano yn landlord cymunedol, a
d
nad oes gan y landlord unrhyw fuddiant yn yr annedd ac eithrio o dan y les dan sylw neu fel morgeisiwr.
I176I10612Llety dros dro: llety yn ystod gwaith
1
Contract safonol—
a
pan fo’r annedd (yr “annedd dros dro”) wedi ei darparu i’w meddiannu gan ddeiliad y contract tra bo gwaith yn cael ei wneud ar yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu fel cartref,
b
pan nad yw landlord yr annedd dros dro yr un â landlord yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu (yr “hen annedd”), ac
c
pan nad oedd deiliad y contract yn ddeiliad contract yr hen annedd o dan gontract diogel ar yr adeg y peidiodd â’i meddiannu fel cartref.
2
Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn cynnwys cyfeiriadau at ragflaenydd deiliaid y contract.
3
At ddibenion is-baragraff (2), mae person yn rhagflaenydd i ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth os oedd y person hwnnw yn ddeiliad contract blaenorol o dan yr un contract.
I154I10213Pŵer i ddiwygio’r Atodlen
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen hon drwy reoliadau.
F38ATODLEN 9AContractau safonol: CYFYNGIADAU AR ROI HYSBYSIAD O DAN ADRAN 173, o dan adran 186, AC O DAN GYMAL TERFYNU’R LANDLORD
Atod. 9A wedi ei fewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 2
RHAN 1Y CYFYNGIADAU
1Methu â darparu datganiad ysgrifenedig
Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan—
a
na roddwyd datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract o dan adran 31(1) (gofyniad i ddarparu datganiad ysgrifenedig ar ddechrau contract), neu
b
bo’r landlord yn ymwybodol fod deiliad y contract wedi newid, ac na roddwyd datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad newydd y contract o dan adran 31(2) (gofyniad i roi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad newydd y contract).
2Cyfyngiad o chwe mis yn dilyn methu â darparu datganiad ysgrifenedig o fewn y cyfnod a bennir yn adran 31
Ni chaiff landlord sydd wedi methu â chydymffurfio ag adran 31(1) neu (2) roi hysbysiad yn ystod y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract.
3Methu â darparu gwybodaeth
Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan na fo’r landlord wedi darparu hysbysiad sy’n ofynnol o dan adran 39 (dyletswydd i ddarparu gwybodaeth).
4Torri gofynion sicrwydd a blaendal
1
Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan na fo sicrwydd y gofynnodd y landlord amdano mewn cysylltiad â’r contract ar ffurf nad yw adran 43 yn ei chaniatáu wedi ei ddychwelyd i’r person a’i rhoddodd.
2
Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan fo unrhyw un neu ragor o is-baragraffau (3) i (5) yn gymwys oni bai—
a
bod blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract wedi ei ddychwelyd i ddeiliad y contract (neu i unrhyw berson a dalodd y blaendal ar ei ran) naill ai’n llawn neu ar ôl tynnu unrhyw symiau a gytunwyd, neu
b
bod cais i’r llys sirol wedi ei wneud o dan baragraff 2 o Atodlen 5 a bod y llys sirol wedi dyfarnu arno, ei fod wedi ei dynnu’n ôl, neu ei fod wedi ei setlo drwy gytundeb rhwng y partïon.
3
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os oes blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â’r contract, ond ni chydymffurfiwyd â gofynion cychwynnol cynllun blaendal awdurdodedig.
4
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os oes blaendal wedi ei dalu mewn cysylltiad â’r contract, ond nid yw’r landlord wedi darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol yn ôl adran 45(2)(b).
5
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys os nad yw blaendal a dalwyd mewn cysylltiad â’r contract yn cael ei ddal yn unol â chynllun blaendal awdurdodedig.
5Taliadau gwaharddedig a blaendaliadau cadw o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (dccc 2)
1
Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan fo—
a
taliad gwaharddedig (o fewn ystyr Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) wedi ei wneud mewn perthynas â’r contract fel a ddisgrifir yn adran 2 neu 3 o’r Ddeddf honno, a
b
y taliad gwaharddedig heb ei ad-dalu.
2
Ni chaiff landlord roi hysbysiad ar adeg pan fo—
a
blaendal cadw (o fewn ystyr Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) a dalwyd mewn perthynas â’r contract heb ei ad-dalu, a
b
methiant i ad-dalu’r blaendal yn gyfystyr â thorri gofynion Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.
3
Wrth benderfynu at ddibenion y paragraff hwn a yw taliad gwaharddedig neu flaendal cadw wedi ei ad-dalu, mae’r taliad neu’r blaendal i’w drin fel pe bai wedi ei ad-dalu i’r graddau (os o gwbl) y mae wedi ei gymhwyso tuag at y naill neu’r llall o’r canlynol, neu’r ddau ohonynt—
a
taliad rhent o dan y contract;
b
taliad sy’n ofynnol fel sicrwydd mewn cysylltiad â’r contract.
6Ystyr “hysbysiad”
Yn yr Atodlen hon, ystyr “hysbysiad” yw hysbysiad o dan—
a
adran 173 (hysbysiad y landlord o dan gontract safonol cyfnodol);
b
adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol);
c
cymal terfynu’r landlord mewn contract safonol cyfnod penodol.
RHAN 2DARPARIAETH BELLACH
7Darpariaeth sylfaenol
1
Mae Rhan 1 o’r Atodlen hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob—
a
contract safonol cyfnodol sy’n ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract,
b
contract safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186 fel un o delerau’r contract, ac
c
contract safonol cyfnod penodol sydd â chymal terfynu’r landlord.
2
Mae adran 20 yn darparu—
a
bod rhaid ymgorffori Rhan 1 o’r Atodlen hon, a
b
na chaniateir ymgorffori Rhan 1 o’r Atodlen hon ynghyd ag addasiadau iddi.
8Pŵer i ddiwygio’r Atodlen
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen hon drwy reoliadau.
F10ATODLEN 9BCONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL Y GELLIR EU TERFYNU DRWY ROI HYSBYSIAD O DAN ADRAN 186
Atod. 9B wedi ei fewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 3
1Tenantiaethau a thrwyddedau sy’n gontractau meddiannaeth oherwydd hysbysiad a roddir o dan Ran 2 o Atodlen 2
Contract safonol na fyddai’n gontract meddiannaeth oni bai am hysbysiad o dan baragraff 3 o Atodlen 2 (llety gwyliau; sefydliadau gofal; trefniadau hwylus dros dro; llety a rennir).
2Llety â chymorth
Contract safonol â chymorth.
3Llety i geiswyr lloches, etc.
Contract safonol a wneir er mwyn darparu llety o dan Ran 6 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (p. 33) (cymorth i geiswyr lloches, etc.).
4Llety i bersonau digartref
Contract safonol a wneir fel y disgrifir ym mharagraff 11 neu 12 o Atodlen 2 (llety i bersonau digartref).
5Meddiannaeth yn rhinwedd swydd
Contract safonol pan fo’n ofynnol i ddeiliad y contract feddiannu’r annedd yn ôl ei gontract cyflogaeth.
6Meddiannaeth yn rhinwedd swydd: yr heddlu
Contract safonol—
a
pan fo deiliad y contract yn aelod o heddlu, a
b
pan fo’r annedd yn cael ei darparu i ddeiliad y contract yn ddi-rent o dan reoliadau a wnaed o dan adran 50 o Ddeddf yr Heddlu 1996 (p. 16) (rheoliadau cyffredinol o ran llywodraethu, gweinyddu ac amodau gwasanaeth).
7Meddiannaeth yn rhinwedd swydd: y gwasanaethau tân ac achub
Contract safonol—
a
pan fo deiliad y contract yn cael ei gyflogi gan awdurdod tân ac achub,
b
pan fo contract cyflogaeth deiliad y contract yn ei gwneud yn ofynnol iddo fyw yn agos at orsaf dân benodol, ac
c
pan fo’r annedd yn cael ei darparu ar ei gyfer gan yr awdurdod tân ac achub o ganlyniad i’r gofyniad hwnnw.
8Llety dros dro: tir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblygu
1
Contract safonol—
a
pan fo’r tir y mae’r annedd yn sefyll arno (gan gynnwys unrhyw dir a feddiennir ynghyd â’r annedd heblaw am dir amaethyddol sy’n fwy na 0.809 hectar) yn dir neu’n rhan o dir sydd wedi ei gaffael ar gyfer datblygu, a
b
pan fo’r annedd yn cael ei defnyddio gan y landlord fel llety dros dro hyd nes y bydd y tir yn cael ei ddatblygu.
2
Mae i “datblygu” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8).
9Llety dros dro: trefniadau tymor byr
Contract safonol—
a
pan fo’r annedd wedi ei gosod i’r landlord â meddiant gwag i’w defnyddio fel llety dros dro,
b
pan fo telerau ei gosod yn cynnwys darpariaeth i’r lesydd gael meddiant gwag gan y landlord ar ddiwedd cyfnod penodedig neu pan fo’n ofynnol gan y lesydd,
c
nad yw’r lesydd oddi tano yn landlord cymunedol, a
d
nad oes gan y landlord unrhyw fuddiant yn yr annedd ac eithrio o dan y les dan sylw neu fel morgeisiwr.
10Llety dros dro: llety yn ystod gwaith
1
Contract safonol—
a
pan fo’r annedd (yr “annedd dros dro”) wedi ei darparu i’w meddiannu gan ddeiliad y contract tra bo gwaith yn cael ei wneud ar yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu fel cartref,
b
pan nad yw landlord yr annedd dros dro yr un â landlord yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu (yr “hen annedd”), ac
c
pan nad oedd deiliad y contract yn ddeiliad contract yr hen annedd o dan gontract diogel ar yr adeg y peidiodd â’i meddiannu fel cartref.
2
Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn cynnwys cyfeiriadau at ragflaenydd deiliaid y contract.
3
At ddibenion is-baragraff (2), mae person yn rhagflaenydd i ddeiliad contract o dan gontract safonol os oedd y person hwnnw yn ddeiliad contract blaenorol o dan yr un contract.
11Pŵer i ddiwygio’r Atodlen
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen hon drwy reoliadau.
F42ATODLEN 9CCONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL A GAIFF GYNNWYS CYMAL TERFYNU’R LANDLORD HYD YN OED OS YDYNT WEDI EU GWNEUD AM GYFNOD LLAI NA DWY FLYNEDD
Atod. 9C wedi ei fewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 4

ATODLEN 10GORCHMYNION ADENNILL MEDDIANT AR SEILIAU DISGRESIWN ETC.: RHESYMOLDEB
Rhagarweiniol
I191
Mae’r Atodlen hon yn gymwys at ddiben penderfynu a yw’n rhesymol—
a
gwneud gorchymyn adennill meddiant o dan adran 209 (tor contract) neu 210 (seiliau rheoli ystad), neu
b
gwneud penderfyniad o dan adran 211 i ohirio achos ar hawliad meddiant neu ohirio ildio meddiant.
I882
Rhaid i’r llys, wrth benderfynu a yw’n rhesymol gwneud gorchymyn neu benderfyniad o’r fath, neu wrth wneud unrhyw benderfyniad arall sydd ar gael iddo (ymysg pethau eraill), roi sylw i’r amgylchiadau a nodir ym mharagraffau 4 i 13 i’r graddau y mae’r llys o’r farn eu bod yn berthnasol (ac i’r graddau nad yw’n ofynnol fel arall iddo roi sylw i’r materion hynny; er enghraifft, o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 (p. 42)).
I693
Mae paragraff 14 yn dynodi amgylchiad, sy’n ymwneud â chymorth gan awdurdodau lleol mewn perthynas â digartrefedd, na ddylai’r llys roi sylw iddo (yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad i roi sylw i’r amgylchiad hwnnw y mae’r llys yn ddarostyngedig iddo).
Amgylchiadau o ran deiliad y contract
I534
Effaith debygol y gorchymyn neu’r penderfyniad ar ddeiliad y contract (ac ar unrhyw feddianwyr y caniateir iddynt feddiannu annedd).
I325
Os yw’r achos yn un lle y caniateir i’r llys benderfynu gohirio ildio meddiant, y tebygolrwydd y bydd deiliad y contract yn cydymffurfio ag unrhyw delerau a all gael eu gosod.
Amgylchiadau o ran y landlord
I276
Effaith debygol peidio â gwneud y gorchymyn, neu’r penderfyniad, ar fuddiannau’r landlord, gan gynnwys buddiannau ariannol y landlord.
I1507
Os yw’r landlord yn landlord cymunedol, effaith debygol peidio â gwneud y gorchymyn, neu’r penderfyniad, ar allu’r landlord i gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â thai, gan gynnwys cynorthwyo personau eraill sydd angen llety.
I1168Amgylchiadau o ran personau eraill
1
Effaith debygol y gorchymyn neu’r penderfyniad ar—
a
deiliaid contractau a meddianwyr y caniateir iddynt feddiannu anheddau eraill y landlord,
b
personau sydd wedi gofyn i’r landlord ddarparu llety tai iddynt, ac
c
personau sy’n byw, yn ymweld neu fel arall yn ymgymryd â gweithgaredd cyfreithlon yn yr ardal (a phersonau sy’n dymuno byw, ymweld neu ymgymryd â gweithgareddau cyfreithlon yn yr ardal).
2
Os gwneir hawliad meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract), effaith debygol yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff 10 ar y personau a grybwyllir yn is-baragraff (1).
I1099Contract meddiannaeth newydd wedi ei gynnig
Pa un a yw’r landlord wedi cynnig neu’n ymrwymo i gynnig contract meddiannaeth newydd (boed ar gyfer yr un annedd neu anheddau eraill) i un neu ragor o’r personau sy’n meddiannu’r annedd neu’n byw yn yr annedd.
I1710Amgylchiadau mewn perthynas â hawliad meddiant ar sail tor contract
Os gwneir hawliad meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract)—
a
natur, amlder neu hyd y tor contract neu’r toriadau contract,
b
y graddau y mae deiliad y contract (neu feddiannydd y caniateir iddo feddiannu’r annedd) yn gyfrifol am y toriad,
c
pa mor debygol yw hi y bydd y toriad yn ailddigwydd, a
d
unrhyw gamau i ddod â’r toriad i ben, neu i’w atal rhag ailddigwydd, a gymerwyd gan y landlord cyn gwneud hawliad meddiant.
I5711Amgylchiadau mewn perthynas â hawliad meddiant yn ymwneud ag adran 55
Os yw’r landlord yn gwneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar dorri adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall), budd y cyhoedd yn gyffredinol mewn atal yr ymddygiad y mae’r adran honno yn ei wahardd.
I5112Amgylchiadau yn ymwneud â Sail G o’r seiliau rheoli ystad
Os yw’r landlord yn gwneud hawliad meddiant gan ddibynnu’n llwyr neu’n rhannol ar Sail G o’r seiliau rheoli ystad (olynydd wrth gefn heb fod angen llety)—
a
oedran deiliad y contract a olynodd i’r contract meddiannaeth o dan adran 73,
b
y cyfnod y mae deiliad y contract wedi meddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref, ac
c
unrhyw gymorth ariannol neu gymorth arall a roddodd deiliad y contract i’r deiliad contract a fu farw (neu, os oedd y deiliad contract a fu farw yn olynydd i ddeiliad contract blaenorol, i’r deiliad contract blaenorol hwnnw).
I6413Amgylchiadau yn ymwneud â Sail H o’r seiliau rheoli ystad
Os yw’r landlord yn gwneud hawliad meddiant gan ddibynnu’n llwyr neu’n rhannol ar Sail H o’r seiliau rheoli ystad (cyd-ddeiliad contract yn ymadael)—
a
oedran y deiliad contract sy’n weddill (neu bob un o’r deiliaid contract sy’n weddill ), a
b
y cyfnod y mae’r deiliad contract sy’n weddill (neu bob un o’r deiliaid contract sy’n weddill) wedi meddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref.
I6814Cymorth mewn perthynas â digartrefedd heb fod yn berthnasol
Nid yw’r tebygolrwydd y rhoddir cymorth i berson o dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) neu Ran 7 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (digartrefedd) yn amgylchiad perthnasol (yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad i roi sylw i’r amgylchiad hwnnw y mae’r llys yn ddarostyngedig iddo).
ATODLEN 11LLETY ARALL ADDAS
I1701Rhagarweiniol
1
Mae’r Atodlen hon yn gymwys at ddibenion—
a
gorchymyn adennill meddiant o dan adran 210 (seiliau rheoli ystad), neu
b
gorchymyn o dan adran 222(3)(b) (apêl yn dilyn meddiant am gefnu ar annedd).
2
Yn yr Atodlen hon cyfeirir at yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu neu y ceisir meddiant ohoni fel “yr annedd bresennol”, a chyfeirir at y contract meddiannaeth y mae neu yr oedd yr annedd honno’n ddarostyngedig iddo fel “y contract presennol”.
I462Seiliau rheoli ystad: tystysgrif awdurdod tai lleol
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
os yw’r Atodlen hon yn gymwys oherwydd adran 210, a
b
os nad yw’r landlord o dan y contract presennol yn awdurdod tai lleol.
2
Mae tystysgrif yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal y mae’r annedd bresennol wedi ei lleoli ynddi, yn tystio y bydd yr awdurdod yn darparu llety arall addas ar gyfer deiliad y contract erbyn dyddiad a bennir ar y dystysgrif, yn dystiolaeth ddigamsyniol y bydd llety arall addas ar gael iddo erbyn y dyddiad hwnnw.
I433Llety addas
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
os yw’r Atodlen hon yn gymwys oherwydd adran 210 a naill ai—
i
na chyflwynir tystysgrif o’r math y cyfeiri ati ym mharagraff 2(2) i’r llys, neu
ii
mae’r landlord mewn perthynas â’r annedd bresennol yn awdurdod tai lleol, neu
b
os yw’r Atodlen hon yn gymwys oherwydd adran 222.
2
Mae llety yn addas—
a
os yw i gael ei feddiannu gan ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth sy’n rhoi F6sicrwydd iddo o ran meddiannaeth sy’n rhesymol gyfatebol i’r hyn y mae’r contract presennol yn ei roi, a
b
os yw, ym marn y llys, yn rhesymol addas ar gyfer anghenion deiliad y contract a’i deulu (sydd i’w ddyfarnu yn unol â pharagraff 4).
3
Os yw’r contract presennol yn ymwneud ag annedd ar wahân, nid yw llety yn addas oni bai ei fod yn annedd ar wahân.
I734Anghenion deiliad y contract a’i deulu
1
Rhaid i’r llys ddyfarnu a yw llety yn rhesymol addas mewn perthynas ag anghenion deiliad y contract a’i deulu yn unol â’r paragraff hwn.
2
Rhaid i’r llys ystyried (ymysg pethau eraill)—
a
anghenion deiliad y contract a’i deulu o ran maint y llety,
b
os yw’r landlord yn landlord preifat, anghenion deiliad y contract a’i deulu o ran cymeriad y llety,
c
modd deiliad y contract a’i deulu,
d
os yw deiliad y contract neu aelod o’i deulu yn gweithio neu’n derbyn addysg, pellter y llety o’r man (neu’r mannau) gwaith neu addysg,
e
os yw agosrwydd at gartref unrhyw aelod o deulu deiliad y contract yn hanfodol i lesiant deiliad y contract neu’r aelod hwnnw o’i deulu, agosrwydd y llety at y cartref hwnnw,
f
telerau’r contract presennol a thelerau’r contract meddiannaeth y mae’r llety i’w feddiannu oddi tano, ac
g
os oedd y landlord yn darparu dodrefn/celfi o dan y contract presennol, pa un a yw dodrefn/celfi i’w darparu at ddefnydd deiliad y contract a’i deulu ac, os felly, natur y dodrefn/celfi hynny.
3
Os yw’r landlord yn landlord cymunedol, rhaid i’r llys hefyd ystyried natur y llety y mae’n arfer gan y landlord ei ddyrannu i bersonau sydd ag anghenion tebyg.
4
Os yw’r landlord yn landlord preifat, caiff y llys ystyried, fel dewis arall i’r materion yn is-baragraff (2)(a) i (c), pa un a yw’r llety yn debyg o ran rhent a maint i’r llety a ddarperir yn y gymdogaeth gan landlordiaid cymunedol ar gyfer personau cyffelyb.
5
Ystyr “personau cyffelyb” yw’r rheini y mae eu hanghenion, o ran maint, yn debyg ym marn y llys i rai deiliad y contract a theulu deiliad y contract.
6
At ddibenion is-baragraff (4) mae tystysgrif awdurdod tai lleol sy’n datgan—
a
maint y llety a ddarperir gan yr awdurdod i ddiwallu anghenion personau sydd â theuluoedd o ba faint bynnag a bennir yn y dystysgrif, a
b
swm y rhent a godir gan yr awdurdod am lety o’r maint hwnnw,
yn dystiolaeth ddigamsyniol o’r ffeithiau sydd wedi eu datgan felly.
7
Wrth ystyried y materion yn is-baragraff (2)(f) ni chaiff y llys ystyried unrhyw un neu ragor o delerau’r contract meddiannaeth sy’n ymwneud â lletywyr ac isddeiliaid.
I155Gorlenwi
Nid yw llety yn addas ar gyfer anghenion deiliad y contract a’i deulu pe byddai’r llety, o ganlyniad i’w feddiannu ganddynt, yn ffurfio annedd wedi ei gorlenwi at ddibenion Rhan 10 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (gweler adran 324 o’r Ddeddf honno).
I1276Tystiolaeth o dystysgrif awdurdod tai lleol
Mae dogfen sydd i bob golwg yn dystysgrif yr awdurdod tai lleol a enwir ar y dystysgrif, a ddyroddwyd at ddibenion yr Atodlen hon, ac a lofnodwyd gan y person priodol ar ran yr awdurdod—
a
i’w derbyn fel tystiolaeth, a
b
oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb, i’w thrin fel tystysgrif o’r fath heb dystiolaeth bellach.
ATODLEN 12TROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM
I211Diffiniadau
1
Yn yr Atodlen hon—
ystyr “contract diogel wedi ei drosi” (“converted secure contract”) yw contract wedi ei drosi a ddaeth yn gontract diogel ar y diwrnod penodedig;
ystyr “contract safonol wedi ei drosi” (“converted standard contract”) yw contract wedi ei drosi a ddaeth yn gontract safonol ar y diwrnod penodedig;
ystyr “contract wedi ei drosi” (“converted contract”) yw tenantiaeth neu drwydded a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig ac a ddaeth yn gontract meddiannaeth ar y diwrnod hwnnw;
mae i “cyfnod darparu gwybodaeth” (“information provision period”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 11(1);
y “cyfnod hysbysu cychwynnol” (“initial notice period”) yw’r cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig.
F11ystyr “MAS wedi ei throsi” (“converted AAO”) yw contract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn feddiannaeth amaethyddol sicr;
F11mae i “meddiannaeth amaethyddol sicr” yr un ystyr ag a roddir i “assured agricultural occupancy” yn Rhan 1 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (gweler adran 24(1) o’r Ddeddf honno)
F11mae “tenantiaeth sicr” (“assured tenancy”) yn cynnwys cyfeiriad at feddiannaeth amaethyddol sicr a drinnir fel tenantiaeth sicr o dan adran 24(3) o Ddeddf Tai 1988 (yn ogystal â meddiannaeth amaethyddol sicr sy’n denantiaeth sicr);
2
Gweler adran 242 am ddiffiniadau o dermau eraill a ddefnyddir yn yr Atodlen hon.
Penderfynu a yw tenantiaeth neu drwydded sy’n bodoli eisoes yn gontract meddiannaeth
I1532
1
Mae Atodlen 2 yn gymwys i—
a
tenantiaeth neu drwydded a oedd yn denantiaeth ddiogel, yn denantiaeth sicr, yn denantiaeth ragarweiniol neu’n denantiaeth isradd yn union cyn y diwrnod penodedig, a
b
tenantiaeth a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig ond nad yw o fewn paragraff (a),
fel pe bai paragraffau 3(2)(b) a 4 (sefydliadau gofal) wedi eu hepgor.
2
Mae Atodlen 2 yn gymwys i denantiaeth a oedd yn denantiaeth ddiogel, yn denantiaeth sicr, yn denantiaeth ragarweiniol neu’n denantiaeth isradd yn union cyn y diwrnod penodedig fel pe bai paragraffau 3(2)(c) a 5 (trefniadau hwylus dros dro) wedi eu hepgor.
F162A
Mae Atodlen 2 yn gymwys i denantiaeth neu drwydded a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth ddiogel neu’n denantiaeth sicr fel pe bai paragraff 7(3)(k)(i) o’r Atodlen honno wedi ei hepgor.
3
Caiff y landlord, mewn perthynas â thenantiaeth neu drwydded a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig, roi hysbysiad o dan baragraff 1 neu 3 o Atodlen 2 ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod hysbysu cychwynnol.
4
Os yw’r landlord yn gwneud hynny, mae’r denantiaeth neu’r drwydded i’w thrin fel pe bai wedi dod yn gontract meddiannaeth ar y diwrnod penodedig.
F285
Nid yw Rhan 5 o Atodlen 2 (rheolau arbennig sy’n gymwys i lety â chymorth) yn gymwys i—
a
tenantiaeth a oedd yn bodoli yn union cyn y diwrnod penodedig;
b
trwydded—
i
a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth ddiogel;
ii
sydd â dyddiad dechrau (o fewn yr ystyr a roddir ym mharagraff 13(5) o Atodlen 2) sy’n dod mwy na 6 mis cyn y diwrnod penodedig.
6
Wrth eu cymhwyso i denantiaeth neu drwydded a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn feddiannaeth amaethyddol sicr—
a
mae adran 7 (tenantiaethau a thrwyddedau sy’n gontractau meddiannaeth) yn gymwys fe pe bai isadran (1)(b) (rhaid i rent neu gydnabyddiaeth arall fod yn daladwy) wedi ei hepgor, a
b
mae Atodlen 2 yn gymwys fel pe bai paragraff 1(2) wedi ei hepgor.
F242A
1
) Nid yw adran 7(6) a pharagraff 7(2) o Atodlen 2 yn gymwys i drwydded pan fo, yn union cyn y diwrnod penodedig—
a
y trwyddedai yn 16 neu 17 oed, a
b
y drwydded yn—
i
tenantiaeth ddiogel, neu
ii
meddiannaeth amaethyddol sicr.
2
Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, mae’r Ddeddf hon yn gymwys i ddeiliad y contract fel pe bai ef neu hi yn 18 oed.
Penderfynu a yw contract wedi ei drosi yn gontract diogel neu’n gontract safonol
I1683
1
Mae adrannau 11 i 17 (landlordiaid cymunedol a landlordiaid preifat) yn gymwys i gontract wedi ei drosi—
a
y mae’r landlord oddi tano yn landlord preifat, a
b
a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth ddiogel yr oedd y landlord oddi tani yn landlord preifat,
fel pe bai’r landlord yn landlord cymunedol.
2
Ond yn adran 14 (adolygu hysbysiad o gontract safonol) mae is-adran (1) yn gymwys fel pe bai “a bod penderfyniad y landlord i roi’r hysbysiad yn ddarostyngedig i adolygiad barnwrol” wedi ei fewnosod ar ôl “adran 13”.
I604
1
2
Os yw’r landlord yn F56rhoi hysbysiad o dan adran 13, mae’r contract i’w drin fel pe bai wedi dod yn gontract safonol ar y diwrnod penodedig.
3
Caiff y landlord o dan gontract wedi ei drosi roi hysbysiad o dan adran 17(1) (hysbysiad o gontract diogel) ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod hysbysu cychwynnol.
4
Os yw’r landlord yn gwneud hynny, mae’r contract i’w drin fel pe bai wedi dod yn gontract diogel ar y diwrnod penodedig.
I63F505
Mae contract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn—
a
tenantiaeth ragarweiniol, neu
b
tenantiaeth fyrddaliol sicr—
i
yr oedd y landlord yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr cofrestredig preifat o dai cymdeithasol oddi tani, ond nid cymdeithas dai gwbl gydfuddiannol neu gymdeithas dai gydweithredol, a
ii
y mynegwyd ei bod yn denantiaeth gychwynnol, neu fel arall ei bod yn gyfystyr â hynny,
yn cael effaith fel contract safonol rhagarweiniol (gweler paragraff 23).
I116
Mae contract wedi ei drosi yn cael effaith fel contract safonol ymddygiad gwaharddedig (gweler paragraff 24) os, yn union cyn y diwrnod penodedig—
a
oedd adran 20B o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (tenantiaeth fyrddaliol sicr isradd) yn gymwys iddo, neu
b
oedd adran 143A o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (tenantiaethau isradd) yn gymwys iddo.
F76A
Nid yw contract wedi ei drosi sy’n ymwneud â llety â chymorth ond yn cael effaith fel contract safonol â chymorth os, yn union cyn y diwrnod penodedig, yr oedd y contract yn—
a
tenantiaeth fyrddaliol sicr (gweler paragraff 24A ar gyfer darpariaeth bellach ynghylch contractau safonol â chymorth a oedd yn denantiaethau byrddaliol sicr), neu
b
trwydded, heblaw trwydded a oedd yn denantiaeth ddiogel.
I487
1
Mae contract wedi ei drosi y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo yn eithriad ychwanegol i adran 11(1) (contractau a wneir â landlord cymunedol yn gontractau diogel).
2
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i gontract wedi ei drosi a oedd yn denantiaeth neu’n drwydded am gyfnod penodol yn union cyn y diwrnod penodedig, cyn belled â—
a
bod premiwm wedi ei dalu am y contract, a
b
cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig, bod deiliad y contract yn penderfynu y dylai’r contract ddod yn gontract safonol cyfnod penodol.
3
Cyn y diwrnod penodedig, rhaid i landlord cymunedol sy’n landlord o dan denantiaeth neu drwydded am gyfnod penodol, ac y talwyd premiwm ar ei chyfer—
a
hysbysu deiliad y contract o’i hawl i benderfynu o dan is-baragraff (2)(b) y dylai’r contract ddod yn gontract safonol, ac erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y penderfyniad, a
b
egluro sut y bydd adran 11 yn gymwys i’r contract os nad yw deiliad y contract yn gwneud y penderfyniad.
I48
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo landlord cymunedol yn dod yn landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig.
2
Mae adran 12 (contractau a fabwysiedir gan landlord cymunedol) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (8)(b), “cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig (o fewn ystyr adran 242)” yn cael ei roi yn lle “cyn i’r landlord cymunedol ddod yn landlord arno”.
3
Rhaid i’r landlord roi’r hysbysiad sy’n ofynnol yn ôl adran 15(1) i ddeiliad y contract ar y diwrnod penodedig neu cyn y diwrnod penodedig.
I569
1
Mae’r canlynol yn eithriadau ychwanegol i adrannau 11(1) a 12(3) (contractau a wneir neu a fabwysiedir gan landlord cymunedol yn gontractau diogel).
2
Contract wedi ei drosi a oedd, cyn y diwrnod penodedig—
a
wedi bod yn denantiaeth ddiogel, ond
b
wedi peidio â bod yn denantiaeth o’r fath oherwydd adran 89, 91 neu 93 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (olyniaeth, aseinio ac is-osod).
3
Contract wedi ei drosi a oedd, cyn y diwrnod penodedig—
a
wedi bod yn denantiaeth ragarweiniol, ond
b
wedi peidio â bod yn denantiaeth o’r fath oherwydd adran 133 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (olyniaeth).
4
Contract wedi ei drosi a oedd, cyn y diwrnod penodedig—
a
wedi bod yn denantiaeth isradd, ond
b
wedi peidio â bod yn denantiaeth o’r fath oherwydd adran 143I o Ddeddf Tai 1996 (olyniaeth).
I110
Mae contract diogel wedi ei drosi a oedd yn denantiaeth ddiogel yn union cyn y diwrnod penodedig yn dod yn gontract safonol—
a
os bu’r tenant farw cyn y diwrnod penodedig, a
b
os ceir digwyddiad ar ôl y diwrnod hwnnw a fyddai, oni bai am y Ddeddf hon, wedi peri i’r contract beidio â bod yn denantiaeth ddiogel o dan adran 89 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (olyniaeth).
Datganiad ysgrifenedig o gontract wedi ei drosi a darparu gwybodaeth
I159I18011
1
Rhaid i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig (y “cyfnod darparu gwybodaeth”).
F181A
Nid yw adran 31(2) (rhoi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad contract newydd) yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi yn ystod y cyfnod darparu gwybodaeth.
2
Mae unrhyw gyfeiriadau yn y Ddeddf hon at rwymedigaeth y landlord o dan adran 31(1) i’w darllen, mewn perthynas â chontractau wedi eu trosi, fel cyfeiriadau at rwymedigaeth y landlord o dan is-baragraff (1).
I110I11912
Mae adrannau 36 a 37 (ceisiadau i’r llys) yn gymwys mewn perthynas â datganiad ysgrifenedig a ddarperir oherwydd paragraff 11(1) fel pe bai’r geiriau a ganlyn wedi eu rhoi yn lle’r geiriau yn adran 36(3) a 37(2),
Os oedd yn ofynnol i’r landlord ddarparu’r datganiad ysgrifenedig o dan baragraff 11(1) o Atodlen 12, ni chaiff deiliad y contract wneud cais i’r llys o dan is-adran (1) cyn—
a
diwedd y cyfnod darparu gwybodaeth (o fewn ystyr Atodlen 12), neu
b
os yw’n gynharach, y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddodd y landlord y datganiad ysgrifenedig.
I44F3212A
F49... Mae Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173, o dan adran 186, ac o dan gymal terfynu’r landlord) yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi fel pe bai—
a
paragraff 1 wedi ei hepgor, a
b
y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff 2—
2Methu â darparu datganiad ysgrifenedig o fewn y cyfnod penodedig
Os—
a
yw’n ofynnol i landlord ddarparu datganiad ysgrifenedig o’r contract o dan baragraff 11(1) o Atodlen 12, neu o dan adran 31(2) (pan na fo wedi ei ddatgymhwyso gan baragraff 11(1A) o’r Atodlen honno), a
b
yw’r landlord wedi methu â chydymffurfio â pharagraff 11(1) neu adran 31(2),
ni chaiff y landlord roi hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddodd y landlord y datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract.
I45I9313
1
Mae adran 39(1) (gwybodaeth am gyfeiriad y landlord) yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi fel pe bai “y cyfnod darparu gwybodaeth (o fewn ystyr Atodlen 12)” yn cael ei roi yn lle “y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract”.
2
Mae adran 40(2) (tâl digolledu) yn gymwys mewn perthynas ag adran 39(1), fel y’i diwygir gan is-baragraff (1), fel pe bai’r cyfeiriad at y dyddiad perthnasol yn gyfeiriad at ddiwrnod cyntaf y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dod i ben â diwrnod olaf y cyfnod darparu gwybodaeth (ac yn unol â hynny mae adran 40 i’w darllen fel pe bai is-adran (5) wedi ei hepgor).
13AF20Cynlluniau Blaendal
1
Nid yw’r darpariaethau a grybwyllir yn is-baragraff (2) yn gymwys i gontract wedi ei drosi onid oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth fyrddaliol sicr.
2
Y darpariaethau (sy’n ymwneud â gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal) yw—
a
adrannau 45 a 46;
b
Atodlen 5;
c
paragraffau 4(2) a (5) o Atodlen 9A.
F213B
Nid yw adran 123 (amrywio’r rhent) yn gymwys i gontract wedi ei drosi sy’n gontract safonol cyfnodol F57y mae’r landlord oddi tano yn landlord preifat ac a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig—
a
yn denantiaeth sicr ond nid yn denantiaeth fyrddaliol sicr, a
b
yn cynnwys teler a oedd yn gwneud darpariaeth ynghylch amrywio’r rhent o dan y denantiaeth neu’r drwydded.
I129I18214Amrywio
1
Ni chaniateir amrywio contract wedi ei drosi cyn bod y landlord wedi rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract.
2
b
cynnydd mewn rhent o dan adran 93 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42).
I120I18115
1
Mae adrannau 104 a 123 (amrywio rhent) yn gymwys i gontract wedi ei drosi F46(heblaw contract a grybwyllir ym mharagraff 13B) fel pe bai unrhyw amrywiadau yn y rhent sy’n daladwy o dan y contract cyn y diwrnod penodedig yn amrywiadau o dan ba rai bynnag o’r adrannau hynny sy’n berthnasol.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau—
a
sy’n galluogi deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi perthnasol, ar ôl derbyn hysbysiad o dan adran 104 neu 123, wneud cais i berson neu bersonau rhagnodedig bennu’r rhent ar gyfer yr annedd, a
b
i’r rhent a bennir gan y person neu’r personau rhagnodedig, yn unol ag unrhyw ragdybiaethau a gaiff eu rhagnodi, fod y rhent ar gyfer yr annedd o dan y contract (oni bai bod y landlord a deiliad y contract yn cytuno fel arall).
F583
Mae contract wedi ei drosi yn gontract wedi ei drosi perthnasol—
a
os oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth neu’n drwydded yr oedd adran 13 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (codiadau rhent o dan denantiaethau cyfnodol sicr) yn gymwys iddi,
b
os yw’n gontract safonol cyfnodol sy’n cymryd lle contract arall (gweler paragraff 32)—
i
sy’n codi o dan adran 184(2), neu
ii
sydd o fewn adran 184(6),
a oedd yn union cyn y diwrnod penodedig yn denantiaeth sicr, ond nid yn denantiaeth fyrddaliol sicr, am gyfnod penodol, neu
c
os yw’n gontract sicr a oedd yn union cyn y diwrnod penodedig yn denantiaeth sicr, ond nid yn denantiaeth fyrddaliol sicr, am gyfnod penodol.
I7616Gwast ac ymddwyn fel tenant
Nid yw adran 101 yn gymwys i gontract wedi ei drosi; felly—
a
mae deiliad contract o dan gontract wedi ei drosi yn ddarostyngedig i’r un atebolrwydd am wast mewn perthynas â’r annedd ag yr oedd yn ddarostyngedig iddo yn union cyn y diwrnod penodedig, a
b
mae’r rheol gyfreithiol sy’n golygu bod dyletswydd oblygedig ar denant i ymddwyn fel tenant wrth ddefnyddio mangre sydd ar les yn gymwys i ddeiliad contract o dan gontract wedi ei drosi fel yr oedd yn gymwys iddo yn union cyn y diwrnod penodedig.
Delio
I4917
1
Mae’r paragraff hwn yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol wedi ei drosi a oedd yn denantiaeth ddiogel yn union cyn y diwrnod penodedig.
2
Caiff deiliad y contract ganiatáu i bersonau fyw yn yr annedd fel lletywyr.
I2418
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi—
a
sy’n gontract diogel neu’n gontract safonol cyfnodol, a
b
y mae cyd-ddeiliaid contract oddi tano a oedd yn denantiaid cydradd mewn ecwiti yn union cyn y diwrnod penodedig.
2
Mae’r darpariaethau contractau safonol cyfnod penodol a grybwyllir yn is-adran (1) o bob un o adrannau 140, 141 a 142 (trosglwyddiadau) yn delerau’r contract, ac mae is-adrannau (2) a (3) o bob un o’r adrannau hynny yn gymwys yn unol â hynny.
I10319
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi sy’n gontract safonol cyfnod penodol.
2
Mae’r darpariaethau contractau safonol cyfnod penodol a grybwyllir yn is-adran (1) o bob un o adrannau 139, 140, 141 a 142 (trosglwyddiadau) yn delerau’r contract, ac mae is-adrannau (2) a (3) o bob un o’r adrannau hynny yn gymwys yn unol â hynny.
3
Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys i’r graddau y mae unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hynny yn anghydnaws ag un o delerau presennol y contract.
Olyniaeth
I14120
1
Mae deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi i’w drin fel olynydd â blaenoriaeth mewn perthynas â’r contract—
a
os oedd y contract wedi ei drosi, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth o ddisgrifiad sydd yng ngholofn 1 o Dabl 6,
b
os oedd, cyn y diwrnod penodedig, wedi ei freinio yn neiliad y contract o dan y ddarpariaeth sydd yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw, ac
c
os oedd deiliad y contract yn gymwys i olynu oherwydd y darpariaethau yng ngholofn 3 o’r Tabl hwnnw.
Y MATH O DENANTIAETH | Y DDARPARIAETH FREINIO | Y DARPARIAETHAU CYMHWYSO |
---|---|---|
Tenantiaeth ddiogel | Adran 89 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) | Adrannau 87 a 113(1)(a) o’r Ddeddf honno |
Tenantiaeth ragarweiniol | Adran 133 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) | Adrannau 131 a 140(1)(a) o’r Ddeddf honno |
Tenantiaeth isradd | Adran 143H o Ddeddf Tai 1996 | Adran 143P(1)(a) neu (b) o’r Ddeddf honno |
2
Mae deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi hefyd i’w drin fel olynydd â blaenoriaeth mewn perthynas â’r contract—
a
os oedd y contract, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr,
b
os oedd, cyn y diwrnod penodedig, wedi ei freinio yn neiliad y contract o dan adran 17 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (olynu i denantiaeth sicr), ac
c
os oedd y landlord o dan y contract, ar y diwrnod penodedig, yn landlord cymunedol.
I12321
1
Mae deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi i’w drin fel olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract—
a
os oedd y contract wedi ei drosi, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth o ddisgrifiad sydd yng ngholofn 1 o Dabl 7,
b
os oedd, cyn y diwrnod penodedig, wedi ei freinio yn neiliad y contract o dan y ddarpariaeth sydd yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw, ac
c
os oedd deiliad y contract yn gymwys i olynu oherwydd y darpariaethau sydd yng ngholofn 3 o’r Tabl hwnnw.
Y MATH O DENANTIAETH | Y DDARPARIAETH FREINIO | Y DARPARIAETHAU CYMHWYSO |
---|---|---|
Tenantiaeth ddiogel | Adran 89 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) | Adrannau 87(b) a 113(1)(b) o’r Ddeddf honno |
Tenantiaeth ragarweiniol | Adran 133 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) | Adrannau 131(b) a 140(1)(b) o’r Ddeddf honno |
Tenantiaeth isradd | Adran 143H o Ddeddf Tai 1996 | Adran 143P(1)(c) o’r Ddeddf honno |
2
Mae deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi i’w drin fel olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract—
a
os oedd y contract, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr, a
b
os oedd deiliad y contract, cyn y diwrnod penodedig, wedi dod â hawl i’r denantiaeth sicr o dan baragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) (olyniaeth).
3
Mae deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi i’w drin fel olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract—
a
os oedd y contract, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr,
b
os oedd, cyn y diwrnod penodedig, wedi ei freinio yn neiliad y contract o dan adran 17 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (olynu i denantiaeth sicr), ac
c
os oedd y landlord o dan y contract, ar y diwrnod penodedig, yn landlord preifat.
I722Gofyniad i feddiannu annedd fel prif gartref o dan gontractau penodol wedi eu trosi
1
Mae is-baragraff (2) yn cael effaith mewn perthynas â chontract wedi ei drosi y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai’n ddarpariaeth atodol a ragnodwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 23.
2
Rhaid i ddeiliad y contract (neu o leiaf un ohonynt, os oes mwy nag un) feddiannu’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract fel ei unig gartref neu ei brif gartref.
3
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig—
a
yn denantiaeth warchodedig neu denantiaeth statudol,
b
yn denantiaeth ddiogel,
c
yn denantiaeth sicr,
d
yn denantiaeth ragarweiniol, neu
e
yn denantiaeth isradd.
I223Contractau safonol rhagarweiniol
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract wedi ei drosi sy’n cael effaith fel contract safonol rhagarweiniol oherwydd paragraff 5.
2
Mae cyfnod rhagarweiniol y contract yn dod i ben—
a
os bu farw’r tenant cyn y diwrnod penodedig, a
b
os ceir digwyddiad ar ôl y diwrnod hwnnw a fyddai, oni bai am y Ddeddf hon, wedi peri i’r contract beidio â bod yn denantiaeth ragarweiniol o dan adran 133 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (olyniaeth),
ac nid yw adran 16(1)(b) o’r Ddeddf hon (trosi i gontract diogel) yn gymwys pan fo’r cyfnod rhagarweiniol yn dod i ben oherwydd yr is-baragraff hwn.
F223
Mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai—
a
yn adran 174 (hysbysiad y landlord: y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir), y cyfeiriad yn is-adran (1) at “chwe mis” yn gyfeiriad at “dau fis”,
b
yn adran 175 (hysbysiad y landlord: cyfyngiad ar roi hysbysiad tan ar ôl chwe mis cyntaf meddiannaeth), y cyfeiriadau yn is-adrannau (1) a (2) at “chwe mis” yn gyfeiriadau at “bedwar mis” (a’r cyfeiriad yn y pennawd at “chwe mis” yn gyfeiriad at “pedwar mis”), ac
F51c
y cyfeiriad ym mharagraff 1(7) o Atodlen 4 at ddyddiad cyflwyno’r contract yn gyfeiriad—
i
mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth ragarweiniol, at y diwrnod a oedd yn ddechrau’r cyfnod prawf o dan adran 125(2)(a) neu (b) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52);
ii
mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth gychwynnol, at ddyddiad cyflwyno’r denantiaeth fel y’i pennir yn unol ag is-baragraff (5).
4
Mae paragraff 2 o Atodlen 4 (cyfnod rhagarweiniol pan fo contractau blaenorol) yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at gontractau safonol rhagarweiniol yn gyfeiriadau at—
a
tenantiaethau byrddaliol sicr yr oedd y landlord oddi tanynt yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol cofrestredig preifat, neu
b
tenantiaethau rhagarweiniol.
5
At ddibenion paragraff 2 o Atodlen 4 dyddiad cyflwyno tenantiaeth fyrddaliol sicr yr oedd y landlord oddi tani yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig yw—
a
y diwrnod yr oedd gan y tenant hawl i ddechrau meddiannu’r annedd, neu
b
os na wnaed y denantiaeth â landlord cymdeithasol cofrestredig neu ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig, y diwrnod y daeth landlord cymdeithasol cofrestredig neu ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig yn landlord.
F526
At ddibenion paragraff 2 o Atodlen 4, y dyddiad cyflwyno—
a
mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth ragarweiniol, yw’r diwrnod a oedd yn ddechrau’r cyfnod prawf o dan adran 125(2)(a) neu (b) o Ddeddf Tai 1996;
b
mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth gychwynnol, yw dyddiad cyflwyno’r denantiaeth fel y’i pennir yn unol ag is-baragraff (5).
F607
Nid yw paragraff 2(5) a (6) o Atodlen 4 yn gymwys, ond—
a
mae hysbysiad o estyniad a roddir, mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd yn denantiaeth ragarweiniol, o dan adran 125A o Ddeddf Tai 1996, a
b
mae hysbysiad, a roddir mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd yn denantiaeth gychwynnol, sy’n estyn y cyfnod y bydd y landlord a’r tenant yn ymrwymo i denantiaeth sicr (nad yw’n denantiaeth fyrddaliol sicr) ar ei ddiwedd,
yn cael effaith fel pe bai wedi ei roi o dan baragraff 3 o Atodlen 4 (ac, ni waeth faint yw hyd yr estyniad o dan hysbysiad a ddisgrifir ym mharagraff (b), mae’r cyfnod rhagarweiniol yn dod i ben 18 mis ar ôl dyddiad cyflwyno’r denantiaeth gychwynnol (fel y’i pennir yn unol ag is-baragraff 5)).
I17824Contract safonol ymddygiad gwaharddedig
1
Mae’r Ddeddf hon yn gymwys i gontract wedi ei drosi sy’n cael effaith fel contract safonol ymddygiad gwaharddedig oherwydd paragraff 6 fel pe bai—
a
y gorchymyn israddio yn orchymyn o dan adran 116 (gorchymyn yn arddodi contract safonol cyfnodol),
b
cyfeiriadau at ddyddiad meddiannu’r contract yn gyfeiriadau at y diwrnod y cafodd y gorchymyn israddio effaith, ac
c
paragraffau 4 i 7 o Atodlen 7 (newid y cyfnod prawf) wedi eu hepgor.
2
Y “gorchymyn israddio” yw—
a
y gorchymyn o dan adran 82A o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) neu adran 6A o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) yr oedd adran 20B o Ddeddf Tai 1988 yn gymwys o’i herwydd, neu
b
y gorchymyn o dan adran 82A o Ddeddf Tai 1985 yr oedd adran 143A o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) yn gymwys o’i herwydd.
24AF26Contract safonol â chymorth a oedd yn denantiaeth fyrddaliol sicr
Mae’r Ddeddf hon yn gymwys i gontract wedi ei drosi—
a
a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth fyrddaliol sicr, a
b
a gafodd effaith ar ôl trosi fel contract safonol â chymorth,
fel pe bai adrannau 144 (symudedd) a 145 (gwahardd dros dro) wedi eu hepgor.
Y landlord yn terfynu’r contract
I13025
Nid yw adrannau 173 i 180 (terfynu yn sgil hysbysiad y landlord) yn gymwys i gontract safonol cyfnodol a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr ond nid yn denantiaeth fyrddaliol sicr.
F3025A
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract safonol cyfnodol a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth fyrddaliol sicr.
2
Mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai—
F54a
y cyfeiriad yn adran 174(1) (hysbysiad y landlord: y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir) at “chwe mis”, mewn perthynas â hysbysiad a roddir o dan adran 173 yn ystod y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig, yn gyfeiriad at “dau fis”, a
b
yn adran 175 (hysbysiad y landlord: cyfyngiad ar roi hysbysiad tan ar ôl chwe mis cyntaf meddiannaeth), F45y cyfeiriad yn is-adran (1) at “chwe mis” yn gyfeiriad at “bedwar mis” (a’r cyfeiriad yn y pennawd at “chwe mis” yn gyfeiriad at “pedwar mis”).
F61, ac
c
yn adran 175, y canlynol wedi ei roi yn lle isadrannau (2) a (3)-
2
Os yw’r contract wedi ei drosi yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 173 cyn diwedd y cyfnod o bedwar mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth deiliad y contract i fod â hawl i feddiannu’r annedd o dan y denantiaeth neu’r drwydded wreiddiol.
3
At ddibenion is-adran (2)—
a
roedd contract wedi ei drosi yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall—
i
os yw dyddiad meddiannu’r contract wedi ei drosi yn dod yn union ar ôl diwedd tenantiaeth neu drwydded flaenorol,
ii
os oedd, yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract wedi ei drosi, tenant neu drwyddedai o dan y contract yn denant neu’n drwyddedai o dan y denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a landlord o dan y contract wedi ei drosi yn landlord o dan y denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a
iii
os yw’r contract wedi ei drosi yn ymwneud â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a
b
ystyr “tenantiaeth neu drwydded wreiddiol” yw—
i
pan fo dyddiad meddiannu’r denantiaeth neu’r drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall yn dod yn union ar ôl diwedd tenantiaeth neu drwydded nad yw’n denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y denantiaeth neu’r drwydded a oedd yn rhagflaenu’r denantiaeth neu’r drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall;
ii
pan gafwyd cyfres o denantiaethau neu drwyddedau olynol yn denantiaethau neu’n drwyddedau sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y denantiaeth neu’r drwydded a oedd yn rhagflaenu’r cyntaf o’r tenantiaethau neu’r trwyddedau sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall.
F925B
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract safonol cyfnod penodol—
a
a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth neu’n drwydded am gyfnod penodol, a
b
nad yw o fewn Atodlen 9B.
F481A
Nid yw’r cyfeiriad at denantiaeth neu drwydded am gyfnod penodol yn is-baragraff (1)(a) yn cynnwys cyfeiriad at denantiaeth sicr nad oedd yn denantiaeth fyrddaliol sicr.
2
Caiff y landlord, cyn neu ar ddiwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract ar ei gyfer, roi hysbysiad i ddeiliad y contract fod rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
3
Ni chaiff y dyddiad a bennir fod yn llai na chwe mis ar ôl—
a
y dyddiad meddiannu (gweler paragraff 31), neu
b
os, yn union cyn y diwrnod penodedig, oedd y contract wedi ei drosi yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y diwrnod y daeth deiliad y contract i fod â hawl i feddiannu’r annedd o dan y denantiaeth neu’r drwydded wreiddiol.
4
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), o ran y dyddiad a bennir—
a
ni chaiff fod cyn diwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract wedi ei drosi ar ei gyfer, a
b
ni chaiff fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
5
At ddibenion is-baragraff (3)—

pan fo cyfres o denantiaethau neu drwyddedau olynol yn denantiaethau neu’n drwyddedau sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y denantiaeth neu’r drwydded a oedd yn rhagflaenu’r cyntaf o’r tenantiaethau neu’r trwyddedau sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall.
6
Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan is-baragraff (2), caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.
7
Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno cyn diwedd y contract safonol cyfnod penodol.
8
Mae is-baragraffau (2) i (7) yn ddarpariaethau sylfaenol sydd wedi eu hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo.
F925C
Pan fo paragraff 25B yn gymwys, mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel be bai—
a
cyfeiriadau at adran 186 yn cynnwys cyfeiriad at baragraff 25B,
b
cyfeiriadau at hysbysiad o dan adran 186(1) yn cynnwys cyfeiriad at hysbysiad o dan baragraff 25B(2), ac
c
cyfeiriadau at y sail yn adran 186(5) yn cynnwys cyfeiriad at y sail ym mharagraff 25B(6).
F3425D
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract safonol cyfnod penodol F55(heblaw tenantiaeth neu drwydded a grybwyllir ym mharagraff 26(2) neu (3)) a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth neu’n drwydded am gyfnod penodol a oedd yn cynnwys cymal terfynu’r landlord.
2
Mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai—
a
yn adran 194 (cymal terfynu’r landlord)—
i
yn is-adran (1), y geiriau “sydd o fewn is-adran (1A)” wedi eu hepgor, a
ii
is-adran (1A) wedi ei hepgor,
b
yn adran 195 (y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir), y cyfeiriad yn is-adran (1) at “chwe mis” yn gyfeiriad at “dau fis”,
c
yn adran 196 (hysbysiad y landlord: cyfyngiad ar roi hysbysiad tan ar ôl 18 mis cyntaf meddiannaeth), y cyfeiriad yn is-adran (1) at “18 mis” yn gyfeiriad at “bedwar mis” (a’r cyfeiriad yn y pennawd at “18 mis” yn gyfeiriad at “pedwar mis”), a
d
Atodlen 9C wedi ei hepgor.
I10726
1
Nid yw adran 194 (cymal terfynu’r landlord) yn gymwys i’r contractau safonol cyfnod penodol a ganlyn (ac yn unol â hynny nid yw adrannau 195 i 201 wedi eu hymgorffori fel telerau contractau o’r fath).
2
Contract safonol cyfnod penodol a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth ddiogel am gyfnod penodol.
3
Contract safonol cyfnod penodol—
a
a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr am gyfnod penodol, a
b
nad yw’n gontract wedi ei eithrio.
4
Mae contract yn gontract wedi ei eithrio pe gallai’r landlord, yn union cyn y diwrnod penodedig, fod wedi gwneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar Sail 3 neu 4 o Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988 (p. 50).
I4127
Mae Sail C o’r seiliau rheoli ystad (llety arbennig: elusennau) yn gymwys i gontract wedi ei drosi fel pe bai’r contract meddiannaeth wedi ei wneud ar y diwrnod penodedig.
25A
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract safonol cyfnodol a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth fyrddaliol sicr.
2
Mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai—
a
y cyfeiriad yn adran 174(1) (hysbysiad y landlord: y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir) at “chwe mis”, mewn perthynas â hysbysiad a roddir o dan adran 173 yn ystod y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig, yn gyfeiriad at “dau fis”, a
b
yn adran 175 (hysbysiad y landlord: cyfyngiad ar roi hysbysiad tan ar ôl chwe mis cyntaf meddiannaeth), y cyfeiriad yn is-adran (1) at “chwe mis” yn gyfeiriad at “bedwar mis” (a’r cyfeiriad yn y pennawd at “chwe mis” yn gyfeiriad at “pedwar mis”).
, ac
c
yn adran 175, y canlynol wedi ei roi yn lle isadrannau (2) a (3)-
2
Os yw’r contract wedi ei drosi yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 173 cyn diwedd y cyfnod o bedwar mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth deiliad y contract i fod â hawl i feddiannu’r annedd o dan y denantiaeth neu’r drwydded wreiddiol.
3
At ddibenion is-adran (2)—
a
roedd contract wedi ei drosi yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall—
i
os yw dyddiad meddiannu’r contract wedi ei drosi yn dod yn union ar ôl diwedd tenantiaeth neu drwydded flaenorol,
ii
os oedd, yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract wedi ei drosi, tenant neu drwyddedai o dan y contract yn denant neu’n drwyddedai o dan y denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a landlord o dan y contract wedi ei drosi yn landlord o dan y denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a
iii
os yw’r contract wedi ei drosi yn ymwneud â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a
b
ystyr “tenantiaeth neu drwydded wreiddiol” yw—
i
pan fo dyddiad meddiannu’r denantiaeth neu’r drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall yn dod yn union ar ôl diwedd tenantiaeth neu drwydded nad yw’n denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y denantiaeth neu’r drwydded a oedd yn rhagflaenu’r denantiaeth neu’r drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall;
ii
pan gafwyd cyfres o denantiaethau neu drwyddedau olynol yn denantiaethau neu’n drwyddedau sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y denantiaeth neu’r drwydded a oedd yn rhagflaenu’r cyntaf o’r tenantiaethau neu’r trwyddedau sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall.
25B
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract safonol cyfnod penodol—
a
a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth neu’n drwydded am gyfnod penodol, a
b
nad yw o fewn Atodlen 9B.
1A
Nid yw’r cyfeiriad at denantiaeth neu drwydded am gyfnod penodol yn is-baragraff (1)(a) yn cynnwys cyfeiriad at denantiaeth sicr nad oedd yn denantiaeth fyrddaliol sicr.
2
Caiff y landlord, cyn neu ar ddiwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract ar ei gyfer, roi hysbysiad i ddeiliad y contract fod rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
3
Ni chaiff y dyddiad a bennir fod yn llai na chwe mis ar ôl—
a
y dyddiad meddiannu (gweler paragraff 31), neu
b
os, yn union cyn y diwrnod penodedig, oedd y contract wedi ei drosi yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y diwrnod y daeth deiliad y contract i fod â hawl i feddiannu’r annedd o dan y denantiaeth neu’r drwydded wreiddiol.
4
Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), o ran y dyddiad a bennir—
a
ni chaiff fod cyn diwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract wedi ei drosi ar ei gyfer, a
b
ni chaiff fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
5
At ddibenion is-baragraff (3)—
a
roedd contract wedi ei drosi yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall—
i
os yw dyddiad meddiannu’r contract wedi ei drosi yn dod yn union ar ôl diwedd tenantiaeth neu drwydded flaenorol,
ii
os oedd, yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract wedi ei drosi, tenant neu drwyddedai o dan y contract yn denant neu’n drwyddedai o dan y denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a landlord o dan y contract wedi ei drosi yn landlord o dan y denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a
iii
os yw’r contract wedi ei drosi yn ymwneud â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a
b
ystyr “tenantiaeth neu drwydded wreiddiol” yw—
i
pan fo dyddiad meddiannu’r denantiaeth neu’r drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall yn dod yn union ar ôl diwedd tenantiaeth neu drwydded nad yw’n denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y denantiaeth neu’r drwydded a oedd yn rhagflaenu’r denantiaeth neu’r drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall;
ii
pan fo cyfres o denantiaethau neu drwyddedau olynol yn denantiaethau neu’n drwyddedau sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y denantiaeth neu’r drwydded a oedd yn rhagflaenu’r cyntaf o’r tenantiaethau neu’r trwyddedau sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall.
6
Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan is-baragraff (2), caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.
7
Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno cyn diwedd y contract safonol cyfnod penodol.
8
Mae is-baragraffau (2) i (7) yn ddarpariaethau sylfaenol sydd wedi eu hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo.
25C
Pan fo paragraff 25B yn gymwys, mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel be bai—
a
cyfeiriadau at adran 186 yn cynnwys cyfeiriad at baragraff 25B,
b
cyfeiriadau at hysbysiad o dan adran 186(1) yn cynnwys cyfeiriad at hysbysiad o dan baragraff 25B(2), ac
c
cyfeiriadau at y sail yn adran 186(5) yn cynnwys cyfeiriad at y sail ym mharagraff 25B(6).
25D
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract safonol cyfnod penodol (heblaw tenantiaeth neu drwydded a grybwyllir ym mharagraff 26(2) neu (3)) a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth neu’n drwydded am gyfnod penodol a oedd yn cynnwys cymal terfynu’r landlord.
2
Mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai—
a
yn adran 194 (cymal terfynu’r landlord)—
i
yn is-adran (1), y geiriau “sydd o fewn is-adran (1A)” wedi eu hepgor, a
ii
is-adran (1A) wedi ei hepgor,
b
yn adran 195 (y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir), y cyfeiriad yn is-adran (1) at “chwe mis” yn gyfeiriad at “dau fis”,
c
yn adran 196 (hysbysiad y landlord: cyfyngiad ar roi hysbysiad tan ar ôl 18 mis cyntaf meddiannaeth), y cyfeiriad yn is-adran (1) at “18 mis” yn gyfeiriad at “bedwar mis” (a’r cyfeiriad yn y pennawd at “18 mis” yn gyfeiriad at “pedwar mis”), a
d
Atodlen 9C wedi ei hepgor.
I10726
1
Nid yw adran 194 (cymal terfynu’r landlord) yn gymwys i’r contractau safonol cyfnod penodol a ganlyn (ac yn unol â hynny nid yw adrannau 195 i 201 wedi eu hymgorffori fel telerau contractau o’r fath).
2
Contract safonol cyfnod penodol a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth ddiogel am gyfnod penodol.
3
Contract safonol cyfnod penodol—
a
a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr am gyfnod penodol, a
b
nad yw’n gontract wedi ei eithrio.
4
Mae contract yn gontract wedi ei eithrio pe gallai’r landlord, yn union cyn y diwrnod penodedig, fod wedi gwneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar Sail 3 neu 4 o Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988 (p. 50).
I4127
Mae Sail C o’r seiliau rheoli ystad (llety arbennig: elusennau) yn gymwys i gontract wedi ei drosi fel pe bai’r contract meddiannaeth wedi ei wneud ar y diwrnod penodedig.
Y landlord yn terfynu contract a oedd yn denantiaeth sicr: seiliau meddiant absoliwt ychwanegol
I6628
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr.
2
Caiff y landlord hawlio meddiant o’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract gan ddibynnu ar Sail 1, 2 neu 5 o Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988 (p. 50).
3
Ond ni chaiff y landlord wneud hynny cyn diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract (yn unol ag adran 150) sy’n pennu’r Sail honno.
4
Yn ddarostyngedig i adran 204 (hawliadau meddiant: pwerau’r llys) (sy’n gymwys fel pe bai is-adran (1)(a) yn cynnwys cyfeiriad at is-baragraff (3)), os yw’r llys wedi ei fodloni bod y Sail wedi ei phrofi rhaid iddo wneud gorchymyn adennill meddiant (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
I12829
1
Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn F59denantiaeth sicr gyfnodol.
2
Caiff y landlord hawlio meddiant o’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract gan ddibynnu ar Sail 7 o Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988 (p. 50)—
a
os bu farw’r tenant o dan y denantiaeth sicr cyn y diwrnod penodedig, a
b
os yw’r denantiaeth sicr wedi disgyn o dan ewyllys y tenant neu o dan y rheolau diewyllysedd cyn y diwrnod penodedig, neu os yw’r contract wedi ei drosi yn disgyn felly ar ôl y diwrnod penodedig.
3
Ond ni chaiff y landlord wneud hynny cyn diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract yn pennu’r Sail honno.
4
Yn ddarostyngedig i adran 204 (hawliadau meddiant: pwerau’r llys) (sy’n gymwys fel pe bai is-adran (1)(a) yn cynnwys cyfeiriad at is-baragraff (3)), os yw’r llys wedi ei fodloni bod y Sail wedi ei phrofi rhaid iddo wneud gorchymyn adennill meddiant (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
I16030Tenantiaethau a thrwyddedau goblygedig
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw annedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn cael ei meddiannu fel cartref gan berson sy’n dresmaswr mewn perthynas â’r annedd honno.
2
Mae adran 238 (tenantiaethau a thrwyddedau goblygedig)—
a
yn gymwys i daliadau a wnaed gan y person cyn y diwrnod penodedig fel y mae’n gymwys i daliadau a wneir ganddo ar ôl y diwrnod penodedig, a
b
yn gymwys fel pe bai diwedd y cyfnod perthnasol yn ddiwedd y cyfnod a grybwyllir yn adran 238(3) neu, os yw’n hwyrach, y diwrnod penodedig.
I3031Y dyddiad meddiannu
Y dyddiad meddiannu, mewn perthynas â chontract wedi ei drosi, yw’r diwrnod y daeth deiliad y contract i fod â hawl i feddiannu’r annedd o dan y denantiaeth neu’r drwydded a ddaeth yn gontract meddiannaeth ar y diwrnod penodedig.
I1232Contractau meddiannaeth sy’n cymryd lle contractau eraill
1
Os oes, ar ôl i gontract wedi ei drosi ddod i ben, un neu ragor o gontractau pellach yn cymryd ei le, at ddibenion yr Atodlen hon (ac eithrio paragraff 28), mae’r contract sy’n cymryd ei le i’w drin fel pe bai (neu’r contractau sy’n cymryd ei le i’w trin fel pe baent) yr un denantiaeth neu drwydded â’r contract sydd wedi ei drosi.
2
Mae’r canlynol yn gontractau sy’n cymryd lle contract arall.
3
Contract meddiannaeth rhwng—
a
deiliad contract a oedd, F5yn union cyn y diwrnod y daeth deiliad y contract i fod â hawl i feddiannu’r annedd o dan y contract hwnnw, yn ddeiliad contract o dan gontract wedi ei drosi neu o dan gontract sy’n cymryd lle contract arall, a
b
landlord a oedd, yn union cyn y F27diwrnod hwnnw, yn landlord o dan y contract wedi ei drosi neu o dan y contract sy’n cymryd lle contract arall,
sy’n ymwneud â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r contract wedi ei drosi neu’r contract sy’n cymryd lle contract arall.
F14
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
5
Os yw contract wedi ei drosi neu gontract sy’n cymryd lle contract arall yn dod i ben o dan adran 12(3)(a) (contract safonol a fabwysiedir gan landlord cymunedol), y contract meddiannaeth sy’n codi o dan adran 12(3)(b).
6
Os terfynir contract wedi ei drosi neu gontract sy’n cymryd lle contract arall o dan adran 220 (cefnu), ac os yw’r llys o dan adran 222(3)(b) yn gorchymyn i’r landlord ddarparu llety arall addas, contract meddiannaeth a wneir yn unol â’r gorchymyn.
7
Os yw’r llys o dan adran 210 (seiliau rheoli ystad) yn gwneud gorchymyn i adennill meddiant o annedd sy’n ddarostyngedig i gontract wedi ei drosi neu gontract sy’n cymryd lle contract arall, contract meddiannaeth a wneir i ddarparu llety arall addas i ddeiliad y contract.
F38
Mae’r Atodlen hon yn gymwys i gontract sy’n cymryd lle contract arall—
a
sy’n codi o dan adran 184(2) fel pe bai paragraff 25A(2)(a) wedi ei hepgor;
b
sydd o fewn adran 184(6) fel pe bai paragraffau 25A(2)(a), 25B, 25C a 25D wedi eu hepgor.
I35I8033Pŵer i ddiwygio’r Atodlen
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen hon drwy reoliadau.
Atod. 1 Pt. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)