xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Ni chaniateir amrywio unrhyw un o delerau sylfaenol contract diogel sy’n ymgorffori unrhyw un o’r darpariaethau sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad).
(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i’r darpariaethau sylfaenol a ganlyn—
(a)adran 103(1)(b) a (2) a’r adran hon,
(b)adran 45 (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal),
(c)adran 52 (cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract meddiannaeth),
(d)adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall),
(e)adran 148 (terfynu a ganiateir),
(f)adran 149 (hawliadau meddiant),
(g)adran 155 (marwolaeth unig ddeiliad contract), ac
(h)adran 158 (sicrhau contract drwy ddatganiad ffug).
(3)Nid yw amrywiad i unrhyw deler sylfaenol arall (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad) yn cael unrhyw effaith—
(a)oni bai, o ganlyniad i’r amrywiad—
(i)y byddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori heb ei haddasu, neu
(ii)na fyddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori neu y byddai wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi, ond F1... effaith hyn fyddai bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella;
(b)pe byddai’r amrywiad (boed o fewn paragraff (a) ai peidio) yn golygu bod y teler sylfaenol yn anghydnaws â theler sylfaenol sy’n ymgorffori darpariaeth sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddi.
(4)Nid yw amrywiad i un o delerau contract diogel yn cael unrhyw effaith pe byddai’n golygu bod un neu ragor o delerau’r contract yn anghydnaws â theler sylfaenol (oni bai yr amrywir y teler sylfaenol hwnnw hefyd yn unol â’r adran hon mewn ffordd a fyddai’n osgoi‘r anghydnawsedd).
(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i amrywiad a wneir drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.
(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel; mae adran 20 yn darparu—
(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 108(3)(a)(ii) wedi eu hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 5 para. 2(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 108 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 108 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2