116Gorchymyn sy’n arddodi contract safonol cyfnodol oherwydd ymddygiad gwaharddedigLL+C
(1)Os yw’r landlord o dan gontract diogel yn landlord cymunedol neu’n elusen gofrestredig, caiff y landlord wneud cais i’r llys am orchymyn o dan yr adran hon ar y sail fod deiliad y contract wedi torri adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall).
(2)Effaith gorchymyn o dan yr adran hon yw—
(a)terfynu’r contract diogel o ddyddiad a bennir yn y gorchymyn, a
(b)os yw deiliad y contract yn parhau i feddiannu ar ôl y dyddiad penodedig, creu contract safonol cyfnodol y mae ei ddyddiad meddiannu ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn (ac sy’n gontract safonol cyfnodol hyd ddiwedd y cyfnod prawf).
(3)Ni chaiff y llys wneud gorchymyn o dan yr adran hon onid yw’n fodlon—
(a)bod deiliad y contract wedi torri adran 55,
(b)y byddai wedi gwneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract) ar sail yr achos hwnnw o dor contract yn unig,
(c)y bydd y landlord yn sicrhau bod rhaglen o gymorth cymdeithasol ar gael i ddeiliad y contract, sydd â’r nod o atal ymddygiad gwaharddedig, a
(d)ei bod yn rhesymol gwneud y gorchymyn.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynglŷn â’r gweithgareddau a’r gwasanaethau (gan gynnwys gwasanaethau cymorth, cyngor a chwnsela) y caniateir eu cynnwys mewn rhaglen o gymorth cymdeithasol at ddibenion is-adran (3).
(5)Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfnodau prawf, ynghylch y weithdrefn ar gyfer cael gorchymyn o dan yr adran hon, ac ynghylch telerau contract safonol cyfnodol sy’n cael ei greu o dan yr adran hon.
(6)Yn y Ddeddf hon, ystyr “contract safonol ymddygiad gwaharddedig” yw contract sy’n gontract safonol cyfnodol sy’n cael ei greu yn sgil gorchymyn o dan yr adran hon, ac nad yw ei gyfnod prawf wedi dod i ben eto.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 116 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 116(1)-(3), (5)(6) mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
I3A. 116(4) mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2
I4A. 116(4) mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2