Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 6 Pnd. 3: rhoddir pŵer i ddiwygio (1.9.2019) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (anaw 2), a. 30(2), Atod. 1 para. 11 (ynghyd ag a. 29); O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)
(1)Ni chaniateir amrywio contract safonol cyfnodol ac eithrio—
(a)yn unol ag adrannau 123 i [F1125], neu
(b)drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.
(2)Rhaid i unrhyw amrywiad a wneir i gontract safonol cyfnodol (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad) fod yn unol ag adran 127.
(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol; mae adran 20 yn darparu—
(a)bod rhaid ymgorffori is-adrannau (1)(b) a (2) o’r adran hon, a
(b)na chaniateir ymgorffori is-adrannau (1)(b) a (2) o’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddynt.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn a. 122(1)(a) wedi ei amnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 9
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 122 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 122 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2