RHAN 6DARPARIAETHAU NAD YDYNT OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL CYFNODOL
PENNOD 3AMRYWIO CONTRACTAU
125Amrywio telerau eraill
1
Caniateir amrywio telerau sylfaenol, telerau atodol a thelerau ychwanegol contract safonol cyfnodol (yn ddarostyngedig i adran 127)—
a
drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract, neu
b
gan y landlord yn unol ag adran 126.
2
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol; ond nid yw is-adran (1)(b) wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract safonol cyfnodol nad yw’n ymgorffori adran 173 (hysbysiad y landlord i derfynu’r contract).