128Datganiad ysgrifenedig yn cofnodi amrywiadLL+C
(1)Os yw contract safonol cyfnodol yn cael ei amrywio yn unol â’r contract neu drwy neu o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad rhaid i’r landlord, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, roi i ddeiliad y contract—
(a)datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau sy’n cael ei amrywio neu eu hamrywio, neu
(b)datganiad ysgrifenedig o’r contract fel y’i hamrywiwyd,
oni bai bod y landlord wedi rhoi hysbysiad o’r amrywiad yn unol ag adran 123 [F1neu 124(2) i (4)].
(2)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod yr amrywir y contract.
(3)Ni chaiff y landlord godi ffi am ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan is-adran (1).
(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 128(1) wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 11
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 128 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 128 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2