xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CDARPARIAETHAU NAD YDYNT OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL CYFNODOL

PENNOD 3LL+CAMRYWIO CONTRACTAU

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Rhn. 6 Pnd. 3: rhoddir pŵer i ddiwygio (1.9.2019) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (anaw 2), a. 30(2), Atod. 1 para. 11 (ynghyd ag a. 29); O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)

129Methu â darparu datganiad ysgrifenedig etc.LL+C

(1)Os yw’r landlord wedi methu â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 128 mae’r landlord yn atebol i dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.

(2)Mae’r tâl digolledu yn daladwy mewn perthynas â’r dyddiad perthnasol a phob diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol—

(a)hyd y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau a amrywiwyd, neu o’r contract fel y’i hamrywiwyd, i ddeiliad y contract, neu

(b)os yw hynny’n gynharach, hyd ddiwrnod olaf y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.

(3)Mae llog yn daladwy ar y tâl digolledu os yw’r landlord wedi methu â rhoi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b) neu cyn hynny.

(4)Mae’r llog yn dechrau cronni ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b) ar y raddfa sy’n bodoli o dan adran 6 o Ddeddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998 (p. 20) ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.

(5)Y dyddiad perthnasol yw’r dyddiad yr amrywiwyd y contract.

(6)Nid yw is-adrannau (1) i (5) yn gymwys os gellir priodoli methiant y landlord i gydymffurfio â’r gofyniad i weithred neu anwaith ar ran deiliad y contract.

(7)Os, o dan adran 128, yw’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract fel y’i hamrywiwyd i ddeiliad y contract, mae adrannau 36 a 37 (datganiadau anghyflawn ac anghywir) yn gymwys i’r datganiad fel pe bai [F1, yn is-adran (3) o’r adrannau hynny, y geiriau “dechrau â’r diwrnod yr amrywiwyd y contract” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “dechrau” hyd at y diwedd].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 129 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 129 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2