RHAN 7DARPARIAETHAU NAD YDYNT OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL
C1PENNOD 3AMRYWIO CONTRACTAU
Annotations:
Modifications etc. (not altering text)
I2I1136Datganiad ysgrifenedig yn cofnodi amrywiad
1
Os yw contract safonol cyfnod penodol yn cael ei amrywio yn unol â’r contract neu drwy neu o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad rhaid i’r landlord, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, roi i ddeiliad y contract—
a
datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau sy’n cael ei amrywio neu eu hamrywio, neu
b
datganiad ysgrifenedig o’r contract fel y’i hamrywiwyd.
2
Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod yr amrywir y contract.
3
Ni chaiff y landlord godi ffi am ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan is-adran (1).
4
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol.
Rhn. 7 Pnd. 3: rhoddir pŵer i ddiwygio (1.9.2019) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (anaw 2), a. 30(2), Atod. 1 para. 11 (ynghyd ag a. 29); O.S. 2019/1150, ergl. 2(c)