RHAN 2CONTRACTAU MEDDIANNAETH A LANDLORDIAID
PENNOD 2NATUR CONTRACTAU Y GALL LANDLORDIAID CYMUNEDOL A LANDLORDIAID PREIFAT EU GWNEUD ETC.
Contractau a wneir â landlordiaid cymunedol neu a fabwysiedir ganddynt
I2I114Adolygu hysbysiad
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo landlord cymunedol yn rhoi hysbysiad o dan adran 13.
2
Caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys sirol am adolygiad o benderfyniad y landlord i roi’r hysbysiad.
3
Rhaid gwneud y cais cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad i ddeiliad y contract.
4
Caiff y llys sirol roi caniatâd i gais gael ei wneud ar ôl diwedd y cyfnod a ganiateir gan is-adran (3), ond dim ond os yw’n fodlon—
a
os ceisir caniatâd cyn diwedd y cyfnod hwnnw, bod rheswm da nad yw deiliad y contract yn gallu gwneud y cais mewn pryd, neu
b
os ceisir caniatâd ar ôl hynny, bod rheswm da bod deiliad y contract wedi methu â gwneud y cais mewn pryd ac am unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd.
5
Caiff y llys sirol gadarnhau’r penderfyniad i roi’r hysbysiad neu ei ddiddymu.
6
Wrth ystyried a ddylai gadarnhau’r penderfyniad neu ei ddiddymu, rhaid i’r llys sirol gymhwyso’r egwyddorion a gymhwysir gan yr Uchel Lys pan wneir cais am adolygiad barnwrol.
7
Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad, caiff wneud unrhyw orchymyn y gallai’r Uchel Lys ei wneud wrth wneud gorchymyn diddymu ar gais am adolygiad barnwrol.
8
Os yw’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad ac os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract o dan adran 13 cyn diwedd y cyfnod ôl-adolygiad, mae’r hysbysiad yn cael effaith (heblaw at ddibenion is-adran (3)), fel pe bai wedi ei roi—
a
mewn achos sydd o fewn adran 11, ar adeg gwneud y contract, neu
b
mewn achos sydd o fewn adran 12, ar yr adeg y daeth y landlord cymunedol yn landlord.
9
Y cyfnod ôl-adolygiad yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r llys sirol yn diddymu’r penderfyniad.