141Buddiant cyd-ddeiliad contractLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw contract safonol cyfnod penodol yn darparu y caiff cyd-ddeiliad contract drosglwyddo ei hawliau a’i rwymedigaethau o dan y contract.
(2)Rhaid i’r contract hefyd ddarparu na chaniateir trosglwyddo oni bai bod y trosglwyddwr yn rhoi hysbysiad i’r cyd-ddeiliaid contract eraill y gwneir trosglwyddiad.
(3)Rhaid i’r contract hefyd ddarparu nad oes gan y trosglwyddai hawl i feddiannu’r annedd heb gydsyniad y cyd-ddeiliaid contract eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 141 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 141 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2