RHAN 8CONTRACTAU SAFONOL Â CHYMORTH
144Symudedd
(1)
Caiff contract safonol â chymorth ddarparu mai’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract yw’r annedd, o fewn adeilad a bennir yn y contract, a bennir gan y landlord o bryd i’w gilydd.
(2)
Os yw’n gwneud hynny, yna mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at yr annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth i’w darllen fel cyfeiriadau at yr annedd sydd wedi ei phennu gan y landlord ar y pryd.