RHAN 2CONTRACTAU MEDDIANNAETH A LANDLORDIAID

PENNOD 2NATUR CONTRACTAU Y GALL LANDLORDIAID CYMUNEDOL A LANDLORDIAID PREIFAT EU GWNEUD ETC.

Contractau a wneir â landlordiaid cymunedol neu a fabwysiedir ganddynt

15Hysbysiad o’r hawl i benderfynu parhau ar gontract safonol cyfnod penodol

(1)

O leiaf fis cyn i landlord cymunedol ddod yn landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol y talwyd premiwm ar ei gyfer, rhaid i’r landlord cymunedol roi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan yr adran hon.

(2)

Rhaid i’r hysbysiad—

(a)

hysbysu deiliad y contract o’i hawl o dan adran 12(8)(b) i benderfynu y dylai‘r contract barhau i fod yn gontract safonol cyfnod penodol, a’i hysbysu erbyn pryd y mae’n rhaid iddo wneud y penderfyniad, a

(b)

egluro sut y bydd adran 12 yn gymwys i’r contract os nad yw deiliad y contract yn gwneud y penderfyniad.