159Cyfyngiadau ar adran 157LL+C
(1)Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 157, rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.
(2)Caiff y landlord wneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar dorri adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall) ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n nodi bod yr adran honno wedi ei thorri.
(3)Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar dorri unrhyw deler arall yn y contract cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n nodi bod y teler hwnnw wedi ei dorri.
(4)Yn y naill achos a’r llall, ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract.
(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 159 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 159 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2