RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH
PENNOD 5TERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNODOL
Terfynu gan landlord: hysbysiad y landlord
F1174AY cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir: contractau safonol cyfnodol o fewn Atodlen 8A
(1)
Os yw contract safonol cyfnodol o fewn Atodlen 8A, ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 173 fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
(2)
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sydd—
(a)
yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract, a
(b)
o fewn Atodlen 8A.