RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 5TERFYNU CONTRACTAU SAFONOL CYFNODOL

Terfynu gan landlord: hysbysiad y landlord

178Adennill meddiant

(1)

Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 173, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(2)

Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw wedi ei fodloni bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd, oni bai bod adran 217 (troi allan dialgar: contractau safonol) yn gymwys (ac yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

(3)

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.