Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))
(1)Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 173, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.
(2)Mae adran 215 yn darparu bod yn rhaid i’r llys, os yw wedi ei fodloni bod y sail wedi ei phrofi, wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd, oni bai bod adran 217 (troi allan dialgar: contractau safonol) yn gymwys (ac yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 178 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 178 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2