(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion dehongli’r Ddeddf hon.
(2)Mae i “darpariaeth sylfaenol” yr ystyr a roddir yn adran 18.
(3)Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at adran neu ddarpariaeth arall sydd yn ddarpariaeth sylfaenol yn cael effaith, mewn perthynas â chontract sy’n ymgorffori’r ddarpariaeth sylfaenol (ynghyd ag addasiadau i’r ddarpariaeth neu heb addasiadau iddi), fel cyfeiriad at deler sylfaenol y contract sy’n ymgorffori’r ddarpariaeth honno.
(4)Ystyr “teler sylfaenol”, mewn perthynas â chontract meddiannaeth, yw teler o’r contract sy’n ymgorffori darpariaeth sylfaenol (ynghyd ag addasiadau i’r ddarpariaeth neu heb addasiadau iddi).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 19 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2