RHAN 2CONTRACTAU MEDDIANNAETH A LANDLORDIAID

PENNOD 3DARPARIAETHAU SYLFAENOL CONTRACTAU MEDDIANNAETH

19Telerau sylfaenol a darpariaethau sylfaenol: diffiniadau

1

Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion dehongli’r Ddeddf hon.

2

Mae i “darpariaeth sylfaenol” yr ystyr a roddir yn adran 18.

3

Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at adran neu ddarpariaeth arall sydd yn ddarpariaeth sylfaenol yn cael effaith, mewn perthynas â chontract sy’n ymgorffori’r ddarpariaeth sylfaenol (ynghyd ag addasiadau i’r ddarpariaeth neu heb addasiadau iddi), fel cyfeiriad at deler sylfaenol y contract sy’n ymgorffori’r ddarpariaeth honno.

4

Ystyr “teler sylfaenol”, mewn perthynas â chontract meddiannaeth, yw teler o’r contract sy’n ymgorffori darpariaeth sylfaenol (ynghyd ag addasiadau i’r ddarpariaeth neu heb addasiadau iddi).