20Ymgorffori ac addasu darpariaethau sylfaenolLL+C
(1)Nid yw darpariaeth sylfaenol wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth—
(a)os yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno na ddylid ei hymgorffori, a
(b)osF1... effaith peidio â’i hymgorffori yw bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella.
(2)Mae darpariaeth sylfaenol wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract meddiannaeth ynghyd ag addasiadau iddi—
(a)os yw’r landlord a deiliad y contract yn cytuno y dylid ei hymgorffori ynghyd â’r addasiadau hynny iddi, a
(b)osF2... effaith ei hymgorffori ynghyd â’r addasiadau hynny yw bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella.
(3)Nid yw is-adrannau (1) a (2) yn gymwys i’r darpariaethau sylfaenol a ganlyn—
(a)adran 45 (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal),
(b)adran 52 (cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract meddiannaeth),
(c)adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall),
(d)adrannau 103(1)(b) a (2) a 108 (amrywio contractau diogel),
(e)adrannau 122(1)(b) a (2) a 127 (amrywio contractau safonol cyfnodol),
(f)adran 134(1)(b) a (2) a 135 (amrywio contractau safonol cyfnod penodol),
(g)adran 148 (terfynu a ganiateir),
(h)adran 149 (hawliadau meddiant),
(i)adran 155 (marwolaeth unig ddeiliad contract),
(j)adran 158 (sicrhau contract drwy ddatganiad ffug),
F3(k). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F3(l). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F3(m). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F3(n). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F3(o). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(p)paragraff 7 o Atodlen 4 (amrywio contract diogel yr ymdrinnir ag ef mewn datganiad ysgrifenedig o gontract safonol rhagarweiniol)[F4, a
(q)Rhan 1 o Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adrannau 173 a 186 ac o dan gymal terfynu’r landlord).]
(4)Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i adran 34 (methiant landlord i ddarparu datganiad ysgrifenedig o’r contract) ac adran 36 (datganiad anghyflawn o’r contract).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 20(1)(b) wedi eu hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 5 para. 2(1)(a)
F2Geiriau yn a. 20(2)(b) wedi eu hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 5 para. 2(1)(b)
F3A. 20(3)(k)-(o) wedi ei hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 2(a)
F4A. 20(3)(q) ac gair wedi ei fewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 2(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 20 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2