xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9LL+CTERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 8LL+CADOLYGIAD GAN LANDLORD O BENDERFYNIAD I ROI HYSBYSIAD YN EI GWNEUD YN OFYNNOL ILDIO MEDDIANT(NID YW’R BENNOD HON OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL RHAGARWEINIOL A CHONTRACTAU SAFONOL YMDDYGIAD GWAHARDDEDIG)

203Adolygiad y landlord o benderfyniad i roi hysbysiadLL+C

(1)Os yw deiliad y contract, yn unol ag adran 202, yn gofyn am adolygiad o benderfyniad y landlord i roi hysbysiad, rhaid i’r landlord gynnal yr adolygiad.

(2)Yn dilyn adolygiad, caiff y landlord—

(a)cadarnhau’r penderfyniad i roi’r hysbysiad, neu

(b)gwrthdroi’r penderfyniad.

(3)Rhaid i’r landlord hysbysu deiliad y contract o ganlyniad yr adolygiad cyn y dyddiad y gall y landlord wneud hawliad meddiant ar ei ôl.

(4)Os yw’r landlord yn cadarnhau’r penderfyniad, rhaid i’r hysbysiad nodi’r rhesymau dros y cadarnhad.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi’r weithdrefn sydd i’w dilyn mewn cysylltiad ag adolygiad o dan yr adran hon.

(6)Caiff rheoliadau o dan is-adran (5), ymysg pethau eraill—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r adolygiad gael ei gynnal gan berson o safle uwch priodol nad yw wedi bod yn ymwneud â’r penderfyniad, a

(b)dynodi amgylchiadau pan fo hawl gan ddeiliad y contract i wrandawiad llafar, a dynodi a ganiateir iddo gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad o’r fath, a chan bwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 203 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 203(5)(6) mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1