xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))
(1)Ni chaiff y llys wrando hawliad meddiant a wneir gan y landlord o dan gontract meddiannaeth—
(a)os yw’r landlord wedi methu â gweithredu yn unol â pha un bynnag o’r darpariaethau a ganlyn sy’n gymwys—
F1(i). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(ii)adran 159 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn tor contract);
(iii)adran 161 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant ar seiliau rheoli ystad);
(iv)adran 166 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn hysbysiad deiliad y contract: contractau diogel);
(v)adran 171 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnodol);
(vi)adran 175 (cyfyngiad ar roi hysbysiad y landlord o dan gontract safonol cyfnodol [F2tan ar ôl chwe mis cyntaf] meddiannaeth);
(vii)adrannau [F3177, 177A] a 179 (cyfyngiadau yn ymwneud â hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnodol);
(viii)adran 182 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnodol);
(ix)adran 186 (cyfyngiad yn ymwneud â hysbysiad mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol);
(x)adran 188 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnod penodol);
(xi)adran 192 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant ar ôl defnyddio cymal terfynu deiliad contract mewn contract safonol cyfnod penodol);
(xii)adran 196 (cyfyngiad ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord mewn contract safonol cyfnod penodol [F4tan ar ôl 18 mis cyntaf] meddiannaeth);
(xiii)adrannau F5...198 a 200 (cyfyngiadau yn ymwneud â chymal terfynu’r landlord mewn contract safonol cyfnod penodol);
(xiv)adran 203 (adolygiad o benderfyniad i roi hysbysiad yn ceisio meddiant: contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig),
[F6(xv)Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adrannau 173 a 186 ac o dan gymal terfynu’r landlord: torri rhwymedigaethau statudol),] neu
(b)os oedd yn ofynnol i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant a’i fod wedi methu â chydymffurfio ag adran 150 neu (mewn perthynas â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig) adran 151.
(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r llys yn ystyried ei bod yn rhesymol hepgor y gofynion a grybwyllir yn yr is-adran honno.
(3)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i gais am orchymyn adennill meddiant yn erbyn isddeiliad o dan adran 65(2) (gorchymyn adennill meddiant estynedig).
Diwygiadau Testunol
F1A. 204(1)(a)(i) wedi ei hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 19(b)
F2Geiriau yn a. 204(1)(a)(vi) wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 19(c)
F3Geiriau yn a. 204(1)(a)(vii) wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 19(d)
F4Geiriau yn a. 204(1)(a)(xii) wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 19(e)
F5Gair yn a. 204(1)(a)(xiii) wedi ei hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 19(f)
F6A. 204(1)(a)(xv) wedi ei fewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 19(g)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 204 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 204 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2