RHAN 9LL+CTERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

PENNOD 10LL+CHAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS MEWN PERTHYNAS Â SEILIAU YN ÔL DISGRESIWN(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)

211Pwerau i ohirio achosion ac i ohirio ildio meddiantLL+C

(1)Os yw hawliad meddiant a wneir gan landlord yn dibynnu ar y sail yn adran 157 (tor contract) neu ar un neu ragor o’r seiliau rheoli ystad, caiff y llys ohirio’r achos ar yr hawliad am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy’n rhesymol yn ei farn.

(2)Os yw’r llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant o dan adran 209 neu 210, caiff (wrth wneud y gorchymyn neu ar unrhyw adeg cyn gweithredu’r gorchymyn) ohirio ildio meddiant am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy’n briodol yn ei farn.

(3)Gellir gohirio ildio meddiant drwy’r gorchymyn adennill meddiant, neu drwy atal neu oedi cyn gweithredu’r gorchymyn adennill meddiant.

(4)Pan geir gohiriad o dan yr adran hon, rhaid i’r llys osod amodau o ran—

(a)talu ôl-ddyledion rhent (os oes rhai) gan ddeiliad y contract, a

(b)parhau i dalu’r rhent (os oes rhent i’w dalu),

oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud hynny’n achosi caledi eithriadol i ddeiliad y contract neu y byddai’n afresymol fel arall.

(5)Caiff y llys osod unrhyw amodau eraill sy’n briodol yn ei farn.

(6)Os yw deiliad y contract yn cydymffurfio â’r amodau, caiff y llys ryddhau’r gorchymyn am feddiant.

(7)Mae Atodlen 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhesymoldeb gohiriad.