C1RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH
C1PENNOD 13CEFNU
(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)
I1I2C1222C1Rhwymedïau deiliad y contract
1
Caiff deiliad contract, cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 220(5), wneud cais i’r llys ar un neu ragor o’r seiliau yn is-adran (2) am ddatganiad neu orchymyn o dan is-adran (3).
2
Y seiliau yw—
a
bod y landlord wedi methu â rhoi hysbysiad o dan adran 220(3) neu wedi methu â gwneud yr ymholiadau sy’n ofynnol yn ôl adran 220(4);
b
nad oedd deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd a bod rheswm da dros ei fethiant i ymateb (neu i ymateb yn ddigonol) i’r hysbysiad o dan adran 220(3);
c
nad oedd gan y landlord, pan roddodd yr hysbysiad i ddeiliad y contract o dan adran 220(5), seiliau rhesymol dros fod yn fodlon bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr annedd.
3
Os yw’r llys yn canfod bod un neu ragor o’r seiliau wedi ei phrofi neu eu profi, caiff—
a
gwneud datganiad nad oes unrhyw effaith i’r hysbysiad o dan adran 220(5) a bod y contract meddiannaeth yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r annedd,
b
gorchymyn i’r landlord ddarparu llety arall addas i ddeiliad y contract, neu
c
gwneud unrhyw orchymyn arall sy’n briodol yn ei farn.
4
Os yw’r llys yn gwneud y naill neu’r llall o’r pethau a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b) o is-adran (3), caiff wneud unrhyw orchymyn arall y mae’n ei ystyried yn briodol.
5
Mae addasrwydd llety arall i’w benderfynu gan roi sylw i Atodlen 11.
Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))