RHAN 9LL+CTERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))

PENNOD 14LL+CCYD-DDEILIAID CONTRACT: GWAHARDD A THERFYNU(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)

Gwahardd cyd-ddeiliaid contractLL+C

226Rhwymedïau am wahardd o dan adran 225LL+C

(1)Caiff C, cyn diwedd y cyfnod o wyth wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 225(6), wneud cais i’r llys ar un neu ragor o’r seiliau yn is-adran (2) am ddatganiad o dan is-adran (3).

(2)Y seiliau yw—

(a)bod y landlord wedi methu â rhoi hysbysiad o dan adran 225(3) neu wedi methu â gwneud yr ymholiadau sy’n ofynnol yn ôl adran 225(5);

(b)bod C yn meddiannu’r annedd, neu’n bwriadu ei meddiannu, a bod rheswm da dros ei fethiant i ymateb (neu i ymateb yn ddigonol) i’r hysbysiad o dan adran 225(3);

(c)nad oedd gan y landlord, pan roddodd yr hysbysiad i C o dan adran 225(6), seiliau rhesymol dros fod yn fodlon nad oedd C yn meddiannu’r annedd, nac yn bwriadu ei meddiannu.

(3)Os yw’r llys yn canfod bod un neu ragor o’r seiliau wedi ei phrofi neu eu profi, caiff—

(a)gwneud datganiad nad oes unrhyw effaith i’r hysbysiad o dan adran 225(6) a bod C yn parhau i fod yn barti i’r contract, a

(b)gwneud unrhyw orchymyn pellach y mae’n ei ystyried yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 226 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 226 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2