RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH
PENNOD 14CYD-DDEILIAID CONTRACT: GWAHARDD A THERFYNU(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)
Gwahardd cyd-ddeiliaid contract
230Ymddygiad gwaharddedig: gwahardd gan y landlord
(1)
Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn credu bod cyd-ddeiliad contract (“C”) wedi torri adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall), caniateir terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract yn unol â’r adran hon.
(2)
Rhaid i’r landlord roi hysbysiad i C—
(a)
yn datgan bod y landlord yn credu bod C wedi torri adran 55,
(b)
yn rhoi manylion y toriad, ac
(c)
yn datgan y bydd y landlord yn gwneud cais i’r llys am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract.
(3)
Rhaid i’r landlord roi hysbysiad i’r cyd-ddeiliaid contract eraill—
(a)
yn datgan bod y landlord yn credu bod C wedi torri adran 55, a
(b)
yn datgan y bydd y landlord yn gwneud cais i’r llys am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract.
(4)
Caiff y landlord wneud cais i’r llys am orchymyn sy’n terfynu hawliau a rhwymedigaethau C o dan y contract ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad i C o dan is-adran (2).
(5)
Caiff y llys wneud gorchymyn o’r fath pe byddai wedi gwneud gorchymyn adennill meddiant yn erbyn C pe byddai’r amgylchiadau wedi bod y rheini a grybwyllir yn is-adran (6).
(6)
Yr amgylchiadau yw—
(a)
mai C oedd yr unig ddeiliad contract o dan y contract, a
(b)
bod y landlord wedi gwneud hawliad meddiant yn erbyn C ar y sail bod C wedi torri adran 55.
(7)
Os yw’r llys yn gwneud y gorchymyn, mae C yn peidio â bod yn barti i’r contract ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn.