Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

235Datganiad o drefniadau ymgynghoriLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i landlord y mae’n ofynnol iddo wneud trefniadau o dan adran 234 baratoi a chyhoeddi datganiad o’r trefniadau.

(2)Os yw’r landlord yn awdurdod tai lleol, rhaid iddo sicrhau bod copi o’r datganiad ar gael i’w archwilio gan aelodau’r cyhoedd ar bob adeg resymol, yn ddi-dâl, ym mhrif swyddfa’r landlord.

(3)Os yw’r landlord yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig, rhaid iddo anfon copi o’r datganiad at Weinidogion Cymru a’r awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal y mae’r anheddau wedi ei lleoli ynddi.

(4)Rhaid i awdurdod tai lleol yr anfonir copi ato o dan is-adran (3) sicrhau ei fod ar gael i’w archwilio gan aelodau’r cyhoedd ar bob adeg resymol, yn ddi-dâl, yn ei brif swyddfa.

(5)Rhaid i’r landlord roi copi o’r datganiad—

(a)i unrhyw ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth gyda’r landlord sy’n gofyn am un, yn ddi-dâl, a

(b)i unrhyw berson arall sy’n gofyn am un, o dalu ffi resymol.

(6)Rhaid i’r landlord hefyd—

(a)paratoi crynodeb o’r datganiad, a

(b)darparu copi o’r crynodeb yn ddi-dâl i unrhyw berson sy’n gofyn am un.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 235 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 235 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2