RHAN 10AMRYWIOL
PENNOD 3TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU SY’N BODOLI CYN I’R BENNOD HON DDOD I RYM
I1I2240Trosi tenantiaethau a thrwyddedau sydd yn bodoli cyn i’r Bennod ddod i rym
1
At ddibenion penderfynu ar y materion yn is-adran (2), mae tenantiaeth neu drwydded a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig i’w thrin fel pe bai wedi ei gwneud ar y diwrnod penodedig.
2
Y materion yw—
a
pa un a yw’r denantiaeth neu’r drwydded yn gontract meddiannaeth,
b
pwy yw deiliaid y contract o dan y contract, ac
c
a yw’r contract yn gontract diogel neu’n gontract safonol.
3
Mae is-adrannau (4) i (7) yn gymwys i denantiaeth neu drwydded sy’n dod yn gontract meddiannaeth ar y diwrnod penodedig.
4
Mae’r darpariaethau sylfaenol sy’n gymwys i’r contract wedi eu hymgorffori fel telerau o’r contract.
5
Mae telerau presennol y contract yn parhau i gael effaith, ac eithrio i’r graddau y maent—
a
yn anghydnaws â darpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract, neu
b
yn delerau’r contract oherwydd deddfiad a ddiddymir neu a ddirymir o dan y Ddeddf hon.
6
Mae’r darpariaethau atodol sy’n gymwys i’r contract wedi eu hymgorffori fel telerau o’r contract, ac eithrio i’r graddau y maent yn anghydnaws â thelerau presennol y contract.
7
Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i Atodlen 12 (sy’n gwneud darpariaeth bellach ynghylch tenantiaethau a thrwyddedau sydd eisoes yn bodoli, sy’n addasu’r modd y cymhwysir y Ddeddf hon, ac sy’n cynnwys darpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i gontractau safonol penodol).