RHAN 11DARPARIAETHAU TERFYNOL

Dehongli’r Ddeddf

I1247Ystyr “amrywio” contract meddiannaeth

Yn y Ddeddf hon, mewn perthynas â chontract meddiannaeth—

a

mae “amrywio” yn cynnwys ychwanegu teler i’r contract neu ddileu un o delerau’r contract;

b

nid yw “amrywio” yn cynnwys unrhyw newid o ran pwy yw’r landlord na deiliad y contract o dan y contract.