Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

252Mân ddiffiniadauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “contract cyflogaeth” (“contract of employment”) yw contract gwasanaeth neu brentisiaeth, boed yn ddatganedig neu’n oblygedig, ac (os yw’n ddatganedig) boed ar lafar neu mewn ysgrifen;

  • ystyr “contract cyfnod penodol” (“fixed term contract”) yw contract meddiannaeth nad yw’n gontract cyfnodol;

  • ystyr “cyfnod rhentu” (“rental period”) yw cyfnod y mae rhent yn daladwy ar ei gyfer;

  • mae i “cymdeithas dai” yr ystyr sydd i “housing association” yn Neddf Cymdeithasau Tai 1985 (p. 69) (gweler adran 1 o’r Ddeddf honno);

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad (pryd bynnag y’i deddfwyd neu y’i gwnaed, oni bai bod bwriad i’r gwrthwyneb yn ymddangos), sydd wedi ei gynnwys mewn, neu mewn offeryn a wnaed o dan—

    (a)

    Deddf Seneddol, neu

    (b)

    Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys y Ddeddf hon);

  • ystyr “elusen gofrestredig“ (“registered charity”) yw elusen sydd wedi ei chofrestru o dan Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25);

  • mae i “hawliau Confensiwn” yr ystyr sydd i “Convention rights” yn Neddf Hawliau Dynol 1998 (p. 42);

  • ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw wedi ei rhagnodi drwy reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru;

  • ystyr “rhannau cyffredin” (“common parts”), mewn perthynas ag annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth, yw—

    (a)

    unrhyw ran o adeilad sy’n ffurfio’r annedd honno, a

    (b)

    unrhyw fangre arall (gan gynnwys unrhyw annedd arall),

  • mae “rhent” (“rent”) yn cynnwys swm sy’n daladwy o dan drwydded;

  • mae i “ymddiriedolaeth dai” yr ystyr sydd i “housing trust” yn Neddf Cymdeithasau Tai 1985 (gweler adran 2 o’r Ddeddf honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 252 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 257(1)