252Mân ddiffiniadauLL+C
Yn y Ddeddf hon—
ystyr “contract cyflogaeth” (“contract of employment”) yw contract gwasanaeth neu brentisiaeth, boed yn ddatganedig neu’n oblygedig, ac (os yw’n ddatganedig) boed ar lafar neu mewn ysgrifen;
ystyr “contract cyfnod penodol” (“fixed term contract”) yw contract meddiannaeth nad yw’n gontract cyfnodol;
ystyr “cyfnod rhentu” (“rental period”) yw cyfnod y mae rhent yn daladwy ar ei gyfer;
mae i “cymdeithas dai” yr ystyr sydd i “housing association” yn Neddf Cymdeithasau Tai 1985 (p. 69) (gweler adran 1 o’r Ddeddf honno);
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad (pryd bynnag y’i deddfwyd neu y’i gwnaed, oni bai bod bwriad i’r gwrthwyneb yn ymddangos), sydd wedi ei gynnwys mewn, neu mewn offeryn a wnaed o dan—
(a)Deddf Seneddol, neu
(b)Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys y Ddeddf hon);
ystyr “elusen gofrestredig“ (“registered charity”) yw elusen sydd wedi ei chofrestru o dan Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25);
mae i “hawliau Confensiwn” yr ystyr sydd i “Convention rights” yn Neddf Hawliau Dynol 1998 (p. 42);
ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw wedi ei rhagnodi drwy reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru;
ystyr “rhannau cyffredin” (“common parts”), mewn perthynas ag annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth, yw—
(a)unrhyw ran o adeilad sy’n ffurfio’r annedd honno, a
(b)unrhyw fangre arall (gan gynnwys unrhyw annedd arall),
mae “rhent” (“rent”) yn cynnwys swm sy’n daladwy o dan drwydded;
[F1mae i “tenantiaeth cymdeithas dai” yr un ystyr â “housing association tenancy” yn Rhan 6 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) (gweler adran 86 o’r Ddeddf honno);]
mae i “ymddiriedolaeth dai” yr ystyr sydd i “housing trust” yn Neddf Cymdeithasau Tai 1985 (gweler adran 2 o’r Ddeddf honno).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 252 wedi eu mewnosod (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022 (O.S. 2022/799), rhlau. 1, 5(4) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2022/906, erglau. 1(2), 14)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 252 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 257(1)