(1)Mae unrhyw bŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—
(a)i’w arfer drwy offeryn statudol,
(b)yn bŵer y caniateir ei arfer er mwyn gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion neu ddisgrifiadau o achos neu ar gyfer gwahanol ddibenion neu ardaloedd,
(c)yn bŵer y caniateir ei arfer er mwyn gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol fathau neu ddisgrifiadau o gontract meddiannaeth, oni bai bod y pŵer ond yn gymwys mewn perthynas â mathau neu ddisgrifiadau penodol o gontract meddiannaeth, a
(d)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(2)Caiff rheoliadau o dan y Ddeddf hon wneud diwygiadau canlyniadol[F1, addasiadau, diddymiadau a dirymiadau i unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth yn y Ddeddf hon)] .
(3)Ni chaniateir gwneud rheoliadau y mae’r is-adran hon yn gymwys iddynt oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau (boed ar eu pen eu hunain neu ynghyd â rheoliadau nad yw’r is-adran hon yn gymwys iddynt) wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
(4)Mae is-adran (3) yn gymwys i reoliadau o dan—
(a)adran 9 (pŵer i ddiwygio’r adran honno),
(b)adran 22 (pwerau o ran darpariaethau sylfaenol),
(c)adran 56 (pŵer i ddiwygio adran 55),
(d)adran 68 (pŵer i ddiwygio adrannau 66 a 67),
[F2(da)adran 121 (pŵer i ddiwygio’r Ddeddf mewn perthynas â’r pŵer i wahardd deiliad contract o dan gontract safonol cyfnodol o annedd am gyfnodau penodol),
(db)adran 133 (pŵer i ddiwygio’r Ddeddf mewn perthynas â’r pŵer i wahardd deiliad contract o dan gontract safonol cyfnod penodol o annedd am gyfnodau penodol),]
(e)adran 217 (pŵer i ddiwygio’r adran honno),
(f)adran 223 (pŵer i ddiwygio adrannau 220 a 222),
(g)adran 229 (pŵer i ddiwygio adrannau 225 i 228),
[F3(ga)adran 239A (pŵer i wneud darpariaeth ynghylch tenantiaethau a thrwyddedau penodol),]
(h)paragraff 17 o Atodlen 2 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),
(i)paragraff 17 o Atodlen 3 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),
(j)paragraff 3 o Atodlen 4 (pŵer i newid y terfyniad amser ar gyfer rhoi hysbysiad o ymestyn y cyfnod rhagarweiniol),
(k)paragraff 5 o Atodlen 5 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),
(l)paragraff 4 o Atodlen 7 (pŵer i newid y terfyniad amser ar gyfer rhoi hysbysiad o estyniad o gyfnod prawf),
[F4(la)paragraff 13 o Atodlen 8A (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),]
(m)paragraff 13 o Atodlen 9 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),
[F5(ma)paragraff 8 o Atodlen 9A (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),
(mb)paragraff 11 o Atodlen 9B (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),
(mc)paragraff 11 o Atodlen 9C (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno), ] ac
(n)paragraff 33 o Atodlen 12 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno).
(5)Mae is-adran (3) hefyd yn gymwys i unrhyw reoliadau eraill o dan y Ddeddf hon sy’n diwygio, yn addasu neu’n dirymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(6)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan ddarpariaeth yn y Ddeddf hon nad yw is-adran (3) yn gymwys iddynt, yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 256(2) wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 21(a)
F2A. 256(4)(da)(db) wedi ei fewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 21(b)(i)
F3A. 256(4)(ga) wedi ei fewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 5 para. 6(2)
F4A. 256(4)(la) wedi ei fewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 21(b)(ii)
F5A. 256(4)(ma)-(mc) wedi ei fewnosod (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 21(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 256 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 257(1)