xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CDARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

PENNOD 2LL+CDARPARU GWYBODAETH

Datganiad ysgrifenedig o’r contractLL+C

32Yr hyn y mae datganiad ysgrifenedig i’w gynnwysLL+C

(1)Rhaid i ddatganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth nodi enwau’r partïon i’r contract.

(2)Rhaid iddo hefyd nodi—

(a)telerau’r contract sy’n ymdrin â materion allweddol mewn perthynas â’r contract,

(b)telerau sylfaenol y contract,

(c)telerau atodol y contract, a

(d)unrhyw delerau ychwanegol.

(3)Rhaid iddo nodi—

(a)unrhyw ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i’r contract nad yw wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract oherwydd adran 20(1) neu 21(2), a

(b)unrhyw ddarpariaeth atodol sy’n gymwys i’r contract nad yw wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract oherwydd adran 21(2), 24(1) neu 25(2).

(4)Rhaid iddo gynnwys gwybodaeth esboniadol am unrhyw faterion a ragnodir.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 32(1)-(3) mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I3A. 32(4) mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1

I4A. 32(4) mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2