RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 4BLAENDALIADAU A CHYNLLUNIAU BLAENDAL
Sicrwydd
43Ffurf sicrwydd
(1)
Ni chaiff y landlord o dan gontract meddiannaeth ei gwneud yn ofynnol i sicrwydd gael ei roi ar unrhyw ffurf heblaw—
(a)
arian, neu
(b)
gwarant.
(2)
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.