RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

PENNOD 4BLAENDALIADAU A CHYNLLUNIAU BLAENDAL

Sicrwydd

44Ffurf sicrwydd: dwyn achosion gerbron y llys sirol

(1)

Mae’r adran hon yn berthnasol—

(a)

os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn ei gwneud yn ofynnol i sicrwydd gael ei roi ar ffurf nad yw’n cael ei chaniatáu gan adran 43, a

(b)

os yw sicrwydd yn cael ei roi ar y ffurf honno.

(2)

Caiff deiliad y contract (neu unrhyw berson sydd wedi rhoi’r sicrwydd ar ei ran) wneud cais i’r llys sirol am orchymyn o dan is-adran (3).

(3)

Gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person yr ymddengys ei fod yn dal yr eiddo sy’n ffurfio’r sicrwydd ei ddychwelyd yw gorchymyn o dan yr is-adran hon.