Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

47Cynlluniau blaendal: dehongliLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “blaendal” (“deposit”) yw arian sy’n cael ei dalu fel sicrwydd;

  • ystyr “cynllun blaendal awdurdodedig” (“authorised deposit scheme”) yw cynllun blaendal sydd mewn grym yn unol â threfniadau o dan baragraff 1 o Atodlen 5 (ac mae i “cynllun blaendal” (“deposit scheme”) yr ystyr a roddir gan is-baragraff (2) o’r paragraff hwnnw);

  • ystyr “gofynion cychwynnol” (“initial requirements”), mewn perthynas â chynllun blaendal awdurdodedig, yw gofynion y cynllun y mae’n rhaid i’r landlord gydymffurfio â hwy pan delir blaendal;

  • ystyr “sicrwydd” (“security”) yw sicrwydd ar gyfer cyflawni rhwymedigaethau deiliad y contract a chyflawni atebolrwydd deiliad y contract.

(2)Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at flaendal, mewn perthynas ag adeg ar ôl i flaendal gael ei dalu, yn gyfeiriadau at swm sy’n cynrychioli’r blaendal.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 47 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2