Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

49Ychwanegu cyd-ddeiliad contractLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth a pherson arall, gyda chaniatâd y landlord, wneud y person arall hwnnw yn gyd-ddeiliad contract o dan y contract.

(2)Os gwneir person yn gyd-ddeiliad contract o dan yr adran hon bydd ganddo’r hawl i’r holl hawliau, a bydd yn ddarostyngedig i holl rwymedigaethau deiliad contract o dan y contract o’r diwrnod y daw’n gyd-ddeiliad contract.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 49 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2