RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 8DELIO
Hawliau i ddelio â chontract meddiannaeth
I2I158Delio, a chydsyniad y landlord
1
Pan na fo teler mewn contract meddiannaeth yn caniatáu i ddeiliad y contract neu gyd-ddeiliad y contract ddelio ag unrhyw beth a grybwyllir yn adran 57(1) neu (2) oni chafwyd cydsyniad y landlord, mae’r hyn sy’n rhesymol at ddibenion adran 84 (cydsyniad landlord) i’w benderfynu gan roi sylw i Atodlen 6.
2
Nid yw adran 19(1) o Ddeddf Landlord a Thenant 1927 (p. 36) (effaith cyfamodau i beidio ag aseinio etc. heb gydsyniad) yn gymwys i denantiaeth sy’n gontract meddiannaeth.