RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 8DELIO
Contractau isfeddiannaeth
I1I259Contractau isfeddiannaeth: dehongli
1
Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion dehongli’r Ddeddf hon.
2
Mae “contract isfeddiannaeth” yn gontract meddiannaeth—
a
a wneir gyda landlord sy’n ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth, a
b
sy’n ymwneud â’r annedd i gyd neu ran o’r annedd y mae’r contract hwnnw yn berthnasol iddi.
3
Ystyr “isddeiliad” yw deiliad y contract o dan y contract isfeddiannaeth.
4
Ystyr “prif landlord” yw’r landlord o dan y prif gontract.