RHAN 1TROSOLWG O’R DDEDDF
Trosolwg o weddill y Ddeddf
6Trosolwg o Rannau 10 ac 11: darpariaeth gyffredinol
(1)
Mae a wnelo Rhan 10 â materion amrywiol sydd naill ai—
(a)
yn atodol i Rannau 2 i 9, neu
(b)
ynghylch cymhwyso a gweithredu’r Ddeddf hon.
(2)
Mae Rhan 11 yn cynnwys—
(a)
darpariaeth ynghylch dehongli’r Ddeddf hon, a
(b)
darpariaeth sy’n gymwys yn gyffredinol at ddibenion y Ddeddf hon.