Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

71Effaith trosglwyddiad heb ei awdurdodiLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i—

(a)trosglwyddiad contract meddiannaeth gan ddeiliad y contract i berson (“P”) nad yw’n unol â’r contract, a

(b)trosglwyddiad gan gyd-ddeiliad contract o’i hawliau a’i rwymedigaethau o dan gontract meddiannaeth i berson (“P”), nad yw’n unol â’r contract.

(2)Os yw’r landlord yn derbyn taliadau oddi wrth P mewn perthynas â meddiannaeth P o’r annedd, ar adeg—

(a)pan fo’r landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, unrhyw un ohonynt) yn gwybod nad oedd y trosglwyddiad wedi ei wneud yn unol â’r contract, neu

(b)pan ddylai’r landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, unrhyw un ohonynt) wybod yn rhesymol nad oedd y trosglwyddiad wedi ei wneud yn unol â’r contract,

bydd y trosglwyddiad yn rhwymo’r landlord o’r diwrnod yn union ar ôl diwrnod olaf y cyfnod perthnasol.

(3)Mae adran 70 yn gymwys—

(a)fel pe bai’r trosglwyddiad wedi ei wneud yn unol â’r contract ac adran 69, a

(b)fel pe bai’r dyddiad trosglwyddo oedd y diwrnod yn union ar ôl diwrnod olaf y cyfnod perthnasol.

(4)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff taliadau eu derbyn gyntaf fel y disgrifir yn is-adran (2).

(5)Nid yw is-adrannau (2) a (3) yn gymwys os yw’r landlord, cyn diwedd y cyfnod perthnasol—

(a)yn cymryd camau i ddod â’r contract meddiannaeth i ben, neu

(b)yn dod ag achos llys i droi P allan fel tresmaswr neu’n dangos bwriad i drin P fel tresmaswr mewn unrhyw ffordd arall.

(6)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at drosglwyddiad yn cynnwys trosglwyddiad honedig nad yw’n cydymffurfio ag adran 69.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 71 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 71 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2