RHAN 3DARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH
PENNOD 8DELIO
Olynu
76Olynydd wrth gefn: aelod o’r teulu
1
Mae person yn olynydd wrth gefn i ddeiliad y contract os nad yw’n olynydd â blaenoriaeth i ddeiliad y contract ac—
a
os yw’n bodloni’r amod aelod o’r teulu,
b
os oedd yn meddiannu’r annedd fel ei unig gartref neu ei brif gartref pan fu farw deiliad y contract, ac
c
os yw’n bodloni’r amod aelod o’r teulu oherwydd adran 250(1)(c) (aelodau o’r teulu heblaw priod, partner sifil etc.), ei fod hefyd yn bodloni’r amod preswyliad sylfaenol.
2
Mae person yn bodloni’r amod aelod o’r teulu os yw’n aelod o deulu deiliad y contract.
3
Mae person yn bodloni’r amod preswyliad sylfaenol os oedd, drwy gydol y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â marwolaeth deiliad y contract—
a
yn meddiannu’r annedd, neu
b
yn byw gyda deiliad y contract.
4
Os oedd deiliad y contract yn olynydd â blaenoriaeth mewn perthynas â’r contract meddiannaeth, mae’r cyfeiriadau at ddeiliad y contract yn is-adrannau (2) a (3)(b) yn cynnwys y person a olynwyd gan ddeiliad y contract.