(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo landlord o dan gontract meddiannaeth—
(a)yn derbyn hysbysiad o dan ddarpariaeth hysbysiad deiliad contract, neu
(b)yn cytuno â deiliad y contract i ddod â’r contract i ben,
yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn adran 80(1)(a) a (b).
(2)Rhaid i’r landlord, cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn derbyn hysbysiad O neu (yn ôl y digwydd) â’r diwrnod y gwneir y cytundeb, roi hysbysiad i—
(a)meddianwyr yr annedd (ac eithrio O), a
(b)unrhyw olynwyr posibl nad ydynt yn meddiannu’r annedd, y mae eu cyfeiriad yn hysbys i’r landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, i unrhyw un ohonynt).
(3)Person sy’n gymwys i olynu’r deiliad contract blaenorol o dan adran 80 yw olynydd posibl.
(4)Rhaid i’r hysbysiad—
(a)datgan bod O wedi rhoi hysbysiad ei fod yn bwriadu dod â’r contract i ben neu fod O a’r landlord wedi cytuno i ddod â’r contract i ben, a
(b)egluro effaith adran 80.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 82 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 82 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2