RHAN 2LL+CCONTRACTAU MEDDIANNAETH A LANDLORDIAID

PENNOD 2LL+CNATUR CONTRACTAU Y GALL LANDLORDIAID CYMUNEDOL A LANDLORDIAID PREIFAT EU GWNEUD ETC.

DiffiniadauLL+C

9Landlordiaid cymunedolLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “landlord cymunedol” yw landlord sydd yn—

(a)awdurdod a grybwyllir yn is-adran (2),

(b)landlord cymdeithasol cofrestredig, heblaw cymdeithas dai gwbl gydfuddiannol neu gymdeithas dai gydweithredol, neu

(c)darparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig (gweler adran 80(3) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17)).

(2)Yr awdurdodau yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corfforaeth dref newydd;

(c)ymddiriedolaeth gweithredu tai;

(d)corfforaeth datblygu trefol;

(e)cydweithrediaeth tai y mae is-adran (3) yn gymwys iddi.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys i gydweithrediaeth tai (o fewn ystyr adran 27B o Ddeddf Tai 1985 (p. 68)) i’r graddau y mae unrhyw annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth wedi ei chynnwys mewn cytundeb cydweithrediaeth tai o fewn ystyr yr adran honno.

(4)Yn y Ddeddf hon, ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” yw person a gofrestrwyd ar y gofrestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(5)Yn y Ddeddf hon, mae i “cymdeithas dai gwbl gydfuddiannol” a “cymdeithas dai gydweithredol” yr un ystyr ag a roddir i “fully mutual housing association” a “co-operative housing association” yn Neddf Cymdeithasau Tai 1985 (p. 69) (gweler adran 1(2) o’r Ddeddf honno).

(6)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy reoliadau at ddiben—

(a)darparu nad yw person sydd ar y pryd yn landlord cymunedol yn landlord cymunedol;

(b)darparu bod person nad yw’n landlord cymunedol yn landlord cymunedol;

(c)newid disgrifiad o berson sydd ar y pryd yn landlord cymunedol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 9 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2