90Contractau safonol cyfnod penodol: canfod hyd y cyfnodLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion canfod am ba hyd y gwneir contract safonol cyfnod penodol.
(2)Os yw contract safonol cyfnod penodol yn denantiaeth, mae i’w drin fel pe bai wedi ei wneud am gyfnod sy’n dechrau pan gafodd y denantiaeth ei rhoi.
(3)Os yw contract safonol cyfnod penodol yn drwydded, mae i’w drin fel pe bai wedi ei wneud am gyfnod sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract.
(4)Mae contract safonol cyfnod penodol i’w drin fel pe bai wedi ei wneud am gyfnod o lai na saith mlynedd os yw’n opsiwn i’r landlord ei derfynu cyn diwedd y cyfnod o saith mlynedd sy’n dechrau pan fydd cyfnod y contract yn dechrau.
(5)Os yw contract safonol cyfnod penodol yn rhoi opsiwn i ddeiliad y contract adnewyddu’r contract am gyfnod a fyddai, o’i gyfuno â chyfnod gwreiddiol y contract, yn dod i saith mlynedd neu ragor, nid yw i’w drin fel pe bai wedi ei wneud am gyfnod o lai na saith mlynedd (oni bai bod is-adran (4) yn gymwys).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 90 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 90 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2