Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer cofrestru a rheoleiddio personau sy’n darparu gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd, gwasanaethau mabwysiadu, gwasanaethau maethu, gwasanaethau lleoli oedolion, gwasanaethau eirioli a gwasanaethau cymorth cartref; sy’n diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn cysylltiad â rheoleiddio swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol; ar gyfer ailenwi Cyngor Gofal Cymru yn Ofal Cymdeithasol Cymru; i Ofal Cymdeithasol Cymru ddarparu cyngor a chynhorthwy arall i bersonau sy’n darparu gwasanaethau sy’n ymwneud â gofal a chymorth; ar gyfer cofrestru, rheoleiddio a hyfforddi gweithwyr gofal cymdeithasol; ac at ddibenion cysylltiedig.
[18 Ionawr 2016]
Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Deddf diwygiwyd (2.4.2018) gan 1989 c. 41, Atod. 7 para. 5A (fel ei mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018 (O.S. 2018/195), rhlau. 2(1), 13(b))